Cliciwch ar y ddelwedd i'w gweld yn iawn.
Y drwg efo gwleidydda personol ydi y gall unrhyw un chwarae'r gem os oes yna darged addas ar gael. Pan bod y sawl sy'n gwleidydda'n bersonol yn darged delfrydol ei hun mae'n gofyn am drwbwl braidd.
Un o bleserau bach cadw blog gwleidyddol ydi'r holl stwff gwleidyddol sy'n cyrraedd blwch derbyn e bost dyn. Er enghraifft daeth y poster isod tros y penwythnos.
Rwan peidiwch a fy nghamddeall i - 'dwi ddim yn cytuno a neges greiddiol y poster, sef y dylid pleidleisio yn dactegol yn erbyn Llafur. I'r gwrthwyneb, fyddwn i ddim yn awgrymu i neb yng Nghymru i bleidleisio i unrhyw blaid unoliaethol o dan unrhyw amgylchiadau.
Wedi dweud hynny mae'r poster yn ddiddorol oherwydd ei fod yn dangos sut y gellir defnyddio arddull Hain o wleidydda personol yn erbyn Hain ei hun. Mi fyddwn i wedi gallu meddwl am bethau mwy cas i'w dweud am Hain (ac yn wir 'dwi wedi yn y gorffennol ar y blog yma), ond mae rhai o'r pwyntiau yn canfod y targed yn ddigon twt. Gwneir defnydd o'r ffaith bod Hain yn gymeriad cynhenus sy'n creu gwrthdaro hyd yn oed oddi mewn i'w blaid ei hun.
Gyda llywodraeth y Cynulliad yn gymharol boblogaidd, a Carwyn Jones yn mwynhau mis mel gwleidyddol cymharol hir, mae ffigwr sinicaidd, chwerw nad oes ganddo fawr hygrededd bellach fel Hain yn darged da - hyd yn oed os nad yw'n sefyll etholiad ar Fai 5.
6 comments:
Rwan peidiwch a fy nghamddeall i - 'dwi ddim yn cytuno a neges greiddiol y poster, sef y dylid pleidleisio yn dactegol yn erbyn Llafur.
Rwy'n ddeall y dadleuon dros beidio a rhoi pleidlais dactegol i blaid arall, hyd yn oed mewn sedd anobeithiol mewn etholiad Sansteffan mae pleidlais i Lafur yn bleidlais i'r dyn cyffredin boed yn helpu ennill sedd neu beidio ac ati. Ond onid ydy'r elfen gyfrannol yn etholiadau datganoledig yn caniatáu inni dorri'r rheol yna?
Rwy’n ansicr os byddai'n digwydd yng Nghymru, ond mae blog Better Nation yn rhoi enghreifftiau lawer o sefyllfaoedd lle gellir disodli Llafur trwy bleidleisio'n dactegol i'r Ceidwadwyr a sicrhau sedd restr ychwanegol i'r SNP (er engrhaifft). O dan y fath amgylchiadau onid ydy o bron yn ddyletswydd i gefnogwr pleidleisio'n dactegol er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau i'w blaid?
"Hain says *David* Milliband is the Labour leader here, not Carwyn Jones."
Ai jôc (sy'n rhy gynnil i fi) yw hwn?
Pwy sy'n gyfrifol am y poster? Dyn a'n gwaredo rhag llywodraeth Lafur wrth-Gymraeg arall.
Dyna'r pwynt. Pwy sy' tu ol i'r peth? D'yn nhw ddim mor abl a hynny os ydyn nhw'n meddwl mai drwy bleidlais dactegol i Blaid Cymru y mae cadw Llafur allan o Orllewin Caerdydd.
Bydd digon o crap yn yr etholiad heb stwff fel hyn.
Wyt ti di gweld y Western Mail heddiw?
A draft of an advert, posted on the BlogMenai website, advises readers which party – Plaid Cymru, Conservative or Liberal Democrat – to vote for in a list of marginal seats to keep Labour out
http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/2011/04/04/mystery-group-target-labour-vote-in-wales-91466-28453042/#ixzz1IZCVo0UL
Mae'n rhaid i mi gyfaddef, dwi ddim eisiau llywodraeth Geidwadol yn y Cynulliad. A dweud y gwir, faswn i'n ddigon hapus cael Cymru'n Un II. Ond i gael hynny mae'n rhaid gwneud yn siwr nad yw Llafur yn cael mwyafrif.
So, petawn i'n byw yn rhywle fel Gogledd Caerdydd neu Ganol Caerdydd faswn i'n cael fy nhemptio'n fawr i bleildeisio i Jonathan Morgan neu'r LibDems yn y Canol a Plaid ar y rhestr er mwyn gwneud yn siwr nad yw Llafur yn ennill y seddi hynny a gan hynny cael Llywodraeth lafur crap arall fel cafwyd yn 2003-07.
Yn syml, mae o fendith i gael Cymru'n Un II i Lafur beidio ennill seddi ac i Tori neu LibDem gadw seddi.
Y canlyniad gwaethaf i Gymru fyddai Llafur yn rheoli ar ben eu hunain - dydy nhw ddim ffit i wneud hynny. Wnaethon nhw llanast o economi UK a gwnaethon nhw llanast o'r Cynulliad 2003-07. Gallwch chi ddim trystio Llafur.
Crwt Caerdydd
Post a Comment