Friday, April 08, 2011

Cwis bach - unwaith eto

Ymhle gellir dod o hyd i'r esiamplau clodwiw yma o Gymraeg cyhyrog?:

Ar y tab Insert, yr orielau yn cynnwys eitemau sy’n cael eu cynllunio i gydlynu gyda golwg cyffredinol eich dogfen. Alli arfer hyn orielau i tablau insert, penawdau, throedyn, rhestrau, yn cynnwys

Sylwch nad ydych wedi’ch awdurdodi i ddosbarthu, copi neu arddangos y dudalen gwefan hon, unrhyw dudalennau eraill o fewn y wefan hon neu unrhyw adran ef er elw masnachol neu fel arall, ac efallai mai dim ond yn defnyddio’r wybodaeth at eich dibenion mewnol ei hun. Rydych chi atal rhag casglu gwybodaeth oddi ar ein gwefan ac yn ymgorffori i mewn i’ch cronfa ddata hun neu gynhyrchion.

Ein Cwmni a’i chwmnïau cysylltiedig, a / neu y swyddogion a gweithwyr y cwmnïau hynny, wedi sefyllfa mewn, neu i gymryd rhan mewn trafodion mewn, unrhyw un o’r gwarantau a grybwyllir neu mewn gwarantau cysylltiedig.

Gweler yma os ydych eisiau'r ateb

12 comments:

Guto Bebb said...

Euog!

Ond wrth gwrs dim gair am ddiffyg blogiad Cymraeg gan Bethan Jenkins ers mis Hydref.

'People in glass houses' fel y dywed y sais.

Gan amlaf mae ymosodiadau Blog Menai arnaf yn digwydd pan fo Plaid annwyl Cai mewn trafferthion. Dim byd newydd felly.

Adam Jones said...

Er gwaetha'r ffaith bod Bethan Jenkins yn blogio'n uniaith a minnau wedi ei thaclo hi'n aml ynglŷn â'r peth. Dydy hynny dal ddim yn esgusodi'r ffaith bod y Cymraeg yn cymryd lle eilradd ar eich gwefan a'ch bod chi ddim yn poeni lot am safon y darpariaeth Gymraeg sydd yn bodoli h.y diffyg parch at Gymry Cymraeg, yn union fel cynlluniau'ch llywodraeth chi i ddifetha dyfodol S4C.

Adam Jones said...

Hefyd Guto er gwaetha'r ffaith yr ydych yn cyfaddef eich bod chi'n euog yr hyn yr hoffwn i wybod yw beth fyddwch chi'n neud am y peth yn hytrach na cheisio ymosod a sgorio pwyntiau rhad gwleidyddol. Gormod o bersonoliaethau hunanol sydd ond yn becso am eu gallu i ymosod ar ei gilydd fel plant iard yr ysgol. Does rhyfedd bod y dyn cyffredin wedi syrffedu'n llwyr gyda gwleidyddiaeth gwlad.

Guto Bebb said...

Adam, dim byd am y tro.

Be da chi'n bwriadu wneud an flog uniaith Leanne Wood?

Tacla dy blaid cyn taflu baw!

Anonymous said...

Dwi'n bored 'rwan ond gan fod Adam a Cai yn trio sgorio pwyntia gwleidyddol am yr iaith beth am flog Nerys Evans?

http://www.nerysevans.org/nerys-selected-to-fight-for-her-local-constituency

Y Gymraeg yn amlwg iawn ar ddatganiadau y wasg Nerys yn tydi.

Rwan dwi ar fai - dim esgus, ond wir bois beth am ddechrau wrth eich traed?

menaiblog said...

Twt, twt Guto paid a bod mor sensetif - 'does yna neb yn ymosod arnat - 'mond sylwi ar y ffaith bod dy Gymraeg wedi mynd yn rhyfedd braidd ers i ti gael dy hun yn San Steffan.

menaiblog said...

Anhysb 12.58 (a Guto o ran hynny) - dwi ddim yn meddwl fy mod yn cwyno am flogiau uniaith Saesneg - sut y gallwn i? - mae fy un i yn uniaith Gymraeg i bob pwrpas.

Cwyno ydw i am flogiau sy'n cynhyrchu rybish di ystyr. Ydi hynny'n broblem?

Guto Bebb said...

Menaiblog, pam ddim cwyno?

