Sunday, April 24, 2011

Paddy Power ac etholiadau'r Cynulliad

Hoff safle betio blogmenai ydi un Paddy Power, y bwci dyfeisgar Gwyddelig. Am y tro cyntaf (dwi'n meddwl) mae'n cynnig prisiau am pob etholaeth Gymreig.


O ran Plaid Cymru mae'n ffefryn ym mhob sedd sydd eisoes yn ei dwylo - gan gynnwys Aberconwy lle mae'n ffefryn clir. Weler'r ffigyrau cyfredol isod (mae prisiau bwci yn newid trwy'r amser wrth gwrs).

Aberconwy - Iwan Huws - 1/7
Arfon - Alun Ffred - 1/12
Dwyrain Caerfyrddin - Rhodri Glyn - 1/100
Ceredigion - Elin Jones - 1/9
Meirion Dwyfor - Dafydd Elis Thomas - 1/200
Llanelli - Helen Mary Jones - 4/7
Ynys Mon - Ieuan Wyn - 1/16

Daw'r Blaid hefyd yn ail yng ngolwg Paddy Power yn yr isod:

Aberafon - Paul Nicholls Jones - 20/1
Caerffili - Ron Davies - 5/2
Gorllewin Caerdydd - Neil McEvoy - 12/1 (ail ar y cyd efo'r Toriaid)
Cwm Cynon - Dafydd Trystan - 18/1
Islwyn - Steffan Lewis - 16/1
Merthyr - Noel Turner - 20/1
Castell Nedd - Alun Llywelyn - 9/1
Ogwr - Danny Clarke - 16/1 (ar y cyd efo'r Toriaid)
Pontypridd - Ioan Bellin- 20/1 (ar y cyd efo'r Lib Dems)
Rhondda - Sera Evans-Fear - 16/1
Dwyrain Abertawe - Dic Jones - 16/1

Mi fyddwn yn awgrymu mai'r bargeinion gorau yma i unrhyw un sydd eisiau betio ar y Blaid ydi Cwm Cynon ac o bosibl Castell Nedd.

'Dydi'r fargen orau ddim yn ymddangos uchod fodd bynnag. Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro ydi honno. Mae Paddy Power yn rhoi Nerys Evans yn drydydd ar 4/1. Mae'r bwcis eraill yn ei rhoi yn ail clir ac yn cynnig tua 2/1 arni. Felly os ydych yn un am fetio, brysiwch - wnaiff y pris yna ddim aros yn hir.

Mae'n ddiddorol nodi hefyd bod y bwci yn rhoi'r un prisiau am Louise Hughes (Llais Gwynedd) ym Meirion Dwyfor ac Owain Williams (Llais Gwynedd) yn Arfon. Mae'n cynnig 100/1 am y ddau - er nad ydi enw Owain Williams ar y papur pleidleisio.

6 comments:

Anonymous said...

Blydi hell ma Paddy Power way off gyda Nerys Evans .

Cai Larsen said...

Bet i ti felly?

Gwilym said...

Sori. Mae Plaid Lafur yn siwr o ennill Aberconwy.

Cai Larsen said...

Bet dda i chdithau felly Gwilym os ti'n siwr o hynny.

Adam Jones said...

Sai'n gweld 'ny rhywsut Gwilym, mae'r 'gogwydd cenedlaethol' breuddwydiol hwnnw ddim i weld yn dwyn ffrwyth wrth siarad á phobl ar y strydoedd does 'na neb braidd yn cydymdeimlo â llafur. Nid yw pobl yn dwp ac yn anghofio am y ffradach a wnaethant o'n heconomi â'r rhyfel yn irac, mae pobl dal yn ddig am bethau felly.

Anonymous said...

Llafur yn aberconwya Ceidwadwyr i Mon gan nad yw y boi anibynnol na yn sefyll yn Mon mwyach