Sunday, April 03, 2011

Ar y lon unwaith eto

Cafwyd noson lawnsio ymgyrch ail ethol Alun Ffred Jones yng nghwmni Dafydd Iwan a Tudur Owen yng Nghlwb Rygbi Bethesda neithiwr. Roedd y digwyddiad yn orlawn. Yn gynharach yn y diwrnod roedd nifer dda o aelodau allan yn dosbarthu pamffledi yn ninas Bangor. Mae Plaid Cymru wedi cael mwy o bleidleisiau na neb arall yn yr etholaeth ym mhob etholiad ers ei ffurfio - ar lefel Senedd San Steffan, Cynulliad, Ewropiaidd a Chyngor Gwynedd. Bydd y Blaid yn dod ar y brig yn hawdd ar Fai 5 hefyd - beth bynnag fydd yn digwydd yng ngweddill y wlad.

3 comments:

Anonymous said...

Fyddai ddim yn well rhoi mwy o ymdrech i hybu llefydd eraill felly?

Anonymous said...

Mae'n gywilidd gen i ddweud fod digon o drigolion Gwynedd a fyddai'n pleidleisio drost fwnci cyn belled a'i fod yn sefyll drost Blaid Cymru. O leiaf gwnaith etholwyr Sir Fon ddangos beth maen't yn feddwl o IWJ - a phrofi nad defaid ydynt.

Guto Bebb said...

Wyddost ti Cai, dwi'n ansicr o dy gasgliad. O ystyried canlyniad agos 2010 a'r gogwydd pendant tuag at Lafur yng Nghymru ers hynny wyt ti'n hollol hyderus yn Arfon?

Jyst gofyn.