Felly dydi Cameron ddim am gymryd rhan yn y dadleuon cyhoeddus am nad ydi'r Blaid Werdd yn cael cymryd rhan - ond dim gair am yr SNP. Cymharwch sefyllfa gyfredol y Blaid Werdd, UKIP a'r SNP.
Mae gan UKIP 40,000 o aelodau, dau AS, ac mae'r marchnadoedd betio yn awgrymu mai 9 sedd fydd ganddi ar ol mis Mai.
Mae gan yr SNP 95,000 o aelodau, 6 AS ac mae'r marchnadoedd betio yn awgrymu y bydd ganddi 30 sedd ar ol mis Mai.
9 comments:
Ond bydd Plaid Cymru yn cael ei chynrychioli gan y Blaid Werdd yn rhan o'r anti-austerity alliance. Dengys hyn wendid strategaeth bresennol Leanne Wood o ymddwyn fel pe bai'r Blaid yn gangen o'r rhan honno o'r Chwith Brydeinig sy'n 'progressive' yn hytrach nag yn fudiad cenedlaethol.
Cytuno cant y cant
Mae gen i ofn dy fod wedi cam ddeall datganiad OFCOM, natur y dealltwriaeth rhwng y Blaid, yr SNP a'r Blaid Werdd, strategaeth etholiadol y Blaid a'r trefniadau ar gyfer y dadleuon cyhoeddus yn 2010 Simon.
Meddwl basa ti'n licio gweld be fasa canlyniad Arfon o ddilyn y system "Proportional Allocated Loss" (yn lle UNS). Eto, dwi'n defniddio'r pol YouGov diweddar.
Llafur: 7532 (-0.82%)
Toriaid: 3939 (-1.83%)
UKIP: 3660 (11.4%)
Plaid Cymru: 9133 (-0.96%)
Lib Dems: 860 (-10.77%)
Gwyrddion: 951 (3.64%)
Fasa'r ffordd yma ddim yn gweithio ar gyfer Ceredigion. Mae pob system proportional yn enwog am roi figyrau isel i'r Lib Dems pan mae eu pol yn wael...
Ac Aberconwy:
Llafur: 7929 (1.97%)
Toriaid: 9054 (-5.61%)
UKIP: 5155 (15.09%)
Plaid Cymru: 5199 (-0.48%)
Lib Dems: 1358 (-14.78%)
Gwyrddion: 1131 (3.77%)
Cywiriad:
Yn Arfon,
Llafur: 7532 (-1.52%)
Diolch Ioan, mi bloncia i nhw ar y dudalen flaen pan gaf funud.
https://glynadda.wordpress.com/2015/01/09/breuddwyd-tyrcwn-wrth-eu-hewyllys/
Sylw craff arferol perthnasol i Arfon gan Dafydd Glyn.
Does yna nesa peth i ddim myfyrwyr ar y gofrestr etholwyr yn Arfon y tro hwn.
Post a Comment