'Dwi'n meddwl fy mod yn gywir i nodi mai Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr ydi'r drydydd etholaeth Gymreiciaf o ran iaith yng Nghymru (ar ol Arfon a Meirion Dwyfor).
Ymddengys nad ydi'r Blaid Lafur leol yn ymwybodol o hynny - does yna'r nesaf peth i ddim Cymraeg yn eu gohebiaeth etholiadol. Mae yna fwy o Gymraeg o lawer yn eu gohebiaeth yng Nghaerdydd.
Hwyrach nad ydyn nhw eisiau pleidleisiau'r sawl sy'n siarad Cymraeg.
Gwelwyd y stori ar flog Cymdeithas yr Iaith.
13 comments:
Does na unlle yng Nghymru ble ma dwy blaid yng ngyddfau ei gilydd fel Sir Gaerfyrddin. Ma'r sir tu Allan I unrhyw drend cenedlaethol - ma'r sir am fynd yn hollol wyrdd. Ma tre Caerfyrddin wedi mynd o'r blaid y tamed oedd mor anodd I Gwynfor.
Mae taflen Llafur Rhanbarth y Gorllewin a'r Canolbarth (sy'n mynd i llefydd mor Gymraeg a Phenfro a Maesyfed) yn drwyadl ddyieithog. Peth rhyfedd nad yw'r blaid yn lleol wedi sylweddoli hynny.
So taflen Anthony Jones wedi cyrraedd Emlyn Uwch Cych to, ond doeddwn i ddim yn mynd i bleidleisio dros y blaid wrth-gymreigiaf, ta beth.
"Ma tre Caerfyrddin wedi mynd o'r blaid y tamed oedd mor anodd I Gwynfor."
sori Anon, dw i ddim yn deall y darn yma. Beth wyt ti'n feddwl?
sori, fi bostiodd y sylw uchod gan Lisa. Doeddwn i heb sylweddoli fy mod wedi mewngofnodi efo cyfri Google fy nghariad!
rhag i neb fy nghyhuddo o ddefnyddio pypedi hosan, fel petai
@Lisa.
Rwy'n credu mai ystyr Anon 2025, oedd i dre Caerfyrddin - oedd gynt yn yr etholaeth o'r enw "Caerfyrddin" - gael ei chymryd mas o etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr pan y'i ffurfiwyd ym 1997.
Tref Caerfyrddin oedd y talcen caletaf i Gwynfor yw awgrym Anon, felly gyda symud gorllewin Sir Gâr i etholaeth arall, crewyd etholaeth sy'n llawer haws i PC ei hennill.
Roedd hi'n ddiddorol yng nghyfrif Refferendwm March 3: bocsys cymoedd Aman a Gwendraeth yn 7:1 o blaid IE, ond bocsys tre Caerfyrddin yn rhoi mwyafrif lawer llai i'r IE.
So i'n gwybod pam, ond mae'r dre hon yn aros ar wahân.
Felly cyfeiriaf fy sylwadau (2214) at Dylan, nid Lisa.
Cofio y grwp efo Luned Morgan ayyb oedd yn ymdrechu "Cymreigio yr Welsh Labour Party"!! Braf fod y mudiad yna wedi dylnwadau gymaint ynde!??!?!?!?!
Mae hyn yn warthus fel unigolyn sydd yn Byw yn Nyffryn Aman dwi wedi ceisio cael ymateb ar ran Cell Cymdeithas yr Iaith Dyffryn Aman a Llanelli a'r ymateb y ges i oedd bod
'Plaid Cymru' wedi cyhoeddi llenyddiaeth tebyg yn ardaloedd fel Caerffili, os yw hynny'n gwir neu beidio mae'n amherthnasol. Ni allwch gymharu Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ag ardal megis Caerffili.
Chi'n iawn i ddweud dyma'r 3ydd etholaeth cymreiciaf yng Nghymru gyda 72% yn meddu ar un neu'n fwy o sgiliau yn yr iaith Gymraeg 60-65% Ohonynt yn Siarad/Darllen ac Ysgrifennu'r Gymraeg sydd un uchel iawn i gymharu â gweddill Cymru.
Un peth arall sydd yn bwysig nodi yw bod gan Llyfrgell Rhydaman ar ôl Llyfrgell Pontyberem (etholaeth Llanelli) y cyfradd ucha ar ôl ardaloedd yng Ngwynedd ar ran benthyca Llyfrau Cymraeg sydd yn profi bod nifer fawr yn yr ardal nid ond yn siarad ond hefyd yn darllen y Gymraeg yn aml wedyn beth yw'r synnwyr peidio a chyhoeddi'r daflen yn ddwyieithog?
Diolch i Dduw hen fwnci pwdwr yw Anthony Jones sydd á braidd dim gobaith, dyma ail sedd mwyaf diogel Plaid Cymru yng Nghymru ar ôl Meirion-dwyfor gyda 52% o'r Bleidlais. Pwy sydd eisiau'r bleidlais amgen yng Nghymru dwedwch :P
Roedd pleidlais y Blaid yn uchel iawn yng Nghaerfyrddin yn etholiadau lleol 2008 os dwi'n cofio'n iawn.
Digon gwir ynglŷn â 2008. Dyma'r canlyniadau (ail dudalen y pdf): http://www.carmarthenshire.gov.uk/English/council/elections/Documents/County%20Council%20Election%20Results%201st%20May%202008.pdf
oddi ar y pwnc yn llwyr, ond ro'n i isio tynnu sylw at y diagram grêt yn fan hyn: http://www.anthonysmith.me.uk/2011/01/17/how-complicated-is-the-alternative-vote/
da iawn (er cwpl o fisoedd oed). Dw i dal yn credu bod AV yn chwit chwat, ond dw i'n bwriadu pleidleisio Ie am yr unig reswm y byddai Na yn golygu gorfod dioddef FPTP am byth bythoedd amen a byddai hynny'n hunllef
Ma hwn yn odd iawn gan bod o nabod Anthony ma fe yn cymro cymraeg sydd yn lot mwy agos i blaid cymru na lot sydd wedi sefyll i llafur yn y sedd yn yr orfenol ac yn siarad cymraeg ei hunain?
Dwi ddim yn siwr os ma fe wedi neud penderfyniad pwrpasol i osgoi siaradwyr cymraeg ond fydd hwnna ddim yn neud lot o sense.
Ma llafur yn dwyrain caerfyrddin mewn bach o dire straits. Yn etholiad 2010 odd rhaid i ddim un ond dwy ymgeisydd sefyll lawr, un achos ymosodiad ar siaradwyr cymraeg. Rhyfedd i meddwl odd y sedd yn un weddol safe diwedd y ganrif diwetha. Ma plaid cymru rhwng Adam Price, Rhodri Glyn Thomas a nawr Jonathan Edwards wedi neud job effeithiol iawn o sicrhau pleidlais cadarn ir blaid yn yr etholaeth yna
Dylan - beth o ni eisiau dweud ond bod cyfuniad o gwrw a iphone yn golygu bod fi wedi methu - oedd bod tre Caerfyrddin wedi symud i Blaid Cymru - na pam dwi'n eitha ffyddiog y bydd Nerys yn ennill. I deud y gwir ma da fi fwy o ffydd yn Nerys yn ennill na Helen yn cadw ei sedd- sori.
Post a Comment