Monday, April 25, 2011

Pam bod yr ymgyrch Na yn awgrymu bod pobl Cymru, Lloegr a'r Alban yn dwp?

Un o nodweddion mwy anymunol yr ymgyrch refferendwm AV ydi'r celwydd gweddol ddi gywilydd sy'n greiddiol i naratif yr ymgyrch Na. Er enghraifft maent yn honni y byddai newid trefn yn costio £250m oherwydd y byddai'n rhaid prynu peiriannau pleidleisio i wneud i'r gyfundrefn AV weithio. Rwan 'dydi hi ddim yn arferol i ddefnyddio peiriannau i gyfri pleidleisiau AV mewn gwledydd eraill - mae'n drefn eithaf syml.

Er enghraifft yng Ngorllewin Caerdydd yn etholiadau'r llynedd roedd 6 ymgeisydd - Kevin Brennan (Llafur) - 41.2%, Angela Jones Evans (Tori) - 29.6%, Rachael Hitchinson (Lib Dem) - 17.5%, Mohammed Sarul Islam (Plaid Cymru) - 7%, Michael Hennessey (UKIP) - 2.7% a Jake Griffiths (Gwyrdd) - 1.8%.

Petai'r etholiad wedi ei chynnal o dan drefn AV byddai'r papurau wedi eu dosbarthu yn ol y bleidlais gyntaf, yn union fel y gwneir ar hyn o bryd. Wedi eu cyfri byddai ail bleidleisiau Jake Griffiths a Michael Hennessey yn cael eu hail ddosbarthu. Byddai pleidleisiau'r ddau yn cael eu hail ddosbarthu ar yr un pryd oherwydd nad oedd cyfanswm eu pleidleisiau yn uwch na phleidlais yr ymgeisydd nesaf - Mohammed Sarul Islam. Petai rhai o ail bleidleisiau'r naill yn mynd i'r llall byddai'r papurau yn cael eu dosbarthu yn ol y trydydd bleidlais. Yn ol pob tebyg byddai ail bleidleisiau Mohammed Sarul Islam a Rachael Hitchinson wedyn yn cael eu hail ddosbarthu ar yr un pryd, a byddai Kevin Brennan yn cael ei ethol. Go brin y byddai hyn yn ychwanegu mwy na rhyw awr a hanner at y broses gyfri. Mae'r ymgyrch Na yn meddwl bod hyn mor gymhleth bod angen gwario degau o filiynau o bunnoedd i brynnu peiriannau.

Cymharer hyn efo'r system STV gydag etholaethau aml sedd sydd yn cael ei defnyddio yng Ngogledd Iwerddon. Mae'n drefn llawer, llawer mwy cymhleth. Er enghraifft, yr wythnos nesaf bydd yr ymgeiswyr canlynol yn sefyll yn etholaeth Mid Ulster:

Harry Hutchinson (People Before Profit), Austin Kelly (SDLP), Gary McCann (Independent), Hugh McCloy (Independent), Ian McCrea (DUP), Michael McDonald (Alliance), Patsy McGlone (SDLP), Martin McGuinness (Sinn Féin), Walter Millar (TUV), Ian Milne (Sinn Féin), Francie Molloy (Sinn Féin), Michelle O'Neill (Sinn Féin), Sandra Overend (UUP).

Mae yna 6 sedd yn Mid Ulster, fel sydd yng ngweddill etholaethau Cynulliad Gogledd Iwerddon.

Bydd rhaid i'r pleidleisiau i gyd gael eu cyfri i ddechrau. Yna bydd rhaid i'r swyddog etholiadau ddyfarnu faint ydi cwota - y nifer o bleidleisiau mae ymgeisydd ei angen cyn cael ei ethol - gwneir hyn trwy rannu nifer y pleidleisiau efo saith ac adio un (mewn etholaeth 6 sedd). Wedyn bydd y pleidleisiau yn cael eu dosbarthu yn ol y bleidlais gyntaf rhwng y tri ymgeisydd ar ddeg. Os oes rhywun yn curo'r cwota bydd ei ail bleidleisiau i gyd yn cael eu cyfri, a bydd y cyfanswm yn cael ei rannu efo'r nifer o bleidleisiau sydd ganddo uwchlaw'r cwota er mwyn rhoi rhoi'r pwysiad cywir i pob ail bleidlais. Bydd yr ail bleidleisiau yn cael eu dosbarthu ar sail y pwysiad cyfrannol hwnnw. Os nad oes neb arall wedi curo'r cwota yn dilyn hyn bydd pleidleisiau'r ymgeisydd (ymgeiswyr) sydd wedi cael y lleiaf o bleidleisiau yn cael eu hail ddosbarthu. Os na fydd neb yn cyrraedd y cwota wedi hynny bydd yr ymgeiswyr isaf yn parhau i gael eu dileu a chael eu hail bleidleisiau wedi eu dosbarthu. Pan fydd rhywun yn croesi'r cwota bydd ei bleidleisiau ychwanegol yn cael eu gwneud yn gyfrannol a'u hail ddosbarthu. Mae hyn yn mynd ymlaen nes bod chwe sedd wedi eu llenwi. Gobeithio bod hynna'n hollol glir rwan blantos.

Bydd y system yma yn cael ei defnyddio ar gyfer ethol 108 AC mewn y deunaw etholaeth seneddol a bydd hefyd yn cael ei defnyddio i ethol cannoedd o gynghorwyr yn y 26 cyngor lleol. Fydd yna ddim son am beiriant yn y canolfannau pleidleisio, bydd pob pleidlais yn cael ei chyfri gyda llaw. Mae'r rhan fwyaf o actifyddion gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon yn bobl o gefndir dosbarth gweithiol - mi fydd yna gannoedd ohonyn nhw yn y canolfannau pleidleisio trwy ddydd Gwener ac mi fyddan nhw'n ymgodymu'n iawn efo'r broses cyfri heb fynd ar gyfyl peiriant na chyfrifiadur.

Felly pam na fedrwn ni ymgodymu efo trefn llawer symlach heb orfod gwario £250m ar beiriannau pleidleisio?

No comments: