Saturday, April 30, 2011
Y cyfryngau cyfrwng Cymraeg a'r briodas frenhinol
Fel mae'n digwydd dydw i heb glywed unrhyw son o gwbl yn y cyfryngau am y briodas frenhinol ers dyddiau - ond wedyn 'dwi'n bell iawn o'r DU. Serch hynny mae'n siom nodi bod y cyfryngau Cymreig wedi dotio cymaint at yr holl hw ha.
Os ydi'r cyfryngau Cymraeg eu hiaith o dan yr argraff mai dynwared yn slafaidd y cyfryngau Seisnig mewn cyfrwng ieithyddol arall ydi eu prif genhadaeth, mae hynny'n gwanio'r holl ddadl tros eu bodolaeth. 'Dydi darlledu a chyhoeddi Cymreig ddim yn gyfystyr a dilyn trywydd y cyfryngau Seisnig trwy gyfrwng y Gymraeg. Mi'r ydym yn genedl wahanol, a dylai hynny gael ei adlewyrchu yn ein bywyd cyhoeddus a chan ein cyfryngau.
Y Blaid a Britain Votes
Mae Harry Hayfield ar Britain Votes yn cymryd golwg ar seddi Plaid Cymru, a'r rhai mae'n gobeithio eu hennill. Yr unig sedd mae BV yn ei hystyried yn gwbl ddiogel ydi Meirion / Dwyfor. Mae'n disgwyl i'r Blaid ennill yn Nwyrain Caerfyrddin gyda llai o fwyafrif o lawe, ac yn Arfon ar ol ail gyfri! Mae'n bosibl y bydd gan Rhodri Glyn lai o fwyafrif, ond gallwn fod yn eithaf sicr na fydd yna ail gyfri yn Arfon - bydd honno'n aros yn nwylo'r Blaid yn eithaf cadarn. Mae'r ffaith mai ymgeisydd y Blaid ydi'r unig ymgeisydd lleol, a'i fod beth bynnag o ansawdd llawer uwch na'r lleill yn gwarantu hynny.
Am rhyw reswm mae Harry yn meddwl y gallai pob pleidlais aeth i Peter Rogers yn 2007 fynd i'r Tori Paul Williams y tro hwn gan roi cyfle i hwnnw ennill. 'Dydi etholiadau go iawn ddim yn gweithio felly wrth gwrs, ac er y bydd cyfran go lew o bleidlais Peter yn mynd i Paul, mi fydd yna gyfran llai ond arwyddocaol yn mynd i Ieuan Wyn hefyd. Mi fydd Paul yn gwneud yn eithaf da os bydd yn dod yn ail.
Mae'n darogan ail gyfri eto yn Llanelli, ond yn nodi'n gywir bod yr ymgeisydd Plaid Cymru yn fwy atyniadol o lawer na'r un Llafur. 'Dydw i ddim yn ei gweld yn dod i ail gyfri, er y gallai fod yn nes na'r tro blaen.
'Does yna ddim darogan am Geredigion, ond gallwn gymryd yn ganiataol y bydd Elin Jones yn dal ei gafael ar hon - y Lib Dems sy'n ail, a chymaint yw'r chwalfa maent yn ei wynebu, gallant yn hawdd fethu dod yn ail y tro hwn.
Mae'n darogan y bydd y Blaid yn colli Aberconwy, ond yn dweud y gallai'r naill brif blaid unoliaethol neu'r llall ei chymryd. 'Dwi'n anghytuno - mae'r Toriaid allan o'r ras bellach yn fy marn bach i, ac mae pethau rhwng y Blaid a Llafur bellach. Mae ymgyrchu lleol effeithiol wedi dangos ei werth yma.
Mae'n son hefyd am seddi targed y Blaid yng Ngorllewin Caerfyrddin / De Penfro, Caerffili, Gorllewin Clwyd, Castell Nedd, Preseli Penfro, Gwyr a De Clwyd - er nad yw'n darogan beth fydd yn digwydd yn yr un o'r seddi yma. Byddwn yn awgrymu bod gan y Blaid obaith rhesymol ym mhob un o'r bedair gyntaf, er byddai'n wyrthiol petai'n ennill mwy na dwy ohonynt. Mae yna gryn son bod Mabon yn perfformio'n dda yn Ne Clwyd, ac mae'r newidiadau ym mhrisiau'r bwcis yn cadarnhau hynny - er mi fyddai ennill yma'n ganlyniad cwbl rhyfeddol.
Wednesday, April 27, 2011
Pleidleisiau post a 'ballu
Cyfeirio mae Betsan at y ffaith bod pleidleisiau post bellach yn cael eu dychwelyd i'r swyddogion etholiadol. Bydd y swyddogion hynny yn cyfri a gwirio'r pleidleisiau, ac mae gan gynrychiolwyr o'r pleidiau hawl i fod yn bresennol pan wneir hynny. 'Dydi'r swyddog ddim i fod i ddangos wyneb y papurau pleidleisio, ond mae yn natur pethau bod rhai swyddogion yn fwy cydwybodol yn hyn o beth na'i gilydd a bod cynrychiolwyr y pleidiau yn sbecian ar y pleidleisiau pan gant y cyfle.
Y drwg efo'r math yma o ddarogan ydi bod y wybodaeth a geir yn ddarniog iawn, ac nad ydi'r sawl sy'n pleidleisio trwy'r post yn gynrychioliadol o'r gofrestr bleidleisio yn aml - mae rhai pleidiau lleol yn dda iawn am drefnu i'w cefnogwyr bleidleisio trwy'r post, tra nad ydi eraill cystal. Mae hefyd er budd pleidiau i honni i fod ar y blaen, hyd yn oed os nad ydynt.
Ta waeth - awgrymu mae Betsan bod yna ambell i ganlyniad anisgwyl ar y gweill, ac mae yna sylw (di enw) yn y dudalen sylwadau bod Ron Davies ar y blaen yng Nghaerffili. Mi allwn ni ddisgwyl mwy o'r math yma o beth tros y dyddiau nesaf.
Tuesday, April 26, 2011
Ond un peth da am y Lib Dems Gogledd Cymru ydi _ _ _
Rhys Jones a'r gwasanaeth awyr o'r Gogledd i'r De
Mae'n ddifyr nodi mai un o brif bwyntiau gwleidyddol ymgyrch Rhys Jones, ydi ei gynlluniau i gau'r unig wasanaeth awyr rhwng y De a'r Gogledd. Yn ol y pamffled.
Mae'r cyswllt awyr rhwng y De a'r Gogledd wedi costio £3.2m i drethdalwyr Cymru, ac mae'n dal i gostio £800,000 y flwyddyn.
Prin ydi'r defnydd o'r gwasanaethau ar wahan i un teithiwr cyson sef Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones.
