Sunday, September 27, 2015

Buddugoliaeth i'r cenedlaetholwyr yng Nghatalonia

Rydym wedi cyffwrdd a'r stori am annibyniaeth Catalonia yn y gorffennol.  Ymddengys bod y pleidiau sydd o blaid annibyniaeth wedi ennill yn etholiadau Catalonia - ac maent yn cymryd hynny fel mandad am annibyniaeth.  Bydd llywodraeth geidwadol Sbaen yn gwneud pob dim o fewn eu gallu i atal hynny. 

Bydd y misoedd nesaf yn hynod ddiddorol - a helbulus yn ol pob tebyg.

Stori yma.

Gellir dilyn pethau yma.









2 comments:

William Dolben said...

lot o shin yn Sbaen a Chatalwnia wrth gwrs ond y gwir plaen ydi fod y cenedlaetholwyr wedi ennill mwyafrif o'r seddau (62-10 =72 allan o 135) ond lleiafrif o'r bleidlais (49,8% oedd y ffigur a welais i). Dyrys iawn. Petasai wedi bod yn refferendwm mi fuasent wedi colli o drwch blewyn


Cai Larsen said...

Dydi rhai o'r pleidiau eraill ddim yn gwrthwynebu annibyniaeth fel y cyfryw. Mi fyddai rhai o'u cefnogwyr nhw yn fotio Ia mewn refferendwm. Mae'r pleidiau di amwys Ia wedi cael mwy o bleidleisiau na'r rhai di amwys zna.