Mae'n ddiddorol i Alun Pugh - darpar ymgeisydd Llafur yn Arfon - areithio yn erbyn datblygiad diwydiannol ym Mro Pebin, Penygroes bron yn gyfangwbl trwy gyfrwng y Saesneg. Mae 'n anodd meddwl am gynulleidfa mwy Cymreig na thrigolion Bro Silyn mewn cyfarfod o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd. Ond Saesneg oedd yr iaith a ddefnyddwyd bron yn gyfangwbl. Os nad yw Mr Pugh yn defnyddio'r Gymraeg yn gyhoeddus mewn amgylchiadau fel hyn, mae'n anodd dychmygu ym mhle yn union mae'n fodlon gwneud hynny.
Rwan mae dyn yn deall mai dysgwr ydi Mr Pugh, ac nad yw mor gyfforddus yn y Gymraeg nag yw yn y Saesneg. Ond petai yn cael ei ethol i gynrychioli etholaeth Gymreiciaf Cymru o ran iaith - mae mwyafrif llethol y wardiau 80%+ yn siarad y Gymraeg oddi mewn ei ffiniau - yna byddai'r ardal yn cael ei chynrychioli am y tro cyntaf erioed gan berson sydd yn anfodlon defnyddio'r Gymraeg yn gyhoeddus.
Does gen i affliw o ddim yn erbyn pobl sy'n dysgu'r Gymraeg - dwi'n ddiolchgar iddynt am gymryd y drafferth. Ond y Gymraeg ydi iaith gymunedol a chyhoeddus y rhan fwyaf o gymunedau Arfon. Petai Mr Pugh yn cael ei ethol - nid fy mod yn meddwl y bydd hynny'n digwydd - byddai perygl i pob digwyddiad cymunedol a fynychid ganddo gael ei Seisnigeiddio. Mae perygl y byddai ethol Mr Pugh yn arwain at chwystrelliad o Seisnigrwydd i lif gwaed y cymunedau Cymreiciaf yng Nghymru.

No comments:
Post a Comment