'Dydi'r awgrym mai dim ond un person sy'n defnyddio'r gwasanaeth ddim yn wir. Rhwng dyddiad cychwyn y gwasanaeth ym mis Mai 2007 ac Ebrill 2010 roedd 40,000 wedi teithio ar yr awyren.
Mae'n ddiddorol nad ydi Rhys eisiau i bobl Arfon gael mynediad i wasanaeth teithio cyflym i Gaerdydd. Mae llawer o bobl yn y Gogledd Orllewin bellach efo cysylltiadau a'r De Ddwyrain wrth gwrs. Os ydych chi'n digwydd byw yn Arfon eich dewis (ar wahan i'r awyren) ydi dal tren pob awr i brif ddinas Cymru, ac mae'r daith yn cymryd tua 4 awr ac ugain munud. Neu mi allwch yrru i lawr yr A470 a theithio am tua pedair awr. 'Dydi'r daith bws ddim gwerth meddwl amdani.
Os ydych - fel Rhys - yn byw yn Nowlais ger Merthyr gallwch gael bws pob chwarter awr, ac mi gaiff hwnnw chi i Gaerdydd mewn awr. Mae yna dren ar eich cyfer pob hanner awr ac mi gaiff hwnnw chi yng Nghaerdydd mewn awr hefyd. Neu wrth gwrs, gallwch yrru i lawr yr A470 a gwneud y daith mewn hanner awr.
Mae yna gryn wariant cyhoeddus yn mynd tuag at gynnal y gwasanaethau penigamp yma i bobl Merthyr. Er enghraifft gwariwyd £19m ar uwchraddio'r cledrau rhwng Merthyr Tydfil a Chaerdydd yn 2007. Chlywais i ddim bytheirio gan Rhys am hynny.
Felly yn ol Rhys mae'n gwbl briodol i drigolion ei dref ei hun gael mynediad cyflym a di drafferth i'r brif ddinas ar draul y trethdalwr, ond mae'n gwbl amhriodol i drigolion Arfon gael mynediad o'r fath.
Monday, April 25, 2011
Pam bod yr ymgyrch Na yn awgrymu bod pobl Cymru, Lloegr a'r Alban yn dwp?
Er enghraifft yng Ngorllewin Caerdydd yn etholiadau'r llynedd roedd 6 ymgeisydd - Kevin Brennan (Llafur) - 41.2%, Angela Jones Evans (Tori) - 29.6%, Rachael Hitchinson (Lib Dem) - 17.5%, Mohammed Sarul Islam (Plaid Cymru) - 7%, Michael Hennessey (UKIP) - 2.7% a Jake Griffiths (Gwyrdd) - 1.8%.
Petai'r etholiad wedi ei chynnal o dan drefn AV byddai'r papurau wedi eu dosbarthu yn ol y bleidlais gyntaf, yn union fel y gwneir ar hyn o bryd. Wedi eu cyfri byddai ail bleidleisiau Jake Griffiths a Michael Hennessey yn cael eu hail ddosbarthu. Byddai pleidleisiau'r ddau yn cael eu hail ddosbarthu ar yr un pryd oherwydd nad oedd cyfanswm eu pleidleisiau yn uwch na phleidlais yr ymgeisydd nesaf - Mohammed Sarul Islam. Petai rhai o ail bleidleisiau'r naill yn mynd i'r llall byddai'r papurau yn cael eu dosbarthu yn ol y trydydd bleidlais. Yn ol pob tebyg byddai ail bleidleisiau Mohammed Sarul Islam a Rachael Hitchinson wedyn yn cael eu hail ddosbarthu ar yr un pryd, a byddai Kevin Brennan yn cael ei ethol. Go brin y byddai hyn yn ychwanegu mwy na rhyw awr a hanner at y broses gyfri. Mae'r ymgyrch Na yn meddwl bod hyn mor gymhleth bod angen gwario degau o filiynau o bunnoedd i brynnu peiriannau.
Cymharer hyn efo'r system STV gydag etholaethau aml sedd sydd yn cael ei defnyddio yng Ngogledd Iwerddon. Mae'n drefn llawer, llawer mwy cymhleth. Er enghraifft, yr wythnos nesaf bydd yr ymgeiswyr canlynol yn sefyll yn etholaeth Mid Ulster:
Harry Hutchinson (People Before Profit), Austin Kelly (SDLP), Gary McCann (Independent), Hugh McCloy (Independent), Ian McCrea (DUP), Michael McDonald (Alliance), Patsy McGlone (SDLP), Martin McGuinness (Sinn Féin), Walter Millar (TUV), Ian Milne (Sinn Féin), Francie Molloy (Sinn Féin), Michelle O'Neill (Sinn Féin), Sandra Overend (UUP).
Mae yna 6 sedd yn Mid Ulster, fel sydd yng ngweddill etholaethau Cynulliad Gogledd Iwerddon.
Bydd rhaid i'r pleidleisiau i gyd gael eu cyfri i ddechrau. Yna bydd rhaid i'r swyddog etholiadau ddyfarnu faint ydi cwota - y nifer o bleidleisiau mae ymgeisydd ei angen cyn cael ei ethol - gwneir hyn trwy rannu nifer y pleidleisiau efo saith ac adio un (mewn etholaeth 6 sedd). Wedyn bydd y pleidleisiau yn cael eu dosbarthu yn ol y bleidlais gyntaf rhwng y tri ymgeisydd ar ddeg. Os oes rhywun yn curo'r cwota bydd ei ail bleidleisiau i gyd yn cael eu cyfri, a bydd y cyfanswm yn cael ei rannu efo'r nifer o bleidleisiau sydd ganddo uwchlaw'r cwota er mwyn rhoi rhoi'r pwysiad cywir i pob ail bleidlais. Bydd yr ail bleidleisiau yn cael eu dosbarthu ar sail y pwysiad cyfrannol hwnnw. Os nad oes neb arall wedi curo'r cwota yn dilyn hyn bydd pleidleisiau'r ymgeisydd (ymgeiswyr) sydd wedi cael y lleiaf o bleidleisiau yn cael eu hail ddosbarthu. Os na fydd neb yn cyrraedd y cwota wedi hynny bydd yr ymgeiswyr isaf yn parhau i gael eu dileu a chael eu hail bleidleisiau wedi eu dosbarthu. Pan fydd rhywun yn croesi'r cwota bydd ei bleidleisiau ychwanegol yn cael eu gwneud yn gyfrannol a'u hail ddosbarthu. Mae hyn yn mynd ymlaen nes bod chwe sedd wedi eu llenwi. Gobeithio bod hynna'n hollol glir rwan blantos.
