Saturday, January 31, 2015

Ynglyn a bod yn ffeind efo'r Gwyrddion

Gan bod yna cymaint o son wedi bod yn yr hyn sydd ar ol o'r blogosffer am y cytundeb / cynghrair neu beth bynnag rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Werdd - mae'n siwr y byddai'n well i mi ddweud gair neu ddau.  Mae blog Jason yn cwmpasu llawer o'r ddadl.

Cyn cychwyn mae'n werth dweud fy mod yn meddwl  bod pobl wedi rhoi dau a dau at ei gilydd a chael pump.  Mae'n wir i arweinyddion y Blaid Werdd. (Brydeinig), Plaid Cymru, a'r SNP gyfarfod a mynegi gwrthwynebiad ar y cyd i bolisiau llymder y prif bleidiau unoliaethol, ac mae'n wir i Dafydd Wigley ddweud rhywbeth ffeind am y Gwyrddion yng Lloegr.  Ond dydi hynny ddim yn strategaeth.  Dau ddigwyddiad, neu ddatganiad ydyn nhw.  Mae'n synhwyrol tynnu sylw at y ffaith nad ydi'r Blaid ar ei phen ei hun yn gwrthwynebu toriadau mewn gwariant cyhoeddus - dyna beth ydi llymder yn y bon - mae hynny'n gwneud y gwrthwynebiad hwnnw yn fwy perthnasol.

Rwan, dwi ddim yn meddwl bod rhaid gwneud mwy na hynny a dweud y gwir - ond mae'n bosibl adeiladu achos tros gydweithredu ffurfiol rhwng y tair plaid - ar y mater yma - ac yn ystod yr ymgyrch etholiadol yma.  

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi nad ydi dweud pethau ffeind am bleidiau gwleidyddol eraill o angenrhaid yn beth drwg - er bod rhaid cyfaddef nad ydi caredigrwydd at elynion gwleidyddol yn un o rinweddau'r blog yma.  Mae'n hen draddodiad mewn etholiadau Gwyddelig i wrthwynebwyr gwleidyddol ffyrnig ddechrau dweud pethau ffeind am ei gilydd fel mae etholiad yn dod yn nes.  Y rheswm am hynny ydi bod y drefn etholiadol yno yn golygu y gall pobl roi eu ail, trydydd pleidlais ac ati i bleidiau eraill.  Ymgais i gael ail a thrydydd pleidlais ydi'r caredigrwydd - nid caredigrwydd o waelod calon.

Rwan mae ein trefn etholiadol ni yn wahanol - ond mae caredigrwydd tactegol yn digwydd yma hefyd.  Mi gadwodd y diweddar Wyn Roberts sedd ymylol Conwy am flynyddoedd maith trwy beidio ypsetio neb a bod yn weddol ffeind efo pawb yn ei dro. Gallai aelod presenol Aberconwy ddysgu gwers neu ddwy ganddo yn hynny o beth.  Mae Glyn Davies, Maldwyn yn arbenigwr ar y grefft o'ch argyhoeddi ei fod yn cytuno efo chi (a phawb arall) yn y bon.  

Os oes ymchwydd yn y bleidlais Werdd tros y DU -  ac mae'r polau tros yr ychydig fisoedd diwethaf yn awgrymu hynny - mae'n gwneud synnwyr i geisio apelio at y bleidlais honno.  Mae hyn yn arbennig o wir yn yr achos yma - dydi'r Blaid ddim yn gartref naturiol i'r elfennau Seisnig, dinesig sydd yn tueddu tua'r Blaid Werdd.  Mae yna ffynhonell posibl o bleidleisiau sydd ddim ar gael fel rheol.  

Y broblem strategol - fel mae fy nghyd flogwyr wedi awgrymu - ydi'r Blaid Werdd Gymreig.  Dydi o ddim yn gyfrinach bod yna elfennau lleiafrifol oddi mewn i'r Blaid Werdd Gymreig sy'n gydymdeimladol tuag at y Blaid - ond son am leiafrif ydym ni.  Mae'r blaid yn cael ei rhedeg gan elfennau digon gwrth Gymreig.  

Petai strategaeth yn bodoli i apelio at y pleidleiswyr Gwyrdd newydd y ffordd o wneud hynny fyddai pwysleisio'r hyn sy'n gyffredin yn agweddau Plaid Cymru a'r Gwyrddion tuag at bolisiau economaidd tra'n pwysleisio nad oes gan y Blaid Werdd obaith o wneud dim ohoni yng Nghymru - does ganddyn nhw ddim peirianwaith yn y rhan fwyaf o'r wlad, a does ganddyn nhw ddim ymgeiswyr mewn lle yn y rhan fwyaf o lefydd chwaith.  Ffactorau Prydeinig - nid apel Pippa Bartolotti a'i ffrindiau sy'n gyrru pobl tuag at y Gwyrddion yng Nghymru.  Byddai tynnu sylw at unrhyw wahaniaethau rhwng y Gwyrddion Seisnig a Chymreig yn rhan o strategaeth felly - yn ogystal a chyfeirio at bolau megis yr un BBC a gyhoeddwyd echdoe oedd yn rhoi pleidlais y Gwyrddion ar hanner pleidlais y Blaid.  

Fel y dywedais, does yna ddim strategaeth o gyngrheirio efo'r Gwyrddion - ond petai yna un, fyddai hynny ddim o anghenrhaid yn 'stiwpid' chwadl Jason.

5 comments:

Anonymous said...

Mae'n bryder gen i fod y blaid mor ffeind efo Llafur hefyd, wneith hynny ddim lles o gwbl i ni. Cymru ar dudalen flaen y Sunday Times eto "Wales prooves that Labour will fail our pupils". Anodd dadlau yn erbyn y gosodiad o weld sut mae Llafur wedi trin addysg ers 1999.

Anonymous said...

Y ffaith trist amdanni Cai yw fod fots yn symud o Lafur ond does dim un, dim un, yn dod at Blaid Cymru!

'Da ni'n styc ar 11%. Dydy'r Blaid heb godi (yn wir mae'n dirywio) ers 1999.

Dyna'r unig blaid genedlaetholaidd yn Ewrop sy'n gweld ei chefnogaeth yn dirywio. Yr unig un!

Dydy ceisio cael 'o bach' gan y 'progressives' (gan gen i'r term yna - yr union derm sy'n troi pobl gyffredin dosbarth gweithiol oddi ar bobl hunanbwysig) ddim yn gweihtio.

Gallaf ddeall y strategaeth o roi cyd-destun Brydeinig i fot i'r Blaid. Mae hynny'n glyfar, ond os nad yw pennaeth y Gwyrddion yn barod i ddweud rhwybeth i'r perwyl ei bod yn cefnogi'r Blaid mewn seddi ymylol (ond pam ddylse hi?!) yna, rydym ni wedi rhoi hygrededd i blaid sydd prin yn bodoli. Oes ganddyn nhw unrhy gynhorwyr sir?!

Ioan said...

"Fel y dywedais, does yna ddim strategaeth o gyngrheirio efo'r Gwyrddion - ond petai yna un, fyddai hynny ddim o anghenrhaid yn 'stiwpid' chwadl Jason."

Dwi'n ama bysa fo'n stupid. Mi faswn i'n cael trafferth pleidleisio i blaid fyddai mewn cyngrair efo'r Green pary of Englandandwales (chwedl Jac), a dwi rioed wedi pleidleisio i neb arall.

Mae 'na lot o bobol yn casau y Blaid Werdd.

Gwyn Jones said...

Mae'r Blaid Werdd yn blaid totalitaraidd sy'n gorfodi ni, y wi wili werin, i wneud pethau nad ydym eisiau. Ond wedi meddwl mae arweinyddion Plaid Cymru yr un fath o bobl hefyd.
Dyw rhyddid ddim yn eu geirfa. 'Rydym wedi cael hunan lywodraeth, sosialaeth ddatganoledig ac yn y blaen. Beth yn union mae'r blaid yn ei gredu nawr? Does neb yn gwybod.

Gwyn

Cai Larsen said...

Gwyn, dim ond plaid sydd mewn grym all dy orfodi di i wneud unrhyw beth. Dydi dy neges ddim yn gwneud unrhyw synnwyr.

Anon 10:01 - mae yna wirionedd yn yr hyn ti'n ei ddweud - ond mae amgylchiadau Catalonia ac ati yn wahanol i'n un ni. Maen nhw'n endidau cyfoethog mewn gwladwriaethau tlotach - mae yna gymhelliad cryf i dorri'n rhydd. Mae'n fater sydd werth blogiad cyfan a dweud y dydd.

Ioan: Does yna ddim cynghrair na strategaeth. Tacteg i gael sylw yn y cyfryngau Seisnig oedd mynd i Lundain. Mae'r rhan fwyaf o Gymry yn cael eu newyddion o'r cyfryngau Seisnig.