Mae pethau'n dyn iawn o hyd - ond mae'n ymddangos bod pethau yn symud i gyfeiriad y Toriaid - er bod y naill brif blaid fawr unoliaethol a'r llall ymhell, bell oddi wrth fod a'r ffigyrau i gael mwyafrif llwyr.
Mi fydd Llafur yn gwneud mor a mynydd o'r ffantasi bod posibilrwydd y gallant ennill grym ar eu pen eu hunain. Fedran nhw ddim gwneud hynny ar hyn o bryd, a does yna ddim lle i feddwl y bydd hynny yn newid tros y can niwrnod nesaf. Yr unig bosibilrwydd sydd gan Lafur o ddod i rym unwaith eto ydi gyda chefnogaeth pleidiau eraill. O safbwynt Cymru mae'n bwysig bod ganddi ei llais mewn cytundeb felly - a'r unig ffordd y bydd hynny'n digwydd ydi os bydd yna ddigon o bleidwyr yn cael eu hethol i wneud gwahaniaeth.
Dydi o ddim ots faint o aelodau seneddol Llafur caiff eu hethol o Gymru, dydi o ddim am wneud gwahaniaeth i'r mathemateg sylfaenol - does yna ddim digon ohonyn nhw i wneud gwahaniaeth. Fydd gan Gymru ddim mymryn mwy o ddylanwad os mai 20 aelod seneddol Llafur sy'n cael eu hethol neu 35.
Mae pleidlais i Lafur yn wastraff pleidlais y tro hwn - mae'n bleidlais fydd yn lleihau dylanwad Cymru.
3 comments:
angen newid enw i welsh national party, ni methu bod yn y doldrums am byth ydyn ni? be ma pc yn neud? ma nhwn ara bach yn lladd ei hun?
Dw i wedi darogan ers tro mai y Toriaid fydd y blaid fwyaf gan y bydd y Ceidadwyr hynny sydd wedi protestio trwy UKIP yn dychwelyd i'r ffald pan fo'r bleidlais yn cyfri. Hefyd mae UKIP wedi dwyn llawer mwy o gefnogwyr gan Lafur na 'da ni'n ystyried.
Cytuno o ran UKIP. Mae Llafur yng nghanol dre Llanelli a Phorth Tywyn yn colli pleidleisiau iddynt.
Amser a ddengys.
Tristwch yw y dylem fod yn ennill cyn pleidleiswyr Llafur drosodd NID plaid genedlaethol Lloegr.
Post a Comment