Tuesday, April 05, 2011

Triciau budur gan y Blaid Lafur?


Mae'n debyg gen i y bydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr blogmenai yn ymwybodol bellach o'r ffaith i Chris Bryant godi ar ei draed yn Nhy'r Cyffredin i honni mai Plaid Cymru sy'n gyfrifol am y poster gwrth Peter Hain sydd wedi ymddangos ar y blog yma'n ddiweddar. Yn wir aeth cyn belled a honni mai swyddfa Ieuan Wyn Jones sy'n gyfrifol am gynnal ymgyrch i bardduo Hain. Mae'n cyfeirio at wefan a agorwyd ar Ebrill 1 (diwrnod ffwl Ebrill) sy'n hyrwyddo byrdwn y daflen (y dylid pleidleisio yn dactegol yn erbyn Llafur). Ymddengys i'r wefan gael ei chofrestru yn 45, Stryd Y Bont, Llangefni LL77 7PN - swyddfa Ieuan Wyn Jones.

Rwan, fel y dywedais yn y darn gwreiddiol, derbyn y ddelwedd trwy e bost yn ddi enw wnes i. Cyrhaeddodd ar ffurf ffeil Adobe ar nos Sul, Mawrth 27. Wnes i ddim defnydd o'r poster tan y dydd Iau canlynol - Mawrth 31. Gan nad oeddwn yn gallu trosglwyddo ffeil Adobe i fformat blogspot, bu'n rhaid i mi ei hargraffu, a'i sganio - er mwyn ei throsglwyddo i fformat JPEG. Ceir plyg trwy ganol y poster - fi wnaeth y plyg hwnnw wedi argraffu'r darn, trwy blygu'r papur. Does yna ddim plyg ar y ddelwedd wreiddiol. Mae'n amlwg felly mai fy nelwedd i sydd wedi ei chopio a'i phostio ar y wefan.

Rwan, petai honiad Bryant yn wir, pam y byddai'n rhaid i'r sawl oedd (yn ol Bryant) yn gyfrifol am y ddelwedd ei chopio o fy mlog i? Siawns y byddai ar gael iddynt trwy ddull arall. Ymhellach, oes rhywun mewn difri calon yn credu y byddai awdur ymgyrch driciau budron yn cofrestru ei wefan yn enw ei swyddfa ei hun, pan y gallai ddewis cofrestru yn enw unrhyw gyfeiriad yn y Byd mawr crwn - ac yn enwedig felly ac yntau'n arwain plaid wleidyddol?

Rwan mae Bryant naill ai yn ddyn rhyfeddol o naif, neu mae'n cymryd rhan mewn ymgyrch driciau budron ei hun.

'Dwi'n gwybod pa eglurhad sy'n ymddangos fwyaf tebygol i mi.

15 comments:

Dylan said...

Blydi rhyfedd.

Tybed pwy fyddai'n defnyddio'r we mewn ffyrdd od i geisio pardduo Plaid Cymru?! Tybed a oes hanes i hyn? All rhywun fy atgoffa?

o leia ti'n enwocach rwan!

Cai Larsen said...

Be - oes yna rhywbeth fel hyn wedi digwydd o'r blaen. Fyddai yna neb yn gwneud y ffasiwn beth siwr Dduw!

Anonymous said...

Ydw i'n darllen rhwng y llinellau yn iawn yn y fan yma?...

Dyfed said...

Mae mwy nag un plaid yn gallu gwneud tricia budr. Pwy yw gwir elyn IWJ ym Môn? A phwy sydd a sgliau cyfrifiadurol da? A phwy sydd a digon o amser ei ddwylo?

Cai Larsen said...

Anon 8.36 - 'dwi ddim yn siwr beth ti'n darllen rhwng y llinellau, felly fedra i ddim dweud.

Dyfed - wnaeth honna ddim croesi fy meddwl mae'n rhaid i mi ddweud.

Anonymous said...

Efallai mai'r bygythiad mwyaf i Bryant yw fod lot o bobl yn cytuno efo Welsh and United ac yn meddwl, 'hmmm ydw i wir eisiau i'r Blaid Lafur (gam)reoli Cymru fel mae nhw wedi gwneud ar draws Cymoedd y de?'

Dwi'n amau y mwyaf o sylw mae Bryant a Llafur yn rhoi i hyn y mwyaf fydd pobl yn meddwl, ie, efallai wna i bleidleisio'n dactegol. Dwi'n sicr yn meddwl y byddai'n syniad i genedlaetholwyr bleidleisio'n dactegol gyda'r bleidlais gyntaf yn llefydd fel Caerdydd.

Anonymous said...

Dyfed - Gwir ond mae'n ymddangos fod y wefan a'r manylion yma wedi eu plannu yn unswydd er mwyn i Bryant eu defnyddio.

Oes yna rywun sy'n deall pethau yn San Steffan fedr daflu unrhyw oleuni ar y berthynas rhwng y person y mae Dylan yn cyfeirio ato a Chris Bryant?

Blogmenai - Does dim disgwyl i ti ddatgelu dy ffynhonnell, ond a oedd hi'n un y baset ti'n disgwyl iddi fod yn elyniaethus tuag at y Blaid?

Cai Larsen said...

Cyfeirio at y wefan farw Natwatch mae Dylan. Mae'n weddol amlwg bellach pwy oedd y tu ol i honno - fyddai ddim rhaid i ti chwilio ymhell ar y We i ddarganfod enw.

Nid oddi wrth unrhyw un gwrth Bleidiol y daeth y poster. Mae'r ddelwedd wedi ei defnyddio i roi platfform bach i Bryant.

Anonymous said...

Dim dwywaith fod Llafur am ddefnyddio hwn i drio creu'r argraff fod y Blaid am gynghreirio efo'r Toriaid a Fib dems. Pathetic!

Anonymous said...

Dwi'n cydweld hefo Dyfed, pwy ydy gelyn mwya IWJ ym Mon?
Ceidwadwyr a Llafur yn gweithio hefoi gilydd i bardduo IWJ. Iesu dwi'n falch dy fod ddim yn gallu enllibio pleidiau gweleidyddol!

Anonymous said...

Mae'r ymdrech amaturaidd yma yn fy atgoffa I o wefan aneurin glyndwr.

Plaid Gwersyllt said...

Pwy ffwc sydd ddigon gwirion i ddefnyddio swyddfa Dirprwy Prif Weinidog Cymru i setio fyny gwefan i bardduo Peter Hain...amateur ar y diawl. Cydweld mae job debyg i Aneurin Glyndwr ydy hyn i gyd. Own gol Llafur ydy hyn...ejiits!

Anonymous said...

beth yw hanes y boi o' r cymoedd wnaeth greu aneurin glyndwr y dyddia yma?

Plaid Gwersyllt said...

Dwi'n meddwl fod Davit Taylor yn gweithio i Peter Hain, neu mi oedd o?

Anonymous said...

Mae'n annodd i mi gredu mai "X" fuasai tu cefn i'r Wefan "Welsh and United".

I rheini sy'n gwybod, mae "X" yn rhannu enw efo un o'r hen ysbytai a oedd yn Nhref Llangefni hyd at canol y 90au.