Sunday, September 06, 2015

Y Blaid Lafur'Gymreig' a'r Gymraeg



Mae'n debyg ei bod ychydig yn anisgwyl bod ymgeisydd Llafur yn Arfon yn etholiadau Cynulliad y flwyddyn nesaf yn tynnu sylw at y ffaith bod cyfri trydar o 'r enw @PlaidSurge yn uniaith Saesneg - wedi'r cwbl ychydig fisoedd yn ol roedd Sion yn ceisio ffurfio cysylltiad rhwng darpariaeth ddwyieithog a hiliaeth.  Ond, a bod yn deg, ni all neb gyhuddo Sion ei hun o gadw cyfri trydar sydd ddim yn parchu'r Gymraeg - mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio'n amlach na'r Saesneg ganddo.

Fel mae'n digwydd mae yna reswm gweddol syml pam bod @PlaidSurge yn uniaith Saesneg - cyfrif preifat ydi o - mae'n cael ei gadw gan rhywun sy'n cefnogi 'r Blaid, a gallai fod yn aelod, ond dydi o ddim yn gyfrif Plaid Cymru.  Mae'n fwy na thebyg bod deiliaid y cyfrif yn ddi Gymraeg.  

Mae gan y Blaid bolisi dwyieithog cadarn - yn wahanol iawn i'r Blaid Lafur.  O ganlyniad mae cyfathrebu cyhoeddus y Blaid yn ganolog i gyd yn ddwyieithog - o'r cyfrifon trydar, i 'r cyfrif Gweplyfr, i'r wefan, i gyfrif trydar yr arweinydd.  Mae cyfathrebu mewnol y Blaid i gyd yn ddwyieithog hefyd.  Mae pwyllgorau mewnol y Blaid - y Cyngor Cenedlaethol, y Pwyllgor Gwaith a'r Gynhadledd yn gwneud defnydd o gyfieithwyr, ac maent yn cael eu cynnal yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg.  

Cymharer hyn efo'r Blaid Lafur 'Gymreig' sydd i pob pwrpas yn endid uniaith Saesneg.  Mae'n wir bod yr elfennau parhaol i'r wefan yn ddwyieithog - er bod y deunydd sy'n cael ei diweddaru o ddydd i ddydd bron yn ddi eithriad yn Saesneg.  Mae'r cyfrifon trydar - @WelshLabour, @WelshLabourStudents, @WelshLabPress, @WelshLabourGrassroots yn uniaith Saesneg.  Mae'r cyfrif Gweplyfr yn uniaith Saesneg.  Mae cynhadledd 'Gymreig' y blaid bron i gyd yn Saesneg, mae'r pwyllgorau mewnol a'r cyfathrebu mewnol gyd yn Saesneg, mae'r datganiadau i 'r wasg yn Saesneg ac mae bron i'r cwbl o'u haelodau Cynulliad yn defnyddio'r Saesneg a'r Saesneg yn unig yn eu gwaith pob dydd.  Hyd yn oed yma yn Arfon - etholaeth Gymreiciaf Cymru o ran iaith, ychydig iawn o Gymraeg a ddefnyddwyd gan eu hymgeisydd ym mis Mai ar ei gyfrif trydar.

Gan bod cyfrif preifat uniaith Saesneg sy'n digwydd bod yn gefnogol i Blaid Cymru yn ymddangos i boeni Sion, byddai'n ddiddorol gwybod beth mae o - neu'r ychydig o bobl eraill yng Nghymdeithas Cledwyn sy'n honni i fod yn garedigion y Gymraeg o ran hynny - wedi ei wneud i dynnu sylw'r Blaid Lafur yn ganolog at y ffaith ei bod yn endid sy'n dangos ychydig iawn, iawn o barch tuag at y Gymraeg. 

No comments: