Tuesday, April 26, 2011

Ond un peth da am y Lib Dems Gogledd Cymru ydi _ _ _

_ _ _ eu synnwyr digrifwch.

Y tim buddugol?

Yn y Gogledd?

Yn 2007 mi gafodd y Lib Dems 7.8% o'r bleidlais yn y Gogledd. Mae'r polau ar hyn o bryd yn awgrymu y bydd eu pleidlais yma yn syrthio i tua 4%.

Ac mae hynny'n fuddugoliaeth! Tybed beth ydi cweir ym myd bach rhyfedd Lib Dems Gogledd Cymru?

3 comments:

Anonymous said...

Mae'n rhaid fod tipyn o ddigrifwch yn perthyn i blaid roddodd Eleanor Burnham i'r genedl.
Ond wir, mae honna'n glasur o sbin.
Atgoffa fi o ddatganiad wasg Ceidwadwyr Sir Gaerfyrddin ar ol isetholiad Cenarth. 'The Conservative candidate nearly caused a sensation by taking the seat' - y canlyniad?
PC 638
Ceid 141

Ond ble'r oedd graff y Lib Dems tro yma i gefnogi'r sbin? Siawns gallen nhw fod wedi bod yn greadigol. Gosod y graff ar ei ben i waered falle?

Photon said...

[llais Kirsty Williams]

'Bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn sicrhau bod ein deunydd ymgyrchu mor afrealistig a'n siawns o ennill unrhyw wobr hyd y gellir ei ragweld.'

[/llais Kirsty Williams]