Monday, September 21, 2015

Ynglyn a Cameron ei fochyn a'i ddrygs

Mae am fod yn anodd 'sgwennu hwn i gyd a chadw wyneb syth, ond mi geisiwn ni ein gorau - mae yna oblygiadau difrifol i 'r holl stori.



Mi wnawn ni ddechrau efo'n cyfeillion yn y Bib.  Roedd y stori wedi ei chladdu yn dwfn yn un o gorneli bach tywyll Newyddion 9 heno.  Cymrodd oriau maith i'r Bib lwyddo i gael eu hunain i gyfeirio at y stori o gwbl. 'Amheus' oedd yr ansoddair a ddefnyddwyd gan Newyddion 9 i ddisgrifio seremoni dderbyn honedig Cameron.  Amheus?   

Mewn amserau arferol mae'r Bib yn ceisio bod yn ddi duedd - ac efallai bod hynny'n fwy gwir am y Bib yng Nghymru na'r Bib yn yr unman arall.  Ond pan mae'n dod iddi - refferendwm yr Alban, digwyddiadau brenhinol, cefnogi rhyfeloedd tramor dw lali, embaras i'r sawl sy'n rhedeg y wladwriaeth, mae'n cyflawni ei phwrpas - amddiffyn buddiannau'r elitiau sy'n rheoli'r wladwriaeth Brydeinig.

Yn ail dyma i ni'r busnes anffodus yma o seremoni dderbyn honedig Cameron i Gymdeithas Piers Gaveston.  Rwan dydi grwpiau fel hyn ddim yn arbennig o anarferol ymysg dynion ifanc (yn bennaf) mewn  sefydliadau addysgol eltaidd.  Yn wir mae yna bwrpas iddynt - mae rhannu profiadau fyddai'n gryn embaras mewn cylchoedd arferol yn ffordd o gryfhau'r cysylltiadau oddi mewn i grwp - er bod rhaid cyfaddef ei bod yn ymddangos bod y grwp yma'n mynd ymhellach na'r rhan fwyaf yn y cyswllt hwn.  Mae pawb yn gwybod rhywbeth am bawb oddi mewn i'r grwp - felly does neb yn dweud dim.  Mae pawb yn cadw cyfrinach pawb.  Mae bod yn perthyn i grwp felly sydd efo buddiannau a gwybodaeth yn gyffredin i'w haelodau o gymorth wrth rwydweithio yn y dyfodol.  Mae llawer o'r sawl sydd yn llywodraethu efo Cameron gyda chefndiroedd hynod o debyg iddo - wedi mynd i'r un Brifysgol tua'r un pryd ar ol mynychu ysgolion bonedd tebyg.  Mae llawer o 'r bobl sy'n rhedeg pob dim arall yn y DU o gefndiroedd tebyg iawn hefyd. Dydi Cymru ddim fel hyn beth bynnag glywch chi am y Taffia - dydi hanner aelodau'r cabinet heb fod ym Mhrifysgol Aberystwyth na wedi bod yn aelodau o'r Geltaidd - nid fy mod yn gwneud cymhariaeth rhwng y Geltaidd a'r Piers Gaveston wrth gwrs.

Ac yn drydydd dyna i ni statws trethiannol Ashcroft pan oedd yn ariannu Plaid Geidwadol Cameron.  Wna i ddim aros gormod efo hon - mae'r pleidiau gwleidyddol ar yr achos yna.  Ond byddai goblygiadau bod wedi dweud celwydd am hynny yn fwy difrifol, os yn llai gogleisiol na busnes rhyfedd y mochyn.


No comments: