Sunday, February 25, 2024

Sut i beidio gwneud ffrindiau a dylanwadu ar bobl

 Y cefndir yn ofnadwy o fras ydi bod Brexit wedi arwain at newidiadau sylweddol yn y ffordd mae’r diwydiant amaethyddol yn cael ei ariannu.  Arweiniodd at leihad yn y lefel o gymorthdaliadau sydd ar gael, at gynnydd yn y gystadleuaeth dramor yn sgil agor marchnadoedd yn Awstralia, Seland Newydd ac ati a gosod y broses o ddyrannu cymorthdaliadau yn nwylo Llywodraeth Cymru yn hytrach na’r UE.  

 Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ymgynghori ynglŷn a’r amodau mae nhw yn eu cysylltu efo dyrannu’r cymorthdaliadau - mae’r amodau yn ymwneud a chamau i leihau alldyniadau carbon ar ffermydd.  Mae ffermwyr yn wrthwynebus iawn i rai o’r mesurau sy’n ymddangos yn yr ymgynghoriad  - ac yn ôl un adroddiad, petai’r mesurau i gyd yn cael eu gweithredu gallai hynny arwain at golled o tua 11% yn y nifer o bobl sy’n gweithio yn y diwydiant  - tua 5,500 o bobl i gyd.  ‘Dydi hi ddim yn annisgwyl bod y diwydiant - a’r sawl sydd yn gweithio yn y diwydiant - yn anniddig felly.  

 Yn anffodus mae hyn oll yn digwydd mewn cyd destun ehangach - mae anniddigrwydd amaethyddol ehangach mewn nifer o wledydd Ewropeaidd ac mae rhywfaint, er nad y cwbl o bell ffordd o hyn yn gysylltiedig a mesurau mae llywodraethau yn eu cymryd i amddiffyn yr amgylchedd. Mae yna nifer o ddamcaniaethau cynllwyn yn cael eu lledaenu gan y Dde eithafol ar hyn o bryd sy’n gysylltiedig mewn rhyw ffordd neu’i gilydd a ffermio ac mae’r awyrgylch wleidyddol yn y DU yn wyllt ar hyn o bryd - fel mae  pob amser yn y misoedd sy’n arwain at Etholiad Cyffredinol pan mae newid mawr yn debygol.   

 Mae’r olaf o’r rhain – yr Etholiad Cyffredinol sy’n brysur ddynesu – yn hynod berthnasol i ymweliad y ffermwr a’r arch hunan hyrwyddwr  - Gareth Wyn Jones - a chynhadledd y Torïaid Cymreig ddydd Gwener.  




 Mae’n debyg iddo ymddangos yn y Gynhadledd yn Llandudno ar flaen nifer o dractoriaid a chrefu ar wleidyddion Torïaidd i orchymyn Llywodraeth Cymru i ufuddhau i’w orchmynion, cyn mynd ati i roi nifer o photo ops amhriodol o hapus yr olwg (ag ystyried yr hyn roedd yn cwyno amdano) i Dorïaid Cymreig blaenllaw, a felly greu’r argraff bod gwleidyddion sydd wedi achosi niwed sylweddol a phell-gyrhaeddol i amaethyddiaeth yng Nghymru yn sgil eu Brexit caled, yn garedig ïon i’r diwydiant.  Mae’n debyg bod y delweddau a ddangoswyd yn helaeth ar y cyfryngau prif lif, wedi troi stumog llawer iawn, iawn o bobl yng Nghymru.

 Yn fras - ac a bod yn garedig iawn - roedd  ymarferiad Mr Jones yn un hynod naïf, ac yn un sydd a photensial i fod yn niweidiol iawn i achos y ffermwyr.  

 Roedd yr honiad nad oedd yr ymweliad yn un gwleidyddol yn gwneud yr holl beth yn waeth ac yn fwy naïf (os ydi hynny’n bosibl)  - ‘does yna ddim un amgylchedd o dan haul mwy gwleidyddol na chynhadledd plaid wleidyddol ychydig fisoedd cyn Etholiad Cyffredinol – gallwch gymryd hynny gen i. 

 Ystyrier y canlynol:  

 Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu yn y diwedd beth fydd yr amodau fydd ynghlwm a chymorthdaliadau. ‘Dydi creu argraff bod y diwydiant yn ceisio rhoi hwb etholiadol i brif elynion gwleidyddol Llywodraeth Cymru ddim am helpu cael setliad sy’n ffafriol i ffermwyr.  Mae’n cythruddo pobl sydd efo cryn dipyn o rym tro ddyfodol y diwydiant.




 Mae’r Blaid Doriaidd Brydeinig ar hyn o bryd yn polio rhwng 20% a 29%.  ‘Dwi’n eithaf siwr nad oes yna’r un blaid lywodraethol wedi polio mor wael mor agos at Etholiad Cyffredinol erioed o’r blaen.  Mewn geiriau eraill ‘does yna erioed blaid lywodraethol arall wedi bod mor uffernol o amhoblogaidd na’r un bresennol. Gallwn fod yn hollol siŵr y byddant yn colli grym yn ystod y misoedd nesaf, a gallwn fod yn eithaf siŵr na fyddant yn ymarfer grym eto am ddeg mlynedd o leiaf, ac efallai cryn dipyn mwy na hynny.  Duw yn unig a wŷr pam y byddai unrhyw un eisiau cysylltu ei achos efo grym gwleidyddol sy’n cilio i’r tywyllwch - clymu ei hun i anifail sy’n marw.  

 A nid yn unig hynny.  Mae mynd ati i grefu ar Blaid Doriaidd hynod amhoblogaidd i ymyrryd yn hawliau Senedd Cymru i wneud penderfyniadau yn  creu risg sylweddol o elyniaethu carfan arall - a charfan hynod bwysig yn y Gymru wledig - cenedlaetholwyr Cymreig.  

 Mae antics Gareth Wyn Jones yn bygwth ynysu’r diwydiant yn llwyr ar amser pan mae angen cymaint o ffrindiau a phosibl arno. 

 




Y ffordd ymlaen i ffermwyr Cymru mewn cyfnod o newid sylweddol ydi gweithio trwy’r undebau amaethwyr – sy’n cael eu harwain yn effeithiol – i ymateb i’r heriau sylweddol sy’n eu hwynebu mewn cyfnod o newid arwyddocaol, ac nid i ddilyn llwybrau sydd yn debygol o’u hynysu a gelyniaethu yn ddi angen.  Llwybr felly oedd Gareth Wyn Jones yn ei droedio i Landudno ddydd Gwener.

No comments: