Newyddion drwg sydd ynddo i'r sawl (fel fi) sydd o'r farn y byddai llywodraeth fwyafrifol Llafur yn cymaint o drychineb ag oedd un 2003 - 2007. Y tro diwethaf Lafur gael mwy na 50% yng Nghymru (etholiad cyffredinol 1997) roedd y map etholiadol yn edrych fel hyn:
Os ydi Llafur yn wir yn polio mwy na 50% yna byddant yn cymryd rhai o'r seddau rhanbarthol y tu allan i'r Gorllewin a'r Canolbarth yn ogystal ag etholaethau - yn y De Ddwyrain er enghraifft.
Mae dau gwmni polio yn canfod bellach bod gogwydd cryf tuag at Lafur – ac mae hyn yn gyson a phatrwm hanesyddol lle ceir Llafur yn adeiladu cefnogaeth yn gyflym yng Nghymru pan maent allan o rym yn San Steffan. Mae yna resymau strwythurol am hyn, a byddwn yn dychwelyd at y mater hwnnw maes o law. Ond mae’r sefyllfa yn profi y tu hwnt i bob amheuaeth bod y gorffennol – hyd yn oed y gorffennol agos – yn wlad arall yng ngwleidyddiaeth etholiadol Cymru.
Yn y cyfamser y cwestiwn pwysig o safbwynt y Blaid ydi beth gellir ei wneud i gael y gorau allan o sefyllfa anodd?
Y peth cyntaf i’w gofio ydi mai 40 etholiad unigol a geir mewn gwirionedd yn hytrach nag un etholiad wlad eang – ‘dydi’r cyfryngau ddim yn gallu dominyddu’r etholiad na’i naratif yn yr un ffordd a sy’n digwydd mewn etholiadau San Steffan. O ganlyniad mae ymgyrchoedd lleol pwerus yn gallu bod yn effeithiol, ac mae’n bosibl creu naratifau lleol sy’n gryfach ac yn fwy clywadwy na’r rhai cenedlaethol.
Yr ail beth ydi bod ansawdd ymgeisyddion y Blaid yn aml yn well nag ansawdd rhai’r pleidiau unoliaethol. Lle mae hynny’n wir dylid gwneud pob dim posibl i dynnu sylw at hynny. Mae’r personol a’r plwyfol yn bwysicach mewn etholiadau Cynulliad na mewn rhai San Steffan.
Yn drydydd mae yna fis i fynd – ac mae hynny’n amser maith mewn gwleidyddiaeth etholiadol. Mae yna amser i fireinio a gwella’r naratif cenedlaethol. Roedd polisiau trawiadol yn un o nodweddion ymgyrch y Blaid yn 2007, ac mae rhai o’r polisiau sydd wedi eu datgan y tro hwn – cymryd gofalaeth o Bontydd Hafren er enghraifft – yn ddigon trawiadol.
Yn bwysicach mae angen naratif syml negyddol sy’n ymwneud a pham na ddylid pleidleisio i Lafur. Cymharu record glodwiw Cymru’n Un efo record wachul llywodraeth 2003 – 2007 ydi’r un orau y gallaf i feddwl amdani. Arweiniodd llwyddiant i Lafur at or hyder, arweiniodd gor hyder at draha, ac arweiniodd hynny yn ei dro at lywodraethu anghyson, mympwyol, di strategaeth.
Gallwn ddisgwyl yr un peth am bedair blynedd arall os bydd Llafur yn cael eu bachau ar rym ar eu pennau eu hunain.
18 comments:
Pum mlynedd. Bydd yr etholiad cynulliad nesaf yn 2016, nid 2015.
A - cweit - pum mlynedd. Gwaeth hyd yn oed.
Mae rhaid i'r Blaid ymosod a'r y ddwy blaid Unolaethwyr fel mae'r SNP yn ei gwneud.
Triwch hwn fel ymosodiad:
Labour put us into debt and the Tories is making sure we are going to stay in debt! Vote Plaid for true radical new goverment!!
Ar nodyn bositif i Blaid Cymru, fe all y pergyl fod Llafur yn cael mwyafrif yng Nghymru orfodi nifer o bobl i bleidleisio'n dactegol er mwyn sicrhau nad yw hynny'n digwydd.
Petawn i'n byw yng Nghanol Caerdydd faswn i'n cael fy nhemptio i fotio LibDems am y rheswm hyn. Byddai'n gam gwag i arweinyddion ymgyrch PC ymosod ormod ar y LD (heblawn yn Ceredigion) mae Plaid angen i bobl i gadw i fotio LD ac nifer symud i Lafur.
Toes na ddim llawer o bleidleiswyr yn credu fod Plaid yn grwando ar y bobol, mae llawer iawn o nhw yn dweud fod Plaid Cymru wedi bradu, a dyna enw newydd Plaid Cymru un ynys mon, parti y bradwyr.
