Mae yna 40 o etholaethau yng Nghymru ac mae Ladbrokes yn cynnig prisiau yn yr amrediad 1/33 - 1/100 mewn 26 ohonynt ar gyfer etholiad cyffredinol 2015. Mewn geiriau eraill ym marn y bwci mae canlyniadau pob etholaeth yng Nghymru ond am 14 fwy neu lai yn anhepgor. Neu i edrych ar bethau mewn ffordd ychydig yn wahanol dydi etholwyr 65% o etholaethau Cymru ddim am gael unrhyw ddylanwad o gwbl ar yr etholiad oherwydd bod y canlyniad yn eu hetholaeth eisoes yn anhepgor. Waeth i bron i 2/3 pobl Cymru beidio a phleidleisio oherwydd na fyddan nhw'n cael unrhyw ddylanwad ar yr etholiad o gwbl.
Mi fyddai rhywun yn meddwl y byddai'r pleidiau gwleidyddol unoliaethol eisiau mynd i'r afael ag anhegwch anemocrataidd fel hyn - mae yna pob math o ddulliau o bleidleisio sy'n rhoi llais i bawb. Gall Llafur gael 70% o seddi Cymru ar lai na 35% o 'r bleidlaid. A bod yn deg a Miliband roedd o blaid newid y drefn (rhyw ychydig) i gyfundrefn AV yn ol yn 2011. Byddai'r newid wedi bod yn fach ond yn gam i'r cyfeiriad cywir. Roedd nifer o aelodau Llafur Cymru yn erbyn hyd yn oed y newid bach yma - gan gynnwys Nick Smith ac Ann Clwyd.
Roedd y Toriaid hefyd yn erbyn wrth gwrs. Mae eu penderfyniad i ymgyrchu yn erbyn AV yn debygol o gostio etholiad cyffredinol 2015 iddynt. Y tebygrwydd ydi y bydd UKIP yn cymryd llawer o bleidleisiau oddi ar y Toriaid yn Lloegr, ond yn methu ag ennill llawer o seddi. O dan gyfundrefn AV byddai llawer o'r pleidleiswyr hyn wedi rhoi eu hail bleidlais i'r Toriaid gan wthio'r Toriaid heibio gwrthwynebwyr Llafur a Lib Dem. Mae'n debyg hefyd y byddai llawer o ail bleidleisiau Lib Dem - ac i raddau llai Llafur - yn mynd i'r Toriaid i gadw UKIP allan.
Mae'n bosibl i etholiad 2015 ei cholli i'r Toriaid yn 2011 pan benderfynodd Cameron ymgyrchu yn erbyn AV.
No comments:
Post a Comment