Bydd rhai ohonoch yn gwybod i Michael Ashcroft gyhoeddi un o'i bolau piniwn enfawr heddiw. Er mai pol ar y Gwasanaeth Iechyd yw mewn gwirionedd, ceir gwybodaeth am fwriadau pleidleisio. Oherwydd bod y pol mor enfawr mae'r is setiau 'rhanbarthol' yn fwy arwyddocaol nag arfer oherwydd eu bod hwythau yn fawr.
Dwi'n cyhoeddi'r ffigyrau isod ar gyfer Cymru a'r Alban sydd wedi eu cymryd o @UKElection2015 .
Mae yna ddau bwynt i'w cymryd o hyn - yn gyntaf mae'r gefnogaeth rhyfeddol i'r SNP yn parhau - hyd yn oed os ydi'r blogiwr o Dori, Iain Dale yn ein sicrhau nad ydi polau'r Alban yn gywir - mae'n honni bod ei farn ei hun yn gywirach.
Yn ail - os ydi cefnogaeth y Dib Lems yn wir yn 3% yng Nghymru, fyddan nhw ddim yn cael sedd a fyddan nhw ddim yn dod yn agos at gael sedd chwaith.
Dwi'n cyhoeddi'r ffigyrau isod ar gyfer Cymru a'r Alban sydd wedi eu cymryd o @UKElection2015 .
Mae yna ddau bwynt i'w cymryd o hyn - yn gyntaf mae'r gefnogaeth rhyfeddol i'r SNP yn parhau - hyd yn oed os ydi'r blogiwr o Dori, Iain Dale yn ein sicrhau nad ydi polau'r Alban yn gywir - mae'n honni bod ei farn ei hun yn gywirach.
Yn ail - os ydi cefnogaeth y Dib Lems yn wir yn 3% yng Nghymru, fyddan nhw ddim yn cael sedd a fyddan nhw ddim yn dod yn agos at gael sedd chwaith.
7 comments:
Ymddangos fod y LIb Dems yn troi'n blaid Lloegr yn unig...
Oes yna berygl fod y cwymp ym mhleidlais y Lib Dems yn niweidiiol i'r Blaid ? hy Saeson yn pleidleisio i'r Blaid Lafur yn erbyn y Blaid. Mae'r mewnfudwyr yn Ngheredigion yn dueddol o bleidleisio i Marc Williams.
Tydi pleidlais Llafur ddim i fyny llawer ers yr etholiad diwethaf.
A yw pleidlesiau Lib Dem yn mynd i UKIP, felly ? hy A yw pleidlais y Lib Dems, yn ei chraidd hyd yn oed, yn bleidlais brotest ?
Efallai fod hyn yn dangos fod nifer o selogion y Lib Dems yng Nghymru yn fwy o Doriaid na'r Toriaid - yn sicr fe fuasai amheuaeth o hynny yng nghefn gwlad canolbarth Cymru.
Tros y DU y patrwm cyffredinol ydi Pleidleisiau Lib Dem yn mynd i Lafur, ond Llafur a'r Toriaid i raddau mwy yn colli pleidleisiau i UKIP. Ond Llafur yn cael eu digolledu gan y pleidleisiau Lib Dem.
Mae'r patrwm yn wahanol yn yr Alban - ac yng Nghymru mae'n debyg.
O defnoddio system "Proportional loss" yn lle uniform swing ar ffigyrau Ashcoft
Llafur 38%
Toriaid 25%
UKIP 17%
Plaid Cymru 12%
Lib Dems 3%
Gwyrddion 4%
byddai Ynys Mon fel a ganlyn...
Ynys Mon (Ashcroft 14 Ionawr 2015)
Llafur: 10421 (-3.12%)
Toriaid: 7853 (0.31%)
UKIP: 6081 (14.23%)
Plaid Cymru: 9092 (0.18%)
Lib Dems: 365 (-6.5%)
Y math o ganlyniad mae PC angen i gipio Mon ydi:
Llafur 36%
Toriaid 25%
UKIP 17%
Plaid Cymru 13%
Lib Dems 4%
Gwyrddion 4%
Sy'n rhoi:
Llafur: 9626 (-5.47%)
Toriaid: 7626 (-0.35%)
UKIP: 6135 (14.46%)
Plaid Cymru: 9918 (2.6%)
Lib Dems: 486 (-6.18%)
Mae 'na hefyd ddigon o reswm i feddwl y bydd PC yn gwneud yn well yn Sir Fon nac yng ngweddill Cymru. Yr unig beth arall i nodi, ydi bod Ashcrofft yn dueddol o roi cefnogaeth PC 2-3% yn uwch na YouGov.
Ac engraiff o Llafur yn cipio Arfon:Llafur 41%
Toriaid 25%
UKIP 15%
Plaid Cymru 11%
Lib Dems 3%
Gwyrddion 4%
yn rhoi:
Llafur: 8836 (3.48%)
Toriaid: 4488 (0.27%)
UKIP: 2974 (8.77%)
Plaid Cymru: 8652 (-2.81%)
Lib Dems: 516 (-12.09%)
Post a Comment