Tuesday, September 01, 2015

Hanes Casnewydd yn ail adrodd ei hun

Mae'n ddigon posibl bod gan Paul Flynn bwynt bod ymgeiswyr lloches yn cael eu dosbarthu mewn modd anghyfartal, ac mae hefyd yn bosibl bod ymdrech fwriadol yn cael ei gwneud i sicrhau nad oes llawer o ymgeiswyr lloches yn cael eu hunain mewn etholaethau Toriaidd.



Ond mae yna rhywbeth chwithig am ddyn efo cyfenw fel Flynn sy'n cynrychioli etholaeth yng Nghasnewydd yn cwyno am ymgeiswyr lloches.  Casnewydd ydi ardal fwyaf Pabyddol Cymru.  Mae'r rhan fwyaf o'r Pabyddion sy'n byw yno efo'u gwreiddiau yng Ngorllewin Cork, ac maent yn byw yng Nghasnewydd oherwydd i filoedd o Wyddelod oedd yn llwgu lwyddo i ddianc ar fwrdd llongau oedd yn gadael Harbwr Cork yn ystod y Newyn Mawr - an Gorta Mor. Mae teulu fy ngwraig - Lyn- o 'r cefndir hwnnw - er mai i Gaerdydd yr aethant hwy.   Byddai'r llongau yn eu gadael ar hyd arfordir De Cymru gan wybod y byddai'n rhaid i awdurdodau'r plwyfi yma yn eu cadw'n fyw wedi iddynt gael eu darganfod.  

Mi fedrwn ni fod yn reit siwr bod roedd yna bobl fel Mr Flynn bryd hynny yn cwyno bod rhaid i ardal Casnewydd gymryd gormod o bobl oedd yn chwilio am loches.

1 comment:

Cneifiwr said...

Yn ol Paul Flynn, roedd yna gynnydd o 6% yn nifer yr ymgeiswyr lloches yng Nghasnewydd o 434 i 459 yn ystod yn hanner cyntaf eleni - h.y. "haid" o 23. Mae 459 yn cyfateb i 0.3% o boblogaeth y ddinas, tra bod y cynnydd yn cyfateb i 0.016% o'r boblogaeth.

Mae fy ngwraig yn dod o bentref bach gwledig yn ne ddwyrain yr Almaen (poblogaeth: rhyw 900), ac mae'r pentref hwnnw wedi derbyn llawer mwy na 23 o ymgeiswyr lloches eleni - o Syria, Eritrea, y Swdan yn ogystal a sawl teulu Roma.