Mae hon gan Jonathan Edwards (sy'n uffar o foi iawn) yn llawn Cymraeg!

http://www.jonathanedwards.org.uk/

Rwan ti'n trio cuddio tu ol i'r cyhuddiad fy mod yn sensitif. Falle wir, ond onid ymosodiad yw nodi diffygion gwefan aelod o ub plaid o ran y Gymraeg heb erioed nodi pryder o ran agwedd dy aelodau etholedid tuag at y Gymraeg ar ei safleoedd hwy?

Ta waeth, ac eithro ambell nos Wener sgen i ddim parch i'r cyfrwmg ac falle dyna egluro fy nifaterwch.

robin goch said...

Dwi'm yn nabod y boi ond oedd Guto Bebb yn dwat hunanbwysig cyn mynd yn Aelod Seneddol neu ydio'n rhywbeth sy di datblygu'n ddiweddar?

Anonymous said...

Euog! Mae hwn yn warthus, be yn y byd ma Adam yn wneud troi ymosod ar pawb unrhywle fi'n mynd mae e fyna fel cu yn eich gwyneb, jiw, jiw, adam y dydd bydd ti'n atal defnyddio unrhywbeth efo geiriau saesneg ar bydd y dydd ti methu goroesi

menaiblog said...

Mi dria i eto Guto:

Byddai'n afresymegol i flog uniaith Gymraeg feirniadu blogiau uniaith Saesneg am fod yn uniaith Saesneg. Dyna pam nad ydw i erioed wedi tynnu sylw at y diffyg Cymraeg ar dy flog di - na blog neb arall o ran hynny.

Ond mae'n gwbl resymegol i flog Cymraeg feirniadu blog sy'n cynhyrchu'r gobyldigwc rhyfeddaf a'i alw'n Gymraeg.

Gobeithio bod yr uchod yn gwneud pethau'n weddol glir.

Adam Jones said...

O Duw Duw mae'r tantrymau gwleidyddol wir yn dod i'r fei nawr. Pwy yw mistar anhysbys byddwch ddigon o berson i ddangos pwy ydych chi? Dim ond bryd hynny fyddai'n rhoi ymateb teilwng i chi.

Un mae'n wir bod nifer o flogiau Plaid Cymru yn defnyddio cyn lleied o'r Gymraeg ac mae'n anfaddeuol, yn warthus i bob pwrpas, galw'u hun yn genedlaetholwr ond eto'n herio'r feddylfryd hwnnw.

Rwy'n aelod o'r blaid odw ond os na ellid barnu a phwyntio bys ar y diffyg parch sydd yn bodoli ar y we dros y Gymraeg ble allwch wneud hynny?

Mae'r ffaith bod un unigolyn anhysbys yn nodi fy mod i fel 'Ci' ac nid 'cu' ar hyd y lle yn cwyno yn portreadu gwir sefyllfa annerbyniol o ddefnydd y Gymraeg ar y we, mae hyn serch hynny yn amherthnasol i'r ddadl hon. Eto mae'r postiwr yna'n ceisio fy mychanu ar y sail 'nad yw'r Gymraeg ddigon da' 'ishe Sisneg yn y byd mowr ma glei' Dwli! pe byddai pawb yn yr un feddylfryd ble fyddai'r Gymraeg nawr? .

Dwi'n deall safbwynt Blogmenai yn iawn, nid barnu dwyieithrwydd y blogiau yn hytrach barnu safon yr iaith sydd yn annerbyniol. Mae Blogmenai ar y llaw yn gaffaeliaid i'r blogsffer Cymraeg ac rydych chi sydd yn ymosod yn gwybod hynny ac felly'n ceisio newid y ddadl eto i 'ennill pwyntiau gwleidyddol rhad'

Mae na rhyw duedd iawn wnawn ni argraffu taflenni a phosteri yn ddwyieithog i ymddangos ein bod ni'n gryf dros y Gymraeg yn 'pro Welsh' os lici di, ond yna dyw'r Gymraeg ddim digon pwysig i'w weld a'i defnyddio ar y we (lle mae trwch y pobl ifanc heddiw yn cael eu gwybodaeth?

Mi fyddai fel pla ar hyd y lle yn cwyno nes y cawn degwch dros yr iaith Gymraeg ym mhob agwedd o'n bywydau.