Stori ryfedd iawn heddiw yn y Telegraph.
Yn ol y papur mae yna lwyth o blant bach wedi mynd ar goll ar Foel Tryfan oherwydd actifydd iaith. Ymddengys i foi o'r enw Mike Blake, 63 benderfynu y byddai'n syniad da i anfon plant bach allan i redeg ar fynydd mewn niwl, ac i'r cyfryw blant i gyd fynd ar goll oherwydd i actifydd iaith ddwyn yr holl arwyddion roedd Mike wedi eu gosod yn hynod ofalus pob pymtheg medr o'r cwrs.
Yn ol Mike, roedd yna ddyn drwg wedi cael ei weld yn dwyn un arwydd ac yn dad wneud un arall. Yn wir daeth y dihiryn o hyd i ddymp yn rhywle, a chludo holl arwyddion Mike - cant ohonyn nhw i gyd - yno i'w taflu. Roedd y Telegraph a Mike yn eithaf siwr mai actifydd iaith oedd yn gyfrifol am yr anfadwaith ofnadwy.
Mae'n anodd credu rhywsut i'r stori idiotaidd, plentynaidd o grediniol a di niwed yma ymddangos yn yr un papur ag oedd yn gyfrifol am ddod a'r sgandal treuliau aelodau seneddol i ni.
3 comments:
Yn amlwg dydi Mike Blake erioed wedi clywed am yr Ieti Blewog sy'n byw yn niwloedd Tryfan.
Mae'n swnio i mi bod cymaint o dystiolaeth am hynny na sydd o dystiolaeth yn stori Mike Blake/erthygl y Telegraph.
Un arwydd pob pymtheg metr - milltir - felly mae yna 100 arwydd wedi diflannu oddi ar wyneb Daear ar ben mynydd.
Mi fyddai dyn wedi meddwl y byddai wedi bod yn haws eu taflu i bob man na chwilio am ddymp yn y mynyddoedd a'u cario yno.
Am stori hurt. Atgoffa rhywun o'r rwdlan "CAI MAES SAIS" yna cwpl o flynyddoedd yn ôl.
Mae'r ffaith i Mr Blake neidio i'r casgliad mai rhyw fath o FFASGYDD IAITH sy'n gyfrifol (os oes rhywun yn gyfrifol o gwbl) heb unrhyw fath o dystiolaeth yn dweud mwy amdano fo'i hun nag am unrhyw beth arall.
Pwy ddiawl sy'n danfon plant saith oed allan i redeg ar ben eu hunain ar ucheldiroedd niwlog, be bynnag?
"Mi fyddai dyn wedi meddwl y byddai wedi bod yn haws eu taflu i bob man na chwilio am ddymp yn y mynyddoedd a'u cario yno."
Sy'n awgrymu (eto, gan gymryd bod unrhyw un o gwbl yn gyfrifol) ei fod yn fwy tebygol o fod yn burydd amgylcheddol nag unrhyw beth arall, yn gwrthwynebu arwyddion hyll dros y lle. Ond dw i'n cymryd y stori'n lot rhy ddifrifol rwan. Y gwir ydi bod yr holl beth yn swnio fel bôls pur, jyst fel y busnes ceffyl 'na'n Sir Benfro.
Post a Comment