Mae'n ddifyr nodi mai un o brif bwyntiau gwleidyddol ymgyrch Rhys Jones, ydi ei gynlluniau i gau'r unig wasanaeth awyr rhwng y De a'r Gogledd. Yn ol y pamffled.
Mae'r cyswllt awyr rhwng y De a'r Gogledd wedi costio £3.2m i drethdalwyr Cymru, ac mae'n dal i gostio £800,000 y flwyddyn.
Prin ydi'r defnydd o'r gwasanaethau ar wahan i un teithiwr cyson sef Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones.
'Dydi'r awgrym mai dim ond un person sy'n defnyddio'r gwasanaeth ddim yn wir. Rhwng dyddiad cychwyn y gwasanaeth ym mis Mai 2007 ac Ebrill 2010 roedd 40,000 wedi teithio ar yr awyren.
Mae'n ddiddorol nad ydi Rhys eisiau i bobl Arfon gael mynediad i wasanaeth teithio cyflym i Gaerdydd. Mae llawer o bobl yn y Gogledd Orllewin bellach efo cysylltiadau a'r De Ddwyrain wrth gwrs. Os ydych chi'n digwydd byw yn Arfon eich dewis (ar wahan i'r awyren) ydi dal tren pob awr i brif ddinas Cymru, ac mae'r daith yn cymryd tua 4 awr ac ugain munud. Neu mi allwch yrru i lawr yr A470 a theithio am tua pedair awr. 'Dydi'r daith bws ddim gwerth meddwl amdani.
Os ydych - fel Rhys - yn byw yn Nowlais ger Merthyr gallwch gael bws pob chwarter awr, ac mi gaiff hwnnw chi i Gaerdydd mewn awr. Mae yna dren ar eich cyfer pob hanner awr ac mi gaiff hwnnw chi yng Nghaerdydd mewn awr hefyd. Neu wrth gwrs, gallwch yrru i lawr yr A470 a gwneud y daith mewn hanner awr.
Mae yna gryn wariant cyhoeddus yn mynd tuag at gynnal y gwasanaethau penigamp yma i bobl Merthyr. Er enghraifft gwariwyd £19m ar uwchraddio'r cledrau rhwng Merthyr Tydfil a Chaerdydd yn 2007. Chlywais i ddim bytheirio gan Rhys am hynny.
Felly yn ol Rhys mae'n gwbl briodol i drigolion ei dref ei hun gael mynediad cyflym a di drafferth i'r brif ddinas ar draul y trethdalwr, ond mae'n gwbl amhriodol i drigolion Arfon gael mynediad o'r fath.
6 comments:
Yn waeth na hynny, mae union yr un honiad gydag union yr un geiriad yn ymddangos ar daflen etholiadol ymgeisydd y FibDems ym Môn.
'Dwi wedi teithio ar yr awyren dwsinau o weithiau eleni a 'dwi erioed wedi gweld IWJ ar yr awyren!
Gorfod anghytuno yma. Er nad 'w i'n licio cyfaddef hyn, "I agree with Nick", neu, "I agree with Rhys" o leia.
Mae gwasanaeth awyr domestig ar gyfer gwlad mor fechan a Chymru yn gywilydd arnom. Efallai bod 40,000 o bobl yn defnyddio'r awyren - ond dyw hwnna'n ddim o'i gymharu a'r miliynnau sy'n teithio bob blwyddyn ar drenau'r cymoedd. Dyle pobl Gogledd Cymru cael gwell trafnidiaeth gyhoeddus, yn sicr; ond mae yna ddigonedd o ffyrdd gwell i wario'r arian. Beth am ail agor y rheilffordd i Amlwch? Neu i Gaernarfon?
Fe wnes i drydar Rhys Jones am y mater hwn ar 20 Ebrill:
"Beth yw sail eich honiad mai "prin" yw'r defnydd o'r gwasanaeth awyr rhwng y Gogledd a'r De? Ystadegau ogydd? Dim lle ar y 16.15" [awyren Gogledd-De pnawn 20.04.11]
ond ni ddaeth ymateb ganddo.
Nid allai amddiffyn yr honiad?
Anon 9.05 - mae gwasanaeth awyr mewnol yn gyffredin mewn gwledydd bychan megis Cymru.
Eithriad ydi gwlad sydd heb wasanaeth felly.
Mae ymgeisydd Mon hefyd yn dweud yr un peth, oes yna unrhyw wybodaeth am pwy ydy o? mae'n edrych yn hynod o ifanc yn y lluniau.
Ynglyn a taflenni y Dem Rhydd. PWY sydd yn ei wneud nhw?. Yn fy marn i mae nhwn edrych fel ryw fath o daflen fysa chin rhoi allan mewn etholiad ysgolion, amateur.
Ynglyn a edrychiad a cynnwys y gweddill, yn fy marn i rhaid dweud mae'r Ceidwadwyr sy'n curo, wedyn Plaid, a wedyn Llafur ac rhaid deud roedd 'edrychiad' taflen y BNP yn edyrch llawer mwy proffesiynol na un y Dems.
Dwi'm yn deall sut mae rhai yn gallu edrych mor ddrwg amateur. Does yna ddim template canolog mae rhaid i bawb ddefnyddio?
Mae'r un stori wedi ymddangos yn nhaflen y LibDems yng Ngheredigion.
Yr hyn sy'n ryfedd yw'r ffaith bod Nick Clegg wedi hedfan o un lle i'r llall mewn hofrennydd breifat ar ei ymweliad diwethaf â Chymru.
Post a Comment