Er mod i'n teimlo'n bersonol y byddai'n dda o beth i'r Blaid gael cyfnod i ail-ddiffinio'i hun y tu allan i lywodraeth, dwi dal am eu gweld nhw'n dangos mwy o gythraul rhwng rwan a Mai 5ed!! Hefo'r polau piniwn a'r mood cyhoeddus fel ag y mae o, siawns mai'r unig ateb ydi mynd amdani go iawn. Nid jest ymosod ar y cysyniad o Lafur yn rheoli eu hunain, ond amlinellu'n glir mewn termau cenedlaetholgar be ddylai ddigwydd nesaf yn y broses ddatganoli. Hoffwn i weld yr elfennau canlynol yn cael eu rhoi ar waith dros yr wythnosau nesaf:
* Gwneud mwy o ddefnydd o Elfyn Llwyd( "attack-dog" gorau a mwya credadwy PC)
* Galw am ddatganoli'r Crown Estates i Gymru a lincio hyn i'r agenda datblygu ynni adnewyddol
* Galw am ddatganoli darlledu i Gymru a gwarchod S4C rhag ymosodiadau'r Toriaid yn Llundain
* Dal ati i alw am reolaeth dros Bont Hafren
* Amlinellu mewn termau real be allai cronfa Build for Wales ei gyflawni
*Son mwy am syniad Adam Price o greu mentrau cydweithredol i adfywio cymunedau Cymru
*Peidio bod mor managerial!!!
Cai
Cytuno bod gogwydd cyffredinol tuag at Lafur. 1/2 o bethau am y po diweddaraa ma. Os dw i di dallt yn iawn:
1 Roedd 68% yn deud sa'n nhw'n bendant o bleidleisio. Mo we hose. Bydd hi'n gosach at 45%. Pleidlais feddal lafur fyd yn diodde yn y cwymp hwn.
2 Holwyd am duedd wleidyddol. 0% yn teuddu at y Blaid yn Arfon! 75% yn tueddu at Lafur yn Llanelli
3 Dadnsoddiad ar lefel etholaeth yn anghredadwy - llafur i ennill Arfon yn hawdd. Y Blaid yn 4ydd sal yn Aberconwy, LIB Dims yn ennill yng Ngheredigion. Cefnogaeth y Blaid yn 75% yng Nghaerfyrddin.
4 Ti'n iawn - mae na 40 o etholiadau. Pa werth sydd i pol fel hyn lly? Fues i'n canfasio stad cyngor yng Nghaernarfon pnawn ma efo AFf. Dyma'r croeso c'nesa dwi di weld i ymgeisydd y Blaid ers blynyddoedd maith.
5 Tybed ydy pobol mewn mindset etholiadau Prydeinig? Gobeithio newidith hyn wrth i'r etholiad fynd rhagddo, Mae Llafur wrth gwrs am annog y mindset hwn. Mae'n fanteisiol iddyn nhwgae pobl i bleidleisio yn erbyn Cameron. Dyma'r union dacteg mae Llafur yn ei defnyddio yn yr Alban. Erthygl ddifyr ar hyn ym mlog Politica Betting
Os ydy hyn yn wir ella mai'r peth pwysica i'r Blaid ydy dod a'r etholiad yma yn o i dir Cymru.
Un pwynt bach arall i ypsetio rhai o dy gydflogwyr di. Dwim yn gweld unrhyw fantais i'r Baid honni eu bod yn ystyried clymbleidio a'r Toris. Diom yn mynd i ddigwydd ac mae smalio bod y drws ar agor yn rhoi gol agored i Lafur
Haydn
Diolch Haydn - roeddwn innau allan yn 'Dre efo AFfJ ddoe hefyd. Un neu ddau o bwyntiau.
Mae'r is setiau etholaethol yn rhy fach o lawer i fod yn ddibenadwy. Mae yna margin of error o tua +\- 20% yn yr etholaethau.
Ti'n gywir am y pendantrwydd pleidleisio - does yna ddim pwynt cyfri neb ond y rhai sy'n sgorio tebygrwydd pleidleisio yn 9 neu 10.
Hefyd dwi'n cytuno am y clymbleidio efo'r Toriaid - mae'n fater sy'n codi ar stepan drws.
Thanks for finally talking about > "178 tudalen _ _ _"
< Loved it!
My weblog; treatment for toenail fungus
May I just say what a comfort to discover somebody that really understands what they
are discussing online. You actually understand how to bring a problem to light and make it important.
More and more people really need to check this out and understand this side of your story.
I can't believe you aren't more popular because you most
certainly possess the gift.
Review my web page :: housekeeping service
Fastidious answer back in return of this query with firm arguments
and describing the whole thing about that.
Also visit my web-site: supervisor housekeeping
I know this website offers quality depending content and extra material, is there any other
website which offers these kinds of information in quality?
Feel free to surf to my web site: housekeeper san antonio
buy valium msj valium for sale - buy valium by roche online
Excellent blog here! Also your site loads up fast! What web host are you using?
Can I get your affiliate link to your host? I wish
my web site loaded up as quickly as yours lol
Also visit my weblog http://xasca.science.uu.nl/
Wow, fantastic blog layout! How long have you been
blogging for? you make blogging look easy. The overall look of your site is wonderful,
let alone the content!
Look into my blog post - http://50.134.249.76:8532/ZHBFreder
Amazing blog! Is your theme custom made or did you download it from
somewhere? A design like yours with a few simple tweeks would really make my blog stand out.
Please let me know where you got your design. Many thanks
Here is my web blog: zetaclear nail fungus relief
Also see my site - zetaclear nail fungus relief
Please let me know if you're looking for a writer for your site. You have some really good articles and I think I would be a good asset. If you ever want to take some of the load off, I'd love to write some articles for your blog in exchange for a link back to mine.
Please blast me an e-mail if interested. Thank you!
Look at my web-site http://www.demo.sedeveloper.com/blogs/60984/122154/why-you-should-hire-a-reliable-c
Excellent post. I was checking constantly this blog
and I'm impressed! Very useful information specially the last part :) I care for such information much. I was looking for this certain information for a very long time. Thank you and best of luck.
Here is my webpage - hair loss treatment
Post a Comment