Saturday, September 05, 2015

Pam ei bod yn bwysig nad Llafur sy'n arwain y llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd

Mi fydd rhai o ddarllenwyr Blogmenai wedi sylwi ar ffrwydriad anodweddiadol o weithgarwch gan Weinidog Cyntaf Cymru, Carwyn Jones.  Ymddengys ei fod yn gwneud ei ffordd o gwmpas Cymru tra'n honni gwneud rhywbeth arall cwbl anodweddiadol - gwrando.  

Y rheswm am hyn oll wrth gwrs ydi bod Carwyn eisiau pum mlynedd arall wrth y llyw yng Nghymru.  Mae'n bwysig er mwyn Cymru nad ydi o na'i blaid yn arwain llywodraeth Cymru ar ol y flwyddyn nesaf - mae Carwyn wedi methu yn bersonol a symud Cymru yn ei blaen ers cael ei ethol yn Brif Weinidog  ddiwedd 1999, ac mae ei blaid efo record o fethiant aleuthus ers 1999.  Llafur sydd wedi arwain pob llywodraeth ers 1999 - y nhw sy'n gyfrifol am pob methiant ers hynny.

Un o'r prif ddadleuon tros ddatganoli yn ol yn 1997 oedd y byddai ymreolaeth leol yn caniatau i lywodraeth Cymru fynd i'r afael a than berfformiad economaidd Cymru o gymharu a gweddill y DU.  Yn hytrach na chau y bwlch hwnnw, mae wedi agor ac wedi agor yn sylweddol.  Mewn termau cymharol mae Cymru yn dlotach heddiw nag oedd yn 1999.

Mae'n debyg i'r cyfryngau Seisnig wneud gormod o fethiannau'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a rhy ychydig o'r methiannau yn y Gwasanaeth yn Lloegr - ond record o fethiant ydi record Llafur Cymru beth bynnag.  Bu tan gyllido ers 2011, ceir methiannau yn y ddarpariaeth mewn perthynas ac argaeledd cyffuriau, profion a doctoriaid teulu mewn ardaloedd gwledig.  Mae yna ddiffyg cysondeb darpariaeth ar hyd a lled y wlad, mae'r ad drefnu sydd wedi ei orfodi ar Fyrddau Iechyd yn ansensitif ar y gorau ac yn orffwyll o wirion ar y gwaethaf.  

Prif faes gorchwyl arall y Cynulliad ydi addysg.  Mae'r ffordd mae Llafur wedi mynd i'r afael a'r Gwasanaeth Addysg yn esiampl pellach o ddiffyg crebwyll.  Yn ystod blynyddoedd cynnar y Cynulliad roedd y system wedi ei nodweddu gan hunan fodlonrwydd ynglyn ag allbwn y system ac ymgeisiadau di ddiwedd i ddefnyddio'r gyfundrefn i wireddu gwahanol amcanion cymdeithasol.  Wedyn yn sgil profion Pisa 2009 cafwyd panig gwyllt llywodraethol sydd wedi arwain at lunio system sydd mewn cyflwr o newid parhaus (gyda'r newidiadau yn aml yn groes i'w gilydd), sydd wedi ei lethu gan fiwrocratiaeth, lle mae pawb yn cael ei herio gan bawb arall a lle bod pawb efo baich gwaith cwbl afresymol.

Petai pobl Cymru yn caniatau i Lafur arwain y llywodraeth nesaf, yna byddai record hir o fethiant yn cael ei gwobreuo - a rydan ni i gyd yn gwybod beth ydi canlyniad gwobreuo methiant - mwy o fethiant.

No comments: