Wednesday, April 06, 2011

Etholiadau'r Cynulliad yng Ngwynedd



Cliciwch ar y delweddau os nad ydych yn eu gweld yn iawn

Datganiadau ynglyn a'r ymgeiswyr yn etholiadau'r Cynulliad yn nwy etholaeth Gwynedd ydi'r uchod. Maent yn ddiddorol ar sawl cyfri.

Mae'n ymddangos mai Alun Ffred Jones ydi'r unig un o ymgeiswyr Arfon sydd a chyfeiriad yn Arfon, ac yn wir yng Ngogledd Cymru. 'Dydw i ddim yn gyfarwydd a'r cwbl o'r ymgeiswyr ym Meirion Dwyfor - ond o'r tri ymgeisydd 'dwi yn gyfarwydd a nhw - Steve Churchman (Lib Dem), Louise Hughes (Llais Gwynedd) a Dafydd Elis-Thomas dim ond y pleidiwr sy'n rhugl ei Gymraeg. Byddai'n ddiddorol gwybod os ydi'r ddau ymgeisydd arall - Simon Baynes a Martin Singleton - yn siarad yr iaith.

'Rwan does yna ddim rhaid i ymgeisydd fod yn ddwyieithog nag yn lleol i gael ei ethol wrth gwrs - ond does gan Arfon na Meirion Dwyfor ddim hanes o gwbl o ethol pobl nad ydynt yn ddwyieithog ac a chysylltiadau lleol agos, i senedd San Steffan nag i'r Cynulliad. Mae dewisiadau'r pleidiau unoliaethol a'r grwp rhanbarthol yn awgrymu nad ydynt o ddifri ynglyn ag ennill y naill sedd na'r llall. Mae hynny'n ddigon dealladwy gan fod y Blaid efo mwyafrif sylweddol yn y ddwy etholaeth.

Mae'n ddiddorol hefyd mai un ymgeisydd yn unig sydd gan Llais Gwynedd - Louise Hughes ym Meirion Dwyfor. Roedd cryn son yn Eisteddfod y Bala am sefyll yn Arfon ac yn rhanbarthau'r Gorllewin a'r Canolbarth a'r Gogledd. Torri'r got yn ol y brethyn a wynebu realiti etholiadol ydi dewis un ymgeisydd yn hytrach na phedwar.

5 comments:

Anonymous said...

Cyn-fyfyriwr ifanc o Fangor yw Martyn Singleton. Mae gen i ffrindiau sy'n adnabod o.

Boi neis yn ôl pob sôn, mae'n dod o'r Wyddgrug ond dyw e ddim yn deall materion sy'n effeithio Cymru neu hyd yn oed efo unrhyw fath o hunaniaeth Gymreig. Dyw e ddim efo'r sgiliau i fod yn wleidydd chwaith.

Mae angen i Lafur dewis ymgeiswyr mwy safonol. Ar hyn o bryd mae'r cynulliad yn cael ei drin fel jôc.

Anonymous said...

Tirfeddianwr o Faldwyn uniaith Saesneg yw Simon Baines. Safodd yn erbyn Elfyn flwyddyn diwethaf.

Bwlch said...

Gobeithio fod yr etholwr lleol yn danfon neges cryf i'r pleidiau unaelathol nad ydi Sedd Arfon ddim rhyw Kindergarten i gwleidyddion newydd!!!!!

Hogyn o Rachub said...

Yr hyn y mae'r diffyg ymgeiswyr Cymraeg yn ei ddangos ydi diffyg parch y pleidiau *yn lleol* tuag at y Gymraeg, ac mae hynny'n cynnwys Llais Gwynedd. Siom, ond syndod? Na!

Un o Eryri said...

Dafydd yw yr unig ymeisydd yn Dwyfor - Meirion sydd yn siarad Cymraeg. Mae asiant Llais Gwynedd yn siarad Cymraeg. Mae ef yn credu y dylsai Heddlu Gogledd Cumru siarad Cymraeg, ond nid yw yn credu y dylsai fod gan etholwyr Dwyfor Meirion gael yr hawl i siarad Cymraeg a'i aelod Cynulliad. Mae gennyf air da i ddisgrifio yr Asiant, ond nid yw yn weddus i ddweud yn gyhoeddus