Saturday, April 23, 2011

Ydi'r polau yn gor gyfri'r bleidlais Lafur?

Mae'n ddiddorol bod Vaughan, draw ar ei flog, yn bwrw amheuaeth ar y polau piniwn sy'n awgrymu y bydd Llafur yn ennill etholiad y Cynulliad o filltir go dda. Fel mae'r ymgyrch yma'n mynd rhagddi 'dwi'n cael fy hun yn cytuno fwyfwy efo'r canfyddiad hwnnw. 'Dwi'n ymwybodol nad ydi hi'n syniad da anwybyddu polau nad ydych yn eu hoffi - ond mae'n anodd cysoni'r argraff mae dyn yn ei gael ar stepan drws a'r hyn mae'r polau yn ei ddarogan.

'Dwi'n cofio'n dda canfasio y tro diwethaf i Lafur gael mwy na 50% o'r bleidlais yng Nghymru (1997) ac roedd y brwdfrydedd tuag at Lafur ymysg etholwyr yn hynod drawiadol, ac roedd yna ynni rhyfeddol yn perthyn i'w hymgyrch. 'Does yna ddim o'r brwdfrydedd na'r ynni yna i'w teimlo eleni.

Mae Vaughan yn awgrymu bod Llafur yn adeiladu cefnogaeth sylweddol yn ei chadarnleoedd, a bod hynny yn gwneud i bethau edrych yn well iddynt (o ran seddi) nag ydynt mewn gwirionedd. Mi hoffwn gynnig eglurhad arall - mae'r polau yn gor gyfri'r bleidlais Llafur. Mae ganddynt hanes hir o wneud hynny. Er enghraifft, yn ystod ymgyrch etholiad cyffredinol 2001 cafwyd 29 pol masnachol, ac roedd pob un yn rhoi mwy o fantais i Lafur na'r 9% a gawsant wedi i'r pleidleisiau gael eu cyfri. Roedd un pol a gynhalwyd gan MORI ar benwythnos cyntaf yr ymgyrch yn rhoi mantais o 28% i Lafur. Roedd hyd yn oed y polau oedd yn rhoi Llafur isaf yn gor gyfri eu pleidlais.

Roedd 1997 yn well o safbwynt y cwmniau polio - ond hyd yn oed yma roeddynt wedi gor gyfri'r bleidlais Lafur o tua 3%. Yn 2005 roedd y polau yn weddol agos ati - er iddynt unwaith eto or gyfri'r bleidlais Lafur rhyw ychydig. Yn 1992 roedd y cwmniau polio yn awgrymu y byddai Llafur tua 1% o flaen y Toriaid, ond ar y diwrnod roedd plaid John Major 7.5% o flaen plaid Neil Kinnock. Etholiad y llynedd oedd yr unig un i'r polau dan gyfri'r bleidlais Lafur - ond rydym yn gwybod i'r polau hynny or gyfri'r bleidlais Lib Dem yn sylweddol.

Rwan, dydi hyn oll ddim yn golygu o angenrhaid bod yr un patrwm yn cael ei ddilyn y tro hwn wrth gwrs. Ond ag ystyried fy argraffiadau fy hun, argraffiadau pobl eraill mewn rhannau gwahanol o Gymru, y gwendid yn y bleidlais Lafur a amlygwyd yn yr Alban yn ddiweddar, hanes y cwmniau polio o or gyfri'r bleidlais Lafur yn ogystal a'r gwrthgyferbyniad rhwng ffigyrau Llafur yn y polau a'r ymgyrch fflat maent yn ei chynnal, 'dwi'n rhyw deimlo na fydd Mai 6 yn gystal diwrnod i Lafur Cymru na maent yn disgwyl.

6 comments:

BoiCymraeg said...

Does 'ond obeithio

Anonymous said...

Cai
Gobeithio bod bob dim yn iawn yn y dwyrain pell! Mae'r polau yn seiliedig ar 'turnout' uffernol o uchel - tua 70%. Pleidlais feddal Llafur fydd ddim yn troi allan. Serch hynny - mae nae duedd diymwad tuag at Lafur. Cytuno fodd bynnag mai meddal ac anfrwdfrydig ydy o.

Da o beth eleni fyddai i'r Blaid, am unwaith, beidio hawlio ei bod am wneud cynnydd mawr yn yr etholiad. Fel mae hi rwan, bydd unrhyw beth llai na mwyafrif yn cael ei gyfrif yn fethiant i Lafur, ac i'r Blaid dal ei thir yn weddol, yn llwyddiant. Synnwn i ddim petai hynny'n cael ei wireddu.

Haydn

Aled GJ said...

Mae natur anweledol a di-fflach yr ymgyrch etholiadol hon a methiant llwyr y refferendwm ar AV i danio'r dychymyg hefyd yn debyg o olygu turn-out bychan, efallai dim mwy na 40%. Mi fydd hyn yn siwr o sgiwio'r patrwm cenedlaethol yn y polau piniwn ac yn siwr o fod o help i ymgyrchoedd lleol ymroddedig o'r fath y mae Plaid Cymru yn eu cynnal mewn sawl etholaeth. Dwi inna'n ryw feddwl na chaiff Llafur eu mwyafrif ar Fai 5ed.

Alwyn ap Huw said...

Hwyrach byddwyf yn difaru dweud hyn ym mhen pythefnos; ond mae fy nghyfeillion o'r Blaid yn dawel hyderus bod y Blaid am gadw Aberconwy ac yn gweld y Ceidwadwyr yn fwy o fygwth na Lafur. Mae fy nghyfeillion Ceidwadol ym Mae Colwyn yn dawel, hyderus bod y Parch Millar am gadw Dwyrain Clwyd ac yn gweld y Blaid fel y bygythiad mwyaf . Mae'n ymddangos nad ydy'r Pleidwyr na'r Ceidwadwyr yn gweld Llafur yn y ras yn y naill etholaeth na'r llall. Os am gael mwyafrif clir mae'n rhaid i'r ddwy etholaeth mynd yn ôl i Lafur, rhywbeth sydd yn ymddangos yn annhebygol iawn os yw'r hyn a glywaf yn gywir.

Hogyn o Rachub said...

Yn bersonol dwi'n dueddol o led-gytuno â'r polau ar hyn o bryd. Dwi'n meddwl efallai dy fod yn gwneud rhywfaint o gamgymeriad yn cymharu â '97 'fyd - roedd yr etholiad hwnnw a'r un sy'n dyfod yn gwbl wahanol, yn ddau begwn felly hefyd. Dydi'r cyffro a deimlwyd, fod newid byd ar dro, ddim yn rhywbeth a welwn eleni ar unrhyw ystyr. Does 'na ddim brwdfrydedd at Lafur, ond mae 'na atgasedd amlwg at y glymblaid Lundeinig, a fydd hynny'n ffactor sicr.

Yn wahanol i etholiadau Cynulliad a fu, teimlaf y bydd Llafurwyr yn troi allan yn eu niferoedd eleni. Yn anffodus, dwi'n rhagweld llywodraeth Lafur fwyafrifol ... ond mae 'na bythefnos i fynd a dwi'n cadw'r hawl i newid y broffwydoliaeth honno!

Anonymous said...

Dwi yn meddwl fod angen i'r Plaid hganolbwyntio ar yr ail bleidlais. Un bleidlais i'r etholaeth a un dros Gymru. Mae angen atgoffa pobl y gallent roi dwy bleidlais i'r Blaid a bod modd rhannu yr ail bleidlais gallai hyn fod yn allweddol i'r canlyniad