Sunday, September 13, 2015

Goblygiadau buddugoliaeth Corbyn - nodiadau brysiog

Dwi'n siwr y cawn ni gyfle yn y dyfodol agos i drafod natur gwleidyddiaeth Corbyn - ond dwi ddim yn credu'r naratif sefydliadol / cyfryngol bod yr wleidyddiaeth honno yn rhwym o fod yn amhoblogaidd - mae datblygiadau etholiadol ar draws Ewrop yn dangos hynny yn weddol glir.  Yn wir byddwn yn troi'r naratif bod Corbyn yn ddrychiolaeth o'r gorffennol a'i ben i lawr.  Blair ac Adain Dde Llafur sy'n byw yn y gorffennol mewn gwirionedd - maent yn dal i ail adrodd dadleon yr wyth degau fel petai strwythur yr economi heb newid, fel petai'r rhaniadau oddi mewn i gymdeithas heb newid, fel petai lleoliad gwleidyddol y pleidiau eraill heb newid, fel petai'r bygythiadau milwrol heb newid, fel pe bai'r  Blaid Lafur heb gael ei dadberfeddu'n fyw yn wyneb ymtsodiad ffyrnig o'r Chwith iddi.  Ond materon i ddiwrnod arall yd'r rhain mewn gwirionedd - pwrpas y blogiad yma ydi edrych ar y goblygiadau i Gymru.



Ar un olwg mae ethol Corbyn yn anghyfleus a dweud y lleiaf i'r Blaid (a'r SNP).  Mae yna lai o ddwr rhyngom ni a Llafur na fu ers blynyddoedd lawer.  Mae am fod yn anodd disgrifio plaid sy'n cael ei harwain gan Corbyn fel Toriaid Coch na rhyfelgwn anghyfrifol.  Ond mi fydd yna gyfleoedd yn codi ac mae'n bwysig cymryd mantais ohonynt.  Nid ei bolisiau fydd prif  broblem Corbyn, ond ei 'ffrindiau'.  Bydd Adain Dde ei blaid yn gwneud yr hyn allant i'w danseilio o'r diwrnod cyntaf.  Maent eisoes wedi gwneud hynny'n glir.  Byddai 'n well gan adain Blairaidd y Blaid Lafur weld llywodraeth Doriaidd nag un Lafur o dan arweinyddiaeth Corbyn.  Mae record Adain Dde Llafur o golli gydag urddas yn wael - a dweud y lleiaf.  Poerwyd y dwmi allan o'r goets go iawn yn wyth degau'r ganrif ddiwethaf, ac aethwyd ati i ffurfio plaid newydd - yr SDP.

Ac mi fedrwn fentro y bydd y Toriaid yn gyffredinol, a'r canghellor yn benodol - y canghellor mwyaf 'gwleidyddol' ers Lawson - yn gwneud pob dim o fewn eu gallu i gymryd mantais o'r rhaniadau hynny a'u chwyddo.  Ar ben hynny mae'r cyfryngau bron yn unffurf wrthwynebus i Corbyn i ryw raddau neu'i gilydd - mae hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o'r wasg draddodiadol Lafur a'r Bib.  Gallwn fod yn siwr y byddwn yn clywed y datganiadau di ddiwedd gan rai o aelodau cabinet cysgodol Llafur - a wnaed yn ystod yr ymgyrch - nad ydi Corbyn yn addas i fod yn Brif Weinidog trosodd a throsodd a throsodd.

Yn ychwanegol at hynny dydi hi ddim yn glir o gwbl hyd yn hyn sut berthynas fydd yna rhwng y Blaid Lafur 'Gymreig' a'r un Brydeinig.  Ychydig iawn o annibyniaeth barn mae 'r Blaid Lafur 'Gymreig' wedi ei ddangos hyd yn hyn - dydi hi ddim yn glir beth fydd yn digwydd os ydi Carwyn Jones yn ceisio torri ei gwys ei hun - er bod mwyafrif llethol aelodau ei blaid yng Nghymru wedi pleidleisio i Corbyn yn ol pob tebyg.

Gallwn fod yn siwr y bydd rhaniadau yn codi yn y math yma o dirwedd - y gamp i'r Blaid fydd cymryd mantais ohonynt.


1 comment:

Anonymous said...

Jest gobeithio na fyddwn yn disgyn eto i'r trap o geisio dadlau o blaid 'clymblaid y chwith' i wrthwynebu cyni. Dylai profiad yr etholiad cyffredinol fod yn ddigon o brawf o fethiant y cysyniad hwn. Mi wn i mai Etholiad Cymru yw hwn, ond gyda pholisiau Corbyn yn debyg o fod yn boblogaidd yng Nghymru- bydd yna demptasiwn unwaith eto i geisio perswadio'r etholwyr ein bod ninnau hefyd yn 'cyd-deithio gyda Corbyn'.


A yw'n ormod i ofyn am neges genedlaetholgar gref sy'n seiliedig ar anghenion Cymru ei hun, yn hytrach na cheisio ffafr gyda'r 'Guardianista' a'u tebyg er mwyn dangos pa mor eangfrydig a chynhwysol yr ydan ni??