Tuesday, April 19, 2011

Nodiadau o'r Alban

Mae blogio'n ysgafn yr wythnos yma oherwydd fy mod yn cael fy hun yn yr Alban.

Serch hynny waeth i mi nodi argraff neu ddau ynglyn ag etholiadau Mai 5.

Yn gyntaf mae'r rhod wedi troi yma - mae'r polau bellach yn awgrymu mai'r SNP fydd yn dod yn gyntaf, ac mae'r Sun wedi troi fel cwpan mewn dwr a chefnogi Salmond - mae'r syniad o gael Salmond yn brif weinidog eto yn atyniadol iawn i lawer nad oes ganddynt unrhyw gydymdeimlad gwaelodol efo'r SNP.

Efallai bod y bwcis yn dal o blaid Llafur, ond y bwcis ydi'r bwcis - pe byddai gen i'r hunan ddisgyblaeth i gyfyngu betio yn erbyn y bwcis i etholiadau byddwn wedi gallu fforddio i ymddeol ers tro byd.

Ta waeth - sylw neu ddau. Mae un lle'n bell iawn oddi wrth y llall yn yr Alban, felly mae gen i ddigon o amser i wrando ar y radio yn y car. Mae yna lawer iawn mwy o sylw yn cael ei roi i'r etholiad na sydd yng Nghymru ar y cyfryngau. Mae polisiau'r pleidiau yn rhan mwy canolog o ymdriniaeth y cyfryngau o'r etholiad nag ydyw adref. Yn bwysicach mae yna fwy o ddatgymalu polisiau.

Er enghraifft un o addewidion Llafur ydi rhoi pawb sydd yn cael ei ddal a chyllell yn ei feddiant yn cael carchar, 'oherwydd bod tor cyfraith sy'n ymwneud a chyllill ar gynnydd aui fod yn costio £500,000, 000 y flwyddyn'. Ymddengys (wedi ymchwiliad gan y Bib) bod y gost gwirioneddol tua £3,000,000 a bod y nifer o achosion o dor cyfraith sy'n ymwneud a chylleth yn syrthio fel carreg. Roedd werth gweld wyneb y cynrychiolydd Llafur o gael ei gyflwyno efo hyn oll. Mae cynlluniau'r pleidiau i rewi treth y cyngor wedi cael eu harchwilio efo crib man gan y cyfryngau.

Mi geisiaf gynhyrchu blogiad arall cyn dod adref.

2 comments:

BoiCymraeg said...

Yr argraff dwi'n ei cael yw bod etholiad yr Alban yn cael eu gweld drwy "lens" Albanaidd, tra bod etholiad Cymru'n cael ei gweld yng nghyd-destun San Steffan.

Does ond gobethio y bydd pethau'n newid i fod ffordd arall yng Nghymru nawr fod gan y cynulliad fwy o bwer.

Cai Larsen said...

Dwi yn meddwl dy fod yn gwneud pwynt teilwng iawn - mae'r etholiad yma'n fwy Albanaidd nag ydi'r un adref yn Gymraeg - os ydi hynny'n gwneud synwyr