Bydd y system yma yn cael ei defnyddio ar gyfer ethol 108 AC mewn y deunaw etholaeth seneddol a bydd hefyd yn cael ei defnyddio i ethol cannoedd o gynghorwyr yn y 26 cyngor lleol. Fydd yna ddim son am beiriant yn y canolfannau pleidleisio, bydd pob pleidlais yn cael ei chyfri gyda llaw. Mae'r rhan fwyaf o actifyddion gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon yn bobl o gefndir dosbarth gweithiol - mi fydd yna gannoedd ohonyn nhw yn y canolfannau pleidleisio trwy ddydd Gwener ac mi fyddan nhw'n ymgodymu'n iawn efo'r broses cyfri heb fynd ar gyfyl peiriant na chyfrifiadur.
Felly pam na fedrwn ni ymgodymu efo trefn llawer symlach heb orfod gwario £250m ar beiriannau pleidleisio?
Sunday, April 24, 2011
Paddy Power ac etholiadau'r Cynulliad
O ran Plaid Cymru mae'n ffefryn ym mhob sedd sydd eisoes yn ei dwylo - gan gynnwys Aberconwy lle mae'n ffefryn clir. Weler'r ffigyrau cyfredol isod (mae prisiau bwci yn newid trwy'r amser wrth gwrs).
Aberconwy - Iwan Huws - 1/7
Arfon - Alun Ffred - 1/12
Dwyrain Caerfyrddin - Rhodri Glyn - 1/100
Ceredigion - Elin Jones - 1/9
Meirion Dwyfor - Dafydd Elis Thomas - 1/200
Llanelli - Helen Mary Jones - 4/7
Ynys Mon - Ieuan Wyn - 1/16
Daw'r Blaid hefyd yn ail yng ngolwg Paddy Power yn yr isod:
Aberafon - Paul Nicholls Jones - 20/1
Caerffili - Ron Davies - 5/2
Gorllewin Caerdydd - Neil McEvoy - 12/1 (ail ar y cyd efo'r Toriaid)
Cwm Cynon - Dafydd Trystan - 18/1
Islwyn - Steffan Lewis - 16/1
Merthyr - Noel Turner - 20/1
Castell Nedd - Alun Llywelyn - 9/1
Ogwr - Danny Clarke - 16/1 (ar y cyd efo'r Toriaid)
Pontypridd - Ioan Bellin- 20/1 (ar y cyd efo'r Lib Dems)
Rhondda - Sera Evans-Fear - 16/1
Dwyrain Abertawe - Dic Jones - 16/1
Mi fyddwn yn awgrymu mai'r bargeinion gorau yma i unrhyw un sydd eisiau betio ar y Blaid ydi Cwm Cynon ac o bosibl Castell Nedd.
'Dydi'r fargen orau ddim yn ymddangos uchod fodd bynnag. Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro ydi honno. Mae Paddy Power yn rhoi Nerys Evans yn drydydd ar 4/1. Mae'r bwcis eraill yn ei rhoi yn ail clir ac yn cynnig tua 2/1 arni. Felly os ydych yn un am fetio, brysiwch - wnaiff y pris yna ddim aros yn hir.
Mae'n ddiddorol nodi hefyd bod y bwci yn rhoi'r un prisiau am Louise Hughes (Llais Gwynedd) ym Meirion Dwyfor ac Owain Williams (Llais Gwynedd) yn Arfon. Mae'n cynnig 100/1 am y ddau - er nad ydi enw Owain Williams ar y papur pleidleisio.
Saturday, April 23, 2011
Ydi'r polau yn gor gyfri'r bleidlais Lafur?
'Dwi'n cofio'n dda canfasio y tro diwethaf i Lafur gael mwy na 50% o'r bleidlais yng Nghymru (1997) ac roedd y brwdfrydedd tuag at Lafur ymysg etholwyr yn hynod drawiadol, ac roedd yna ynni rhyfeddol yn perthyn i'w hymgyrch. 'Does yna ddim o'r brwdfrydedd na'r ynni yna i'w teimlo eleni.
Mae Vaughan yn awgrymu bod Llafur yn adeiladu cefnogaeth sylweddol yn ei chadarnleoedd, a bod hynny yn gwneud i bethau edrych yn well iddynt (o ran seddi) nag ydynt mewn gwirionedd. Mi hoffwn gynnig eglurhad arall - mae'r polau yn gor gyfri'r bleidlais Llafur. Mae ganddynt hanes hir o wneud hynny. Er enghraifft, yn ystod ymgyrch etholiad cyffredinol 2001 cafwyd 29 pol masnachol, ac roedd pob un yn rhoi mwy o fantais i Lafur na'r 9% a gawsant wedi i'r pleidleisiau gael eu cyfri. Roedd un pol a gynhalwyd gan MORI ar benwythnos cyntaf yr ymgyrch yn rhoi mantais o 28% i Lafur. Roedd hyd yn oed y polau oedd yn rhoi Llafur isaf yn gor gyfri eu pleidlais.
Roedd 1997 yn well o safbwynt y cwmniau polio - ond hyd yn oed yma roeddynt wedi gor gyfri'r bleidlais Lafur o tua 3%. Yn 2005 roedd y polau yn weddol agos ati - er iddynt unwaith eto or gyfri'r bleidlais Lafur rhyw ychydig. Yn 1992 roedd y cwmniau polio yn awgrymu y byddai Llafur tua 1% o flaen y Toriaid, ond ar y diwrnod roedd plaid John Major 7.5% o flaen plaid Neil Kinnock. Etholiad y llynedd oedd yr unig un i'r polau dan gyfri'r bleidlais Lafur - ond rydym yn gwybod i'r polau hynny or gyfri'r bleidlais Lib Dem yn sylweddol.
Rwan, dydi hyn oll ddim yn golygu o angenrhaid bod yr un patrwm yn cael ei ddilyn y tro hwn wrth gwrs. Ond ag ystyried fy argraffiadau fy hun, argraffiadau pobl eraill mewn rhannau gwahanol o Gymru, y gwendid yn y bleidlais Lafur a amlygwyd yn yr Alban yn ddiweddar, hanes y cwmniau polio o or gyfri'r bleidlais Lafur yn ogystal a'r gwrthgyferbyniad rhwng ffigyrau Llafur yn y polau a'r ymgyrch fflat maent yn ei chynnal, 'dwi'n rhyw deimlo na fydd Mai 6 yn gystal diwrnod i Lafur Cymru na maent yn disgwyl.
Thursday, April 21, 2011
Ysgolion dwyieithog
We will consider carefullyY rheswm pam bod y mater o bwys ydi ei fod yn ymddangos yn maniffesto'r Blaid Lafur, ac mae'n debygol y bydd y blaid honno mewn grym mewn rhyw ffordd neu'i gilydd wedi Mai 5.the success of schools that offer the
curriculum in both our national
languages and see how this model could
be expanded.
