Fel rheol mi fydd blogmenai yn rhoi darlun o'r ffosydd fel petai o etholiadau. Y tro hwn - am resymau nad af i mewn iddynt, mi'r ydw i yn edrych ar bethau o lawer iawn pellach na neb sy'n darllen y blog yma. Felly cadwch hynny mewn cof pan rwyf yn dweud fy nweud.
Mae Harry Hayfield ar Britain Votes yn cymryd golwg ar seddi Plaid Cymru, a'r rhai mae'n gobeithio eu hennill. Yr unig sedd mae BV yn ei hystyried yn gwbl ddiogel ydi Meirion / Dwyfor. Mae'n disgwyl i'r Blaid ennill yn Nwyrain Caerfyrddin gyda llai o fwyafrif o lawe, ac yn Arfon ar ol ail gyfri! Mae'n bosibl y bydd gan Rhodri Glyn lai o fwyafrif, ond gallwn fod yn eithaf sicr na fydd yna ail gyfri yn Arfon - bydd honno'n aros yn nwylo'r Blaid yn eithaf cadarn. Mae'r ffaith mai ymgeisydd y Blaid ydi'r unig ymgeisydd lleol, a'i fod beth bynnag o ansawdd llawer uwch na'r lleill yn gwarantu hynny.
Am rhyw reswm mae Harry yn meddwl y gallai pob pleidlais aeth i Peter Rogers yn 2007 fynd i'r Tori Paul Williams y tro hwn gan roi cyfle i hwnnw ennill. 'Dydi etholiadau go iawn ddim yn gweithio felly wrth gwrs, ac er y bydd cyfran go lew o bleidlais Peter yn mynd i Paul, mi fydd yna gyfran llai ond arwyddocaol yn mynd i Ieuan Wyn hefyd. Mi fydd Paul yn gwneud yn eithaf da os bydd yn dod yn ail.
Mae'n darogan ail gyfri eto yn Llanelli, ond yn nodi'n gywir bod yr ymgeisydd Plaid Cymru yn fwy atyniadol o lawer na'r un Llafur. 'Dydw i ddim yn ei gweld yn dod i ail gyfri, er y gallai fod yn nes na'r tro blaen.
'Does yna ddim darogan am Geredigion, ond gallwn gymryd yn ganiataol y bydd Elin Jones yn dal ei gafael ar hon - y Lib Dems sy'n ail, a chymaint yw'r chwalfa maent yn ei wynebu, gallant yn hawdd fethu dod yn ail y tro hwn.
Mae'n darogan y bydd y Blaid yn colli Aberconwy, ond yn dweud y gallai'r naill brif blaid unoliaethol neu'r llall ei chymryd. 'Dwi'n anghytuno - mae'r Toriaid allan o'r ras bellach yn fy marn bach i, ac mae pethau rhwng y Blaid a Llafur bellach. Mae ymgyrchu lleol effeithiol wedi dangos ei werth yma.
Mae'n son hefyd am seddi targed y Blaid yng Ngorllewin Caerfyrddin / De Penfro, Caerffili, Gorllewin Clwyd, Castell Nedd, Preseli Penfro, Gwyr a De Clwyd - er nad yw'n darogan beth fydd yn digwydd yn yr un o'r seddi yma. Byddwn yn awgrymu bod gan y Blaid obaith rhesymol ym mhob un o'r bedair gyntaf, er byddai'n wyrthiol petai'n ennill mwy na dwy ohonynt. Mae yna gryn son bod Mabon yn perfformio'n dda yn Ne Clwyd, ac mae'r newidiadau ym mhrisiau'r bwcis yn cadarnhau hynny - er mi fyddai ennill yma'n ganlyniad cwbl rhyfeddol.
6 comments:
Fyswn i ddim yn rhyfeddu ar weld tro ar fyd yn Ne Clwyd. Mae na ymgeisydd newydd di-brofiad gan Lafur, ymgeisydd ifanc (25 oed) gan y Toriaid sydd ddim yn argoeli o gwbl a lob o ymgeisydd Lib Dem. Mi wnaeth Mabon yn dda iawn mewn hystings diweddar ac mae wedi ysbrydoli llawer i weithio drosto. Mae na bentrefi diwydiannol fel Coedpoeth, Brymbo a'r Rhos sy'n troi at y Blaid (awn nhw byth i'r Toriaid) - pwy a wyr?
Yn sicr mi fydd pleidlais y Blaid ar i fyny y gogledd-ddwyrain ac mi fydd hyn yn help efo'r rhestr.
Ynglyn a Ynys Mon, dwi'n eithaf hyderus os fysa na ddim Toriaid yn San Steffan fysa Paul yn ei churo hi. Dwi ddim yn meddwl bod pobol yn deall y siom sydd gan yr Ynys yn IWJ. Roedd ef fel D.P.W ac Gweinidog yr Economi mewn sefyllfa wych i helpu'r Ynys; ond nath o ddim. Mae yn graff gan Paul yn dangos bod rhan helaeth o budget yr economi dal i gael ei wario yn y de ddwyrain a dim ond chydig iawn i'r Ynys. A hynny gan gofio mai sir tlotaf Cymru ydyw, ac angen help.
