Mae'r ffrae ynglyn a'r dadleuon gwleidyddol ar y cyfryngau yn codi materion digon diddorol. I'r graddau ei bod yn bosibl dilyn rhesymeg y penderfyniad i gyfyngu'r ddadl i un rhwng UKIP, Llafur, y Dib Lems a'r Toriaid, mae'n ymddangos nad ydi Plaid Cymru na'r SNP yn cael cymryd rhan oherwydd nad ydynt yn bleidiau 'cenedlaethol' ac nad ydi'r Gwyrddion oherwydd nad ydynt mor boblogaidd a'r lleill - ym marn OFCOM.
A gadael o'r neilltu idiotrwydd y rhesymu yma am funud, mae'r penderfyniad yn gwneud anghymwynas a'r etholwyr - ac mae hynny'n cynnwys etholwyr Seisnig. Fel mae pethau 'n sefyll bydd y cyfryngau yn sicrhau bod y ddadl etholiadol yn cael ei chynnal ar dir cul iawn rhwng pedwar miliwnydd o Dde Ddwyrain Lloegr sydd yn cytuno efo'i gilydd ar bron i bob dim - a sydd a buddiannau ariannol personol digon tebyg.
Mae yna berspectif arall - bod y toriadau wedi gwneud y wladwriaeth yn llai abl, ac nid yn fwy abl i ddelio efo'r ddyled genedlaethol strwythurol, ac nad ydi'r ddyled honno mor uchel a hynny o gymharu a safonau hanesyddol a rhyngwladol beth bynnag. Caiff y dehongliadau amgen eu gwyntyllu ar rhyw ffurf neu'i gilydd mewn llawer o wledydd Ewrop - nid yw'n cael unrhyw le yn y ddisgwrs 'genedlaethol' yn y DU. Mae hynny oherwydd bod y bedair brif blaid unoliaethol yn agos iawn at ei gilydd o ran polisiau economaidd / cyllidol.
Mae'n ddigon naturiol felly i aelodau seneddol UKIP, Llafur, Toriaidd a Lib Dems drampio trwy lobi'r Ty Cyffredin i bleidleisio tros doriadau enbyd mewn gwariant cyhoeddus fel y gwnaethant ddoe - toriadau sydd am chwalu gwasanaethau cyhoeddus a rhoi degau o filoedd o bobl allan o waith.
Mae'n ddigon naturiol felly bod y bedair brif blaid unoliaethol yn credu y dylid cyfyngu ar fudd daliadau - er bod anghytundeb ynglyn a'r graddau y dylid gwneud hynny.
Mae yna ychydig mwy o amrywiaeth o ran y prif bleidiau ynglyn a pholisiau tramor. Mae UKIP, Llafur a'r Toriaid yn tueddu i fod yn frwdfrydig iawn tros ymagweddu'n ymysodol mewn materion tramor a mynd i ryfel ar yr esgus lleiaf. Mae'r Dib Lems yn fwy amheus am y math yma o beth fel rheol. Mae'r bedair blaid yn hoff o'r syniad o adnewyddu system WMD Trident, er bod y Dib Lems eisiau tair yn hytrach na phedair llong danfor. 'Dydi'r rhan fwyaf o wledydd ddim yn cymryd yn ganiataol bod ganddynt yr hawl i ymyryd yn filwrol ar hyd a lled y Byd - a dydyn nhw ddim yn ceisio gwneud hynny. Does gan y rhan fwyaf o wledydd ddim uchelgais i gael gwell WMDs na phawb arall chwaith.
Mae polisi UKIP yn wahanol o ran Ewrop, ond ar wahan i'r cwestiwn o refferendwm mae agwedd y tair blaid unoliaethol arall yn debyg - gorfodi llymder ar draws y cyfandir, osgoi mwy o intigreiddio a pheidio a chyffwrdd yr Ewro efo polyn. Mae'r Toriaid wedi closio at UKIP ynglyn a'r cwestiwn o refferendwm.
Mae'r Llafur a'r Toriaid wedi closio at agweddau gwrth fewnfudo UKIP i'r graddau bod y ddwy blaid yn gadael eu hunain yn agored i gyhuddiad o senoffobia. Mae'r Dib Lems wedi addasu eu safbwynt rhyddfrydig rhyw gymaint yn wyneb twf UKIP hefyd.
Y gwir amdani ydi bod consensws gwleidyddol efo hanes sobor o sal o fod yn gywir. Arweiniodd consensws ynglyn a pholisi economaidd at lanast economaidd 70au'r ganrif ddiwethaf - chwyddiant anferth a swyddi'n cael eu difa yn y cannoedd o filoedd. Consensws ynglyn a pheidio a rheolaethu 'r banciau , lefelau derbyniol o ddyled, lefelau priodol o wariant cyhoeddus arweiniodd at y llanast rydym ynddo ar hyn o bryd. Roedd y Toriaid yn derbyn cynlluniau gwariant Llafur yn 2008 - yn union fel mae Llafur yn derbyn cynlluniau'r Toriaid heddiw. Consensws rhwng y ddwy brif blaid unoliaethol arweiniodd at ryfel trychinebus Irac a'r anhrefn a thywallt gwaed sydd wedi ymestyn tros y Dwyrain Canol yn ers hynny.
Y drwg efo consensws ydi nad yw yn cael ei herio, ac nid oes unrhyw elfen ohono'n cael ei herio yn amlach na pheidio. O ganlyniad mae pob math o rybish yn cael ei dderbyn fel Efengyl gan y cyfryngau a'r sefydliad gwleidyddol. Pan mae pob dim yn mynd i'r diawl mae pawb yn rhyfeddu. Ac yna mae'r un peth yn digwydd eto.
Dydi'r cyfryngau prin byth yn herio'r consensws rhwng y prif bleidiau. Maen nhw wrth eu boddau efo consensws. Mae hyn yn arbennig o wir am y BBC - corff sydd yn gweld ei hun fel darlledwr gwladol sydd a dyletswydd i gefnogi safbwyntiau'r consensws Prydeinig. Gwelwyd hyn ar ei fwyaf amrwd yn ystod refferendwm yr Alban y llynedd.
Byddai caniatau i'r pleidiau cenedlaetholgar Celtaidd a'r Blaid Werdd gymryd rhan yn y dadleuon yn ehangu ac yn ymestyn y ddisgwrs wleidyddol - a byddai hynny yn llesol i bleidleiswyr yn Lloegr yn ogystal a Chymru a'r Alban. Ond dyna'r peth diwethaf mae'r sefydliadau gwleidyddol a chyfryngol eisiau ei weld.
No comments:
Post a Comment