Mae yna sawl ffordd y gellir ei dehongli, ond un ffordd y gellir gwneud hynny ydi yng nghyd destun sefydlu cyfundrefn fyddai'n rhwystro twf ysgolion Cymraeg trwy sefydlu yn eu lle ysgolion gyda ffrwd Gymraeg a ffrwd Saesneg. Efallai mai'r strategaeth Patel y dylid galw'r math yma o beth, ar ol Ramesh Patel - yr unig ddyn yng Nghymru sy'n meddwl bod ysgolion dwyieithog yn gweithio.
Wednesday, April 20, 2011
Cymru'n Un 2?
Gallwch weld y darn yma os oes gennych ddiddordeb.
Tuesday, April 19, 2011
Nodiadau o'r Alban
Serch hynny waeth i mi nodi argraff neu ddau ynglyn ag etholiadau Mai 5.
Yn gyntaf mae'r rhod wedi troi yma - mae'r polau bellach yn awgrymu mai'r SNP fydd yn dod yn gyntaf, ac mae'r Sun wedi troi fel cwpan mewn dwr a chefnogi Salmond - mae'r syniad o gael Salmond yn brif weinidog eto yn atyniadol iawn i lawer nad oes ganddynt unrhyw gydymdeimlad gwaelodol efo'r SNP.
Efallai bod y bwcis yn dal o blaid Llafur, ond y bwcis ydi'r bwcis - pe byddai gen i'r hunan ddisgyblaeth i gyfyngu betio yn erbyn y bwcis i etholiadau byddwn wedi gallu fforddio i ymddeol ers tro byd.
Ta waeth - sylw neu ddau. Mae un lle'n bell iawn oddi wrth y llall yn yr Alban, felly mae gen i ddigon o amser i wrando ar y radio yn y car. Mae yna lawer iawn mwy o sylw yn cael ei roi i'r etholiad na sydd yng Nghymru ar y cyfryngau. Mae polisiau'r pleidiau yn rhan mwy canolog o ymdriniaeth y cyfryngau o'r etholiad nag ydyw adref. Yn bwysicach mae yna fwy o ddatgymalu polisiau.
Er enghraifft un o addewidion Llafur ydi rhoi pawb sydd yn cael ei ddal a chyllell yn ei feddiant yn cael carchar, 'oherwydd bod tor cyfraith sy'n ymwneud a chyllill ar gynnydd aui fod yn costio £500,000, 000 y flwyddyn'. Ymddengys (wedi ymchwiliad gan y Bib) bod y gost gwirioneddol tua £3,000,000 a bod y nifer o achosion o dor cyfraith sy'n ymwneud a chylleth yn syrthio fel carreg. Roedd werth gweld wyneb y cynrychiolydd Llafur o gael ei gyflwyno efo hyn oll. Mae cynlluniau'r pleidiau i rewi treth y cyngor wedi cael eu harchwilio efo crib man gan y cyfryngau.
Mi geisiaf gynhyrchu blogiad arall cyn dod adref.
Sunday, April 17, 2011
Etholiadau Gogledd Iwerddon
Mae 218 ymgeisydd yn ymladd am y 108 sedd, mewn 18 etholaeth 6 sedd. STV ydi’r dull pleidleisio.
Mae gan Sinn Fein 28 aelod ar hyn o bryd, ac maent wedi dewis 40 ymgeisydd gan gynnwys, pump yn eu caer etholiadol yn West Belfast, a phedwar yn Mid-Ulster a West Tyrone.
Mae gan y DUP 36 sedd ar hyn o bryd, ac maent yn cyflwyno 44 ymgeisydd ger bron yr etholwyr.
29 ymgeisydd sydd gan y blaid sydd wedi dominyddu gwleidyddiaeth y dalaith am y rhan fwyaf o’i hanes – yr UUP, a dydyn nhw ddim yn sefyll yn Foyle yn dilyn penderfyniad eu gweinidog iechyd, Michael McGimpsey's i gau gwasanaethau cancr yn ninas Derry. 18 aelod sydd ganddynt ar hyn o bryd.
28 ymgeisydd sydd gan yr SDLP, gan gynnwys tri yn etholaeth Margaret Ritchie, eu harweinydd yn South Down. 16 aelod oedd ganddynt yn y senedd diwethaf.
Mae gan yr Alliance Party 22 ymgeisydd – y mwyaf yn eu hanes (7 aelod sydd ganddynt ar hyn o bryd) , ac mae’r blaid unoliaethol sy’n wrthwynebus i Gytundeb Dydd Gwener y Groglith, y TUV gyda 12 ymgeisydd, tra bod 6 yn sefyll tros y Gwyrddion. Mae gan eu hymgeisydd yn North Down obaith rhesymol i gadw ei sedd.
Mae 12 ymgeisydd sosialaidd o gwahanol fath – gan gynnwys y Workers Party, People Before Profit and the Socialist Party. Mae'n bosibl y bydd Eamon McCann yn ennill sedd yn Foyle ar ran PBP.
Mae gan UKIP 6 ymgeisydd ac mae gan y BNP 3, ac mae yna un ymgeisydd Procapitalism. ni fydd yr un o'r rhain yn cael eu hethol.
Mae un o gynghorwyr Sinn Fein yn Fermanagh/South Tyrone yn sefyll yn annibynnol tra bod Raymond McCord sydd yn ymgeisydd diddorol o’r ochr unoliaethol yn sefyll yn North Belfast. Fydd yr un o'r ddau yn cael eu hethol, er bod gan yr ail well cyfle na'r cyntaf.
Yn bersonol ‘dydw i ddim yn cael gwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon mor ddiddorol a gwleidyddiaeth y De gan amlaf, ond mae’r ffaith bod peth amheuaeth ynglyn a pha blaid fydd yn darparu Gweinidog Cyntaf yn ei gwneud yn fwy diddorol nag arfer y tro hwn.
Mae peth son y gallai Sinn Fein gael mwy o seddi na neb arall, a byddai hynny yn ei dro yn arwain at sefydlu Martin McGuinness yn Weinidog Cyntaf. Mae tri pheth yn gyrru’r canfyddiad yma – y ffaith i Sinn Fein gael mwy o bleidleisiau na neb arall yn y ddwy etholiad diweddaraf y Gogledd, llwyddiant diweddar y blaid honno yn etholiadau’r De a’r newid araf yn mhroffeil crefyddol y boblogaeth.
Rwan, dwi ddim yn meddwl yn bersonol y bydd Sinn Fein yn cael mwy o seddi na’r DUP y tro hwn, er y gallant yn hawdd gael mwy o bleidleisiau na nhw. Bydd y bleidlais unoliaethol wedi ei rhannu’n dri (UUP, DUP a’r TUV) tra mae i ddau ddarn yn unig y bydd y bleidlais genedlaetholgar wedi ei rhannu (SDLP a SF). Ond bydd y gyfundrefn STV yn sicrhau y bydd y rhan fwyaf o’r bleidlais unoliaethol yn dod yn ol at ei gilydd, a dylai hynny fod yn ddigon y tro hwn. I McGuinness ddod yn Weinidog Cyntaf bydd rhaid i SF gael storm berffaith ac ennill y sedd olaf ym mhob man maent yn gystadleuol. Byddai’n rhaid iddynt ennill tair o’r chwech yn Fermanagh / South Tyrone er enghraifft, yn ogystal a phedair yn Mid Ulster a West Tyrone, cadw eu pump yn West Belfast ac ennill un sedd ym mhob un o etholaethau Antrim, er enghraifft. Mae’n bosibl, ond byddai’n rhaid i bob dim syrthio i’w le yn berffaith ar y diwrnod, ac anaml iawn y bydd hynny’n digwydd mewn gwleidyddiaeth.
Felly Robinson i fod yn Weinidog Cyntaf y tro hwn, ond mae’n debygol y bydd pethau’n newid yn 2015.O un eithaf i'r llall
'Dwi wedi bod yn cwyno am bamffledi fwy neu lai uniaith Saesneg Llafur. 'Fedra i ddim cyhuddo ymgeisydd Llafur yn Arfon, Christina Elizabeth Rees o hynny. Mae'r Gymraeg yn cael blaenoriaeth ar yr unig bamffled i ddod i law hyd yn hyn, ac mae hanner y testun yn ymwneud a'r iaith Gymraeg. Yn wir mae'n lled ymddiheuriad am ddiffyg Cymraeg Christina.
Mae'r pamffled fodd bynnag yn codi hynod ddadlennol. 'Dwi wedi son eisoes nad yw Christina yn ymgeisydd lleol. Mae hynny yn beth problem mewn ardal fel Arfon, ond 'dydi hi ddim yn un na ellir ei goresgyn. I wneud hynny fodd bynnag mae'n rhaid dangos diddordeb, neu o leiaf ymwybyddiaeth o faterion lleol cyfredol. 'Does yna ddim arwydd o unrhyw fath yn y pamffled yma bod yr ymgeisydd efo unrhyw fath o wybodaeth ynglyn a'r etholaeth mae'n sefyll ynddi. Yn ddi amau mae'r Gymraeg yn bwysig fel mater gwleidyddol i lawer o'i darpar etholwyr, ond 'dydi pleidleisiau'r rheiny ddim ar gael i Lafur beth bynnag.
Yn wir mae'r pamffled yn dangos cryn naifrwydd ynglyn a natur sylfaenol yr etholaeth. Ar un ystyr Arfon ydi'r etholaeth mwyaf 'gogleddol' yn yr ystyr mai yma mae'r diwylliant mae llawer o bobl y De yn ei ystyried yn un gogleddol ar ei gryfaf. Y ffaith nad ydi'r ymgeisydd Llafur yn byw yn y Gogledd ydi'r prif bwnc ar stepan drws yn wardiau dosbarth gweithiol yr etholaeth, mae'n codi dro ar ol tro ar ol tro. Dewis Christina oedd prin son am yr etholaeth a rhoi lluniau ohoni ei hun gyda gwleidyddion o'r De mewn lleoliad yn y De yn ei phamffled.
Mewn geiriau eraill mae'r pamffled yn atgyfnerthu'r canfyddiad (cyffredinol bellach) ei bod yn rhywun o'r tu allan nad oes ganddi fawr o glem am broblemau Sgubor Goch, Maesgerchan na Deiniolen.
Mae canfyddiad felly yn wenwyn etholiadol yn Arfon.
Saturday, April 16, 2011
Methiant Llafur i gyllido Cymru yn deg
Er gwaethaf pob dim mae Llafur yn ei ddweud am sicrhau trefn ariannu teg i Gymru erbyn hyn, mi fethodd y blaid yn llwyr a gwneud dim i symud yr achos hwnnw modfedd ymlaen pan oeddynt mewn grym yn San Steffan.
Mwy o bamffledi di Gymraeg (bron a bod) gan Lafur
Rwan 'dydi Gorllewin Caerdydd ddim mor Gymreig a Dwyrain Caerfyrddin, ond byddai'n rhaid i chi deithio ymhell i'r gorllewin ar hyn yr M4, neu ymhell i'r gogledd ar hyd yr A470 cyn dod ar draws ardal sydd a chymaint o Gymry Cymraeg yn byw mor agos at ei gilydd.
Mae'n rhaid bod Mark yn hyderus y bydd yn ennill heb orfod trafferthu i apelio am bleidlais Cymry Cymraeg.
Pleidleisiau post yn dechrau cyrraedd
Peter Hain druan
Nid yn aml y bydd dyn yn teimlo unrhyw gydymdeimlad efo Peter Hain, ond mae'n anodd peidio wrth edrych ar y clip hwn lle mae'r lembo gwirion yn ceisio egluro pam bod presgripsiwn am ddim yn briodol yng Nghymru ond yn amhriodol yn Lloegr.
Friday, April 15, 2011
Y diweddaraf o du United & Welsh
Mae'n hawdd troi trwyn ar yr arddull, y ddelwedd yn osystal a'r y ffaith bod llawer o'r hyn sy'n cael ei ddefnyddio yn hen hanes mewn termau gwleidyddol - ac felly'n amherthnasol i'r ymgyrch yma. Ond mewn rhyw ffordd ryfedd mae'n barodi o'r ffordd mae Llafur ei hun yn ymgyrchu.
Mewn ymgyrch arferol bydd plaid sydd wedi bod yn llywodraethu yn amddiffyn eu record mewn llywodraeth ac yn diffinio eu haddewidion ar gyfer y dyfodol. 'Dydi hon ddim yn ymgyrch arferol o safbwynt Llafur - eu prif neges ydi y dylid pleidleisio iddyn nhw er mwyn cofrestru gwrthwynebiad i'r llywodraeth glymblaid yn San Steffan. Y neges eilradd ydi y bydd Llafur, mewn rhyw ffordd anelwig, yn amddiffyn Cymru rhag toriadau mewn gwariant cyhoeddus San Steffan. 'Dydi'r ymgyrch Llafur ddim mor hysteraidd ag arfer hyd yn hyn - ond gall ymgyrchu Llafur Cymru'n fod yn groteg o hysteraidd pan maent yn teimlo o dan fygythiad.
Mae'r poster anymunol yn rhyw fath o adlewyrchiad gwyrdroedig o'r Blaid Lafur Gymreig mae gen i ofn.
Thursday, April 14, 2011
Proffwydo'r etholiad
Er na chafodd yr Hogyn o Rachub lwyddiant ysgubol wrth ddarogan yr Etholiad Cyffredinol, mae ei ddarogan fel arfer yn rhyfeddol o gywir.
Wedyn mae'r hogiau yn Britain Votes wrthi bymtheg y dwsin. Ambell waith mae yna ddiffyg gwybodaeth leol wrth edrych ar etholiadau y tu allan i Loegr, ond maent yn gwneud iawn am hynny gyda'u methodoleg gadarn.
Mi fydda i'n dilyn y ddau flog tros yr wythnosau nesaf.
Plant bach yn mynd ar goll oherwydd yr iaith Gymraeg
Yn ol y papur mae yna lwyth o blant bach wedi mynd ar goll ar Foel Tryfan oherwydd actifydd iaith. Ymddengys i foi o'r enw Mike Blake, 63 benderfynu y byddai'n syniad da i anfon plant bach allan i redeg ar fynydd mewn niwl, ac i'r cyfryw blant i gyd fynd ar goll oherwydd i actifydd iaith ddwyn yr holl arwyddion roedd Mike wedi eu gosod yn hynod ofalus pob pymtheg medr o'r cwrs.
Yn ol Mike, roedd yna ddyn drwg wedi cael ei weld yn dwyn un arwydd ac yn dad wneud un arall. Yn wir daeth y dihiryn o hyd i ddymp yn rhywle, a chludo holl arwyddion Mike - cant ohonyn nhw i gyd - yno i'w taflu. Roedd y Telegraph a Mike yn eithaf siwr mai actifydd iaith oedd yn gyfrifol am yr anfadwaith ofnadwy.
Mae'n anodd credu rhywsut i'r stori idiotaidd, plentynaidd o grediniol a di niwed yma ymddangos yn yr un papur ag oedd yn gyfrifol am ddod a'r sgandal treuliau aelodau seneddol i ni.
Wednesday, April 13, 2011
Llafur Dwyrain Caerfyrddin ddim eisiau pleidleisiau Cymry Cymraeg?
Ymddengys nad ydi'r Blaid Lafur leol yn ymwybodol o hynny - does yna'r nesaf peth i ddim Cymraeg yn eu gohebiaeth etholiadol. Mae yna fwy o Gymraeg o lawer yn eu gohebiaeth yng Nghaerdydd.
Hwyrach nad ydyn nhw eisiau pleidleisiau'r sawl sy'n siarad Cymraeg.
Gwelwyd y stori ar flog Cymdeithas yr Iaith.
Monday, April 11, 2011
The Lib Dems can't win here
Dyna mae blog Alun Williams yn ei awgrymu beth bynnag.
Ymddengys bod pleidlais y Lib Dems ar chwal.
Plaid Cymru 42% (-7%)
Lib Dems 23% (-13%)
Llafur 20% (+15%)
Toriaid 11% (+3%)
Eraill 4% (+2%)
Mae peth lle i gredu bod gormod o fyfyrwyr wedi eu samplo - sefyllfa fyddai hyd yn oed yn waeth i'r Lib Dems (ond yn well i'r Blaid).
Mae hefyd yn ddiddorol (ac yn ddigri) deall i'r Lib Dems geisio atal y pol rhag cael ei gyhoeddi - er eu bod yn gwneud defnydd o pob math o ystadegau gyda llai o hygrededd ystadegol o lawer yn eu pamffledi Only the Lib Dems can win here _ _ _ bondigrybwyll.
ON - pol gan stiwdants ydi o - nid bod hynny yn broblem fel y cyfryw.
Daeth yr amser i Lafur golli'r portffolio addysg
Cyfeirio mae wrth gwrs at record erchyll Llafur ym maes addysg yng Nghymru.
Tyfodd y cyfan o'r bwlch enfawr rhwng gwariant ar ysgolion yng Nghymru a Lloegr yn ystod y cyfnod roedd Llafur yn rheoli ar eu pennau eu hunain o 2003 i 2007. Mae pob gweinidog addysg ers sefydlu'r Cynulliad wedi bod yn Llafurwr. Mae nifer o adroddiadau wedi eu cyhoeddi yn ddiweddar sy'n awgrymu bod safonau addysg yng Nghymru yn salach nag y dylent fod - heb son am yr enwog brofion PISA.
Os ydi'r Blaid mewn sefyllfa i fargeinio i ffurfio llywodraeth wedi Mai 5, dylid ei gwneud yn glir i Lafur nad oes gobaith o glymblaid oni bai bod y portffolio addysg yn mynd i'r Blaid y tro hwn. Byddai'n anerbyniol, yn amhriodol ac yn anghyfrifol i roi'r system addysg yn nwylo Llafur am bum mlynedd arall, wedi deuddeg mlynedd o fethiant.
Sunday, April 10, 2011
Plaid Cymru a'r SNP i helpu pleidlais Ia yn y refferendwm AV?
Ymddengys bod cwmni polio Angus Reid wedi gofyn i gefnogwyr gwahanol bleidiau yng Nghymru a'r Alban sut y byddant yn pleidleisio yn y refferendwm AV, a bod mwyafrif sylweddol iawn o bleidleiswyr yr SNP a'r Blaid yn debygol o bleidleisio Ia.
Mae'r gyfradd pleidleisio yn y refferendwm yn debygol o fod yn uwch yn y ddwy wlad Geltaidd nag yn Lloegr oherwydd yr etholiadau Cynulliad a Senedd yr Alban ar yr un diwrnod.
Gyda'r refferendwm yn debygol o fod yn agos, byddai'n ddifyr petai pleidleisiau cenedlaetholwyr o'r ddwy wlad Geltaidd yn gwneud y gwahaniaeth rhwng canlyniad Ia a Na
Betio etholiadol
Beth bynnag 'dwi'n tueddu i gredu bod prisiau'r bwci yn ffordd tra effeithiol i ddarogan beth fydd yn digwydd mewn etholiad - yn arbennig felly tua diwedd ymgyrch. Mae pobl yn rhoi eu pres lle mae eu cegau pan maent yn betio - felly 'dydi pobl ddim yn betio ar chwarae bach.
Ladbrokes ydi un o'r ychydig gwmniau sy'n cynnig prisiau ar hyn o bryd, a dwy farchnad sydd ganddynt yn agored - nifer seddi Llafur ac etholaeth hynod ddiddorol Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro.
Yn groes i'r polau piniwn mae'r farchnad seddi Llafur yn awgrymu na fyddant yn cael mwyafrif llwyr.
Mae'r farchnad Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro yn awgrymu mai rhwng Nerys Evans (Plaid Cymru) a Christine Gwyther (Llafur) mae pethau, gyda Angela Burns (Tori) yn weddol glir y tu ol i'r ddwy arall.
Diweddariad - dwi newydd sylwi bod Victor Chandler yn cynnig prisiau ar nifer o etholaethau Cymreig. Mae rhai o'r prisiau yn ddigon rhyfedd (cyfle i rhywun wneud arian o bosibl). Mae yna hefyd gamgymeriadau - rhestrir ymgeiswyr Llais Gwynedd a'r BNP yn Arfon er nad oes rhai'n sefyll, ac nid oes prisiau ar gyfer y Tori - er bod un yn sefyll.
Saturday, April 09, 2011
Posteri etholiadol yn dechrau ymddangos
Mae nhw wedi dechrau mynd i fyny yng Ngorllewin Caerdydd hefyd - poster y Blaid Werdd wrth Pembroke Road ydi'r cyntaf, a phosteri Plaid Cymru y tu allan i'r Duke of Clarence ar Clive Road sydd yn y llall.
Friday, April 08, 2011
Cwis bach - unwaith eto
Ar y tab Insert, yr orielau yn cynnwys eitemau sy’n cael eu cynllunio i gydlynu gyda golwg cyffredinol eich dogfen. Alli arfer hyn orielau i tablau insert, penawdau, throedyn, rhestrau, yn cynnwys
Sylwch nad ydych wedi’ch awdurdodi i ddosbarthu, copi neu arddangos y dudalen gwefan hon, unrhyw dudalennau eraill o fewn y wefan hon neu unrhyw adran ef er elw masnachol neu fel arall, ac efallai mai dim ond yn defnyddio’r wybodaeth at eich dibenion mewnol ei hun. Rydych chi atal rhag casglu gwybodaeth oddi ar ein gwefan ac yn ymgorffori i mewn i’ch cronfa ddata hun neu gynhyrchion.
Ein Cwmni a’i chwmnïau cysylltiedig, a / neu y swyddogion a gweithwyr y cwmnïau hynny, wedi sefyllfa mewn, neu i gymryd rhan mewn trafodion mewn, unrhyw un o’r gwarantau a grybwyllir neu mewn gwarantau cysylltiedig.
Gweler yma os ydych eisiau'r ateb
Ydi hegemoni Llafur efo ni o hyd?
Ar y naill llaw roedd rhai (Rhodri Morgan er enghraifft) yn dadlau bod seiliau'r gefnogaeth Lafur yng Nghymru yn sylfaenol gadarn, ond bod problemau etholiadol tros dro yn deillio o amhoblogrwydd Llafur yn Llundain.
Y ddadl arall oedd bod strwythurau cymdeithasegol (ar ffurf byddinoedd mawr o bobl yn gweithio mewn diwydiannau trwm) domiwnyddiaeth Llafur wedi datgymalu, a bod cefnogaeth Llafur yn rhwym o ddatgymalu hefyd.
Roedd adegau cyn y llynedd pan roedd yn ymddangos mai'r ddamcaniaeth gyntaf oedd yn gywir - yn arbennig felly yn 2008 a 2009 pan roedd cefnogaeth Llafur yng nghymru yn plymio iselfanau hanesyddol. Bellach mae'r ail ddamcaniaeth yn edrych yn fwy tebygol o fod yn nes ati.
Ond mae yna eglurhad arall - sef bod strwythurau cymdeithasegol cefnogaeth Llafur yn wir wedi mynd, ond bod seiliau eraill i'r gefnogaeth bresennol. Mae llawer iawn, iawn o bobl Cymru yn ddibynol mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ar wariant cyhoeddus, ac mae cryn fygythiad i hynny ar hyn o bryd. Mae'n naturiol felly i lawer o'r bobl hynny ymgynull o gwmpas baner plaid sy'n cael ei chysylltu a gwariant cyhoeddus yn annad dim arall, o dan yr amgylchiadau presennol. Dydi'r math yma o gefnogaeth ddim mor ddibynadwy na sefydlog a'r un draddodiadol, ond mae'n dal yn gefnogaeth sylweddol o bryd i'w gilydd.
Fel mae Syniadau yn awgrymu, mae Llafur Cymru yn cael reid rhad ac am ddim ar y mater hwn oherwydd eu bod mewn sefyllfa i ofyn am fwy a mwy o wariant cyhoeddus heb orfod codi ceiniog o dreth. Petai yna berthynas rhwng trethiant a gwariant yng Nghymru byddai'n llawer anos cadw'r holl elfennau sy'n cefnogi Llafur ar hyn o bryd yn y gorlan. Dyna pam na fydd Llafur byth yn gofyn am hawliau trethu i Gymru, a dyna pam mae'r Toriaid yn gogwyddo tuag at y syniad.
Thursday, April 07, 2011
178 tudalen _ _ _
Newyddion drwg sydd ynddo i'r sawl (fel fi) sydd o'r farn y byddai llywodraeth fwyafrifol Llafur yn cymaint o drychineb ag oedd un 2003 - 2007. Y tro diwethaf Lafur gael mwy na 50% yng Nghymru (etholiad cyffredinol 1997) roedd y map etholiadol yn edrych fel hyn:
Os ydi Llafur yn wir yn polio mwy na 50% yna byddant yn cymryd rhai o'r seddau rhanbarthol y tu allan i'r Gorllewin a'r Canolbarth yn ogystal ag etholaethau - yn y De Ddwyrain er enghraifft.
Mae dau gwmni polio yn canfod bellach bod gogwydd cryf tuag at Lafur – ac mae hyn yn gyson a phatrwm hanesyddol lle ceir Llafur yn adeiladu cefnogaeth yn gyflym yng Nghymru pan maent allan o rym yn San Steffan. Mae yna resymau strwythurol am hyn, a byddwn yn dychwelyd at y mater hwnnw maes o law. Ond mae’r sefyllfa yn profi y tu hwnt i bob amheuaeth bod y gorffennol – hyd yn oed y gorffennol agos – yn wlad arall yng ngwleidyddiaeth etholiadol Cymru.
Yn y cyfamser y cwestiwn pwysig o safbwynt y Blaid ydi beth gellir ei wneud i gael y gorau allan o sefyllfa anodd?
Y peth cyntaf i’w gofio ydi mai 40 etholiad unigol a geir mewn gwirionedd yn hytrach nag un etholiad wlad eang – ‘dydi’r cyfryngau ddim yn gallu dominyddu’r etholiad na’i naratif yn yr un ffordd a sy’n digwydd mewn etholiadau San Steffan. O ganlyniad mae ymgyrchoedd lleol pwerus yn gallu bod yn effeithiol, ac mae’n bosibl creu naratifau lleol sy’n gryfach ac yn fwy clywadwy na’r rhai cenedlaethol.
Yr ail beth ydi bod ansawdd ymgeisyddion y Blaid yn aml yn well nag ansawdd rhai’r pleidiau unoliaethol. Lle mae hynny’n wir dylid gwneud pob dim posibl i dynnu sylw at hynny. Mae’r personol a’r plwyfol yn bwysicach mewn etholiadau Cynulliad na mewn rhai San Steffan.
Yn drydydd mae yna fis i fynd – ac mae hynny’n amser maith mewn gwleidyddiaeth etholiadol. Mae yna amser i fireinio a gwella’r naratif cenedlaethol. Roedd polisiau trawiadol yn un o nodweddion ymgyrch y Blaid yn 2007, ac mae rhai o’r polisiau sydd wedi eu datgan y tro hwn – cymryd gofalaeth o Bontydd Hafren er enghraifft – yn ddigon trawiadol.