Felly pam tydw i ddim yn meddwl fydd IWJ yn enill yn sylweddol. Wel oherwydd dwi, fel cefnogwr y blaid (a fydd yn pledleisio dros y Blaid yn y bleidlais rhanbarthol) wedi penderfynnu na fyddai yn pledleisio i IWJ. Dwi'n gorfod meddwl, mai AC i'r Ynys dwi'n pleidlesio a todd IWJ ddim yn AC o safon yn ganol mess y cyngor, pan oedd cwmniau yn cloi, pan oedd budget adran yr economi yn cael ei benderfynnu.
Felly os DWI am beidio bleidleisio drosdo, allai weld eraill sydd wedi cael siom ENFAWR ynddo hefyd.
Hefyd, o be dwin gofio; oedd belidlais y Blaid ar yr Ynys yn yr etholiad dwytha yn joc llwyr.
Pwy fyddai'n pleidleisio dros yn lle IWJ? wel dwi heb benderfynnu!
Newydd fwrw sylw ar flog BritainVotes cyn gweld y postiad hwn! Dwi'n meddwl bod lot o'r hyn ma Harry Hayfield yn ei ddweud yn nonsens llwyr i fod yn onast ... mae fy meddwl i'n newid yn sylweddol o'r hyn a feddyliais wythnos yn ôl gydag ambell sedd e.e. fedrai ddim bellach weld Llafur yn cipio Llanelli na Gorllewin Clwyd.
O ran Ynys Môn mi ddylia Plaid Cymru ei churo, ond dwi'n amau y gallai pethau fod yn agos iawn yma, i'r fath raddau efallai mai dyma'r cyfle gorau o weld sioc go iawn yn yr etholiad hwn - serch hynny, dylai dim Peter Rogers fod o fudd i Blaid Cymru, nid o fudd llwyr i'r Ceidwadwyr.
Swni'n dweud wrth Jake fodd bynnag fod pleidlais y Blaid yn jôc y tro dwytha, a'i bod wedi dirywio ers 2001, oherwydd cyfres o ymgeiswyr gwan neu anaddas ... mi dybiaf y bydd hynny ynddo'i hun yn ei gwneud yn anodd i Blaid Cymru adennill hygrededd ar yr Ynys.
dw i'n rhagweld Ynys Môn yn mynd yn anodd i Blaid Cymru yn y dyfodol, ond dylai fod yn ok eleni. Ta waeth beth a ddigwyddith, mae'n bryd i IWJ fynd yn weddol fuan ar ôl yr etholiad.
Dw i'n eithaf argyhoeddedig erbyn hyn bod y polau piniwn wedi bod yn llawer rhy hael i Lafur. Er bod unrhyw obeithion am Orllewin Caerfyrddin wedi pylu, dw i'n eithaf hyderus am Lanelli bellach, er yn parhau'n bryderus am Aberconwy.
Mae dadansoddiad Britain Votes braidd yn ddwl mewn mannau. Mae sedd Elin Jones yn un o'r saffau yng Nghymru erbyn hyn; os gollith hi, dw i'n addo bwyta fy llygaid fy hun.
Dwi'n cytuno Dylan,
ac unwaith mae Ynys Mon yn cael ei dynnu oddi ar unrhyw parti, mae'n anodd iawn i gymeryd o'n ol (megis sut mae Albert Owen dal yn y sedd). Oherwydd o be dwi'n ddeall tydy'r Ynys rioed wedi cael gwared o 'sitting politician' erioed!.
I gadw'r Ynys, fydd rhaid i'r Blaid gael rhywun eithaf adnabyddus (sydd efallai wedi bod yn AS neu AC) dim rhywun gwan fel sydd wedi bod yn y gorffenol. Yn ail; OS fydd Plaid yn Llywodraeth eto tymor nesaf RHAID, RHAID, RHAID iddyn nhw wario arian ar yr Ynys... yna fe allan nhw ddweud 'with a Plaid Gov Ynys Mon has been given X, Y, Z'.
Ond o trafodion 'Leaders Debates' ar ITV dwi'n deall bod IWJ wedi dweud petai o'n cael ei ethol fe wneith o aros fel arweinydd am tymor cyfa. Wan os tydy o ddim yn bwriadu ymladd etholiad 2015 dwi o'r farn y ddylai o sefyll lawr yn eithaf sydyn. Rhaid i'r Blaid gydai'i polisiau ac arweinydd edrych i'r tymor hir- yn enwedig os fydd y canlyniadau'n siomedig.
Ond i gloi, os na fydd y Blaid yn neud rywbeth yn sydyn- ni fydd yr Ynys yn gadarnle. Ac i ennill yno fydd rhaid rhoi ymdrech sylweddol yn 2015- dim jest meddwl neith nhw ennill y sedd (fel nath nhw yn etholiad 2010).
byddai Heledd Fychan yn olynydd da ym Môn
Post a Comment