Tuesday, September 15, 2015

Mae wasg Seisnig yn boncyrs

Ymddengys bod yr holl wasg Seisnig ddyddiol wedi cael eu hunain mewn stad sy'n ymylu ar hysteria oherwydd bod anffyddiwr gwereniaethol o heddychwr  yn ymatal rhag canu can sy'n gofyn i Dduw sicrhau buddugoliaethau milwrol i frenhines.  Yn eu byd rhyfedd nhw mae methiant i ragrithio'n gyhoeddus yn fater o warth a chywilydd.

Ymddengys o'i gyfraniadau rhyfedd ar Newsnight bod Owen Smith yn rhyw gytuno efo nhw.

Hollol bisar.

5 comments:

William Dolben said...

chwerthinllyd ac unllygeidiog fel arfer. Doedd y ddynes wrth Ferguson ddim yn canu chwaith yn y llun a welais i. Mae'r lluniau eraill wedi'u cropio wrth gwrs i ffitio'r stori)

lwcus ei fod yn byw mewn gwlad "rydd" a goddefgar a dim yng Ngogledd Korea!

Anonymous said...

Nifer o Doriaid, fel Alun Cairns, yn cwyno'n arw am hyn heddiw, ond pwy tybed, sy'n cofio'r anhygoel John Redwood, y 'Governor General' yn 1993, yn dod i Gymru ac yn trio canu, sylweddoli nad oedd yn gwybod y geiriau na'r alaw, ac yna'n trio meimio (eto'n aflwyddiannus) Hen Wlad fy Nhadau.

I'r rhai ohonoch sydd naill ai wedi anghofio, neu yn rhy ifanc i gofio am hyn yna -

gwglwch 'John Redwood anthem'

Clasur os cafwyd un erioed!! Felly gwglwch a mwynhewch.

Cai Larsen said...

Diolch am y syniad

Dyfed said...

Hyd yma mae ymateb pleidliau'r chwith i Corbyn, yn cynnwys Plaid Cymru, wedi bod yn gymysglyd iawn.

Anonymous said...

Ac eto rydym ni, fel Cymry Cymraeg, yn barod iawn i feirniadu chwaraewyr rygbi yn y tîm cenedlaethol os nad ydynt yn gwybod geiriau’n hanthem ac yn morio canu cyn gêm! Rhyfedd o fyd!