Yn bwysicach mae angen naratif syml negyddol sy’n ymwneud a pham na ddylid pleidleisio i Lafur. Cymharu record glodwiw Cymru’n Un efo record wachul llywodraeth 2003 – 2007 ydi’r un orau y gallaf i feddwl amdani. Arweiniodd llwyddiant i Lafur at or hyder, arweiniodd gor hyder at draha, ac arweiniodd hynny yn ei dro at lywodraethu anghyson, mympwyol, di strategaeth.
Gallwn ddisgwyl yr un peth am bedair blynedd arall os bydd Llafur yn cael eu bachau ar rym ar eu pennau eu hunain.
Wednesday, April 06, 2011
Etholiadau'r Cynulliad yng Ngwynedd
Datganiadau ynglyn a'r ymgeiswyr yn etholiadau'r Cynulliad yn nwy etholaeth Gwynedd ydi'r uchod. Maent yn ddiddorol ar sawl cyfri.
Mae'n ymddangos mai Alun Ffred Jones ydi'r unig un o ymgeiswyr Arfon sydd a chyfeiriad yn Arfon, ac yn wir yng Ngogledd Cymru. 'Dydw i ddim yn gyfarwydd a'r cwbl o'r ymgeiswyr ym Meirion Dwyfor - ond o'r tri ymgeisydd 'dwi yn gyfarwydd a nhw - Steve Churchman (Lib Dem), Louise Hughes (Llais Gwynedd) a Dafydd Elis-Thomas dim ond y pleidiwr sy'n rhugl ei Gymraeg. Byddai'n ddiddorol gwybod os ydi'r ddau ymgeisydd arall - Simon Baynes a Martin Singleton - yn siarad yr iaith.
'Rwan does yna ddim rhaid i ymgeisydd fod yn ddwyieithog nag yn lleol i gael ei ethol wrth gwrs - ond does gan Arfon na Meirion Dwyfor ddim hanes o gwbl o ethol pobl nad ydynt yn ddwyieithog ac a chysylltiadau lleol agos, i senedd San Steffan nag i'r Cynulliad. Mae dewisiadau'r pleidiau unoliaethol a'r grwp rhanbarthol yn awgrymu nad ydynt o ddifri ynglyn ag ennill y naill sedd na'r llall. Mae hynny'n ddigon dealladwy gan fod y Blaid efo mwyafrif sylweddol yn y ddwy etholaeth.
Mae'n ddiddorol hefyd mai un ymgeisydd yn unig sydd gan Llais Gwynedd - Louise Hughes ym Meirion Dwyfor. Roedd cryn son yn Eisteddfod y Bala am sefyll yn Arfon ac yn rhanbarthau'r Gorllewin a'r Canolbarth a'r Gogledd. Torri'r got yn ol y brethyn a wynebu realiti etholiadol ydi dewis un ymgeisydd yn hytrach na phedwar.
Idiotrwydd etholiadol ar y We
Am resymau sy'n ymwneud a chwaeth wnawn ni ddim son am yr ymdrech erchyll gynharach ar flog - Nat Watch.
Rwan, beth sydd gan y cyfryw ymdrechion ar wleidydda ar y We yn gyffredin? Byddwn yn awgrymu dau beth - sgiliau technoleg gwybodaeth elfennol iawn ac olion bysedd go amlwg y Blaid Lafur Gymreig.
Tuesday, April 05, 2011
Triciau budur gan y Blaid Lafur?
Rwan, fel y dywedais yn y darn gwreiddiol, derbyn y ddelwedd trwy e bost yn ddi enw wnes i. Cyrhaeddodd ar ffurf ffeil Adobe ar nos Sul, Mawrth 27. Wnes i ddim defnydd o'r poster tan y dydd Iau canlynol - Mawrth 31. Gan nad oeddwn yn gallu trosglwyddo ffeil Adobe i fformat blogspot, bu'n rhaid i mi ei hargraffu, a'i sganio - er mwyn ei throsglwyddo i fformat JPEG. Ceir plyg trwy ganol y poster - fi wnaeth y plyg hwnnw wedi argraffu'r darn, trwy blygu'r papur. Does yna ddim plyg ar y ddelwedd wreiddiol. Mae'n amlwg felly mai fy nelwedd i sydd wedi ei chopio a'i phostio ar y wefan.
Rwan, petai honiad Bryant yn wir, pam y byddai'n rhaid i'r sawl oedd (yn ol Bryant) yn gyfrifol am y ddelwedd ei chopio o fy mlog i? Siawns y byddai ar gael iddynt trwy ddull arall. Ymhellach, oes rhywun mewn difri calon yn credu y byddai awdur ymgyrch driciau budron yn cofrestru ei wefan yn enw ei swyddfa ei hun, pan y gallai ddewis cofrestru yn enw unrhyw gyfeiriad yn y Byd mawr crwn - ac yn enwedig felly ac yntau'n arwain plaid wleidyddol?
Rwan mae Bryant naill ai yn ddyn rhyfeddol o naif, neu mae'n cymryd rhan mewn ymgyrch driciau budron ei hun.
'Dwi'n gwybod pa eglurhad sy'n ymddangos fwyaf tebygol i mi.
Monday, April 04, 2011
Goblygiadau llywodraeth fwyafrifol Llafur
Mae Vaughan yn tynnu sylw at y ffaith mai un cwmni sy'n polio yn rheolaidd ar hyn o bryd, a bod yna amheuaeth ynglyn a methodoleg y cwmni hwnnw. 'Dwi wedi tynnu sylw yn y gorffennol at arfer YouGov o gymryd darlleniad papurau newydd i ystyriaeth wrth osod pwysiad ar eu sampl, a holi i ba raddau maent yn deall patrymau darllen papurau newydd yng Nghymru.
Ta waeth, beth fyddai goblygiadau llywodraeth fwyafrifol Llafur ym Mae Caerdydd? Wel mae ein unig brofiad o lywodraeth mwyafrifol Llafur (2003 – 2007) yng Nghaerdydd yn un erchyll. Yn wir, mae'n debyg mai dyma'r cyfnod salaf o lywodraethiant yn hanes diweddar datganoli yn y DU. Fe’i nodweddwyd gan:
· Raglen faith i gau ysbytai lleol. Atalwyd hyn oherwydd y nifer o Bleidwyr a etholwyd.
· Allgyfeirio pres oddi wrth ysgolion. Dyma pryd y datblygodd yr holl fwlch rhwng gwariant ar ysgolion yng Nghymru a Lloegr.
· Methiant llwyr i anrhydeddu addewid i ddod a rhestrau aros mewn ysbytai i lawr. Aeth y rhestrau yn fwy.
· Methiant llwyr i gynnig gofal cartref rhad ac am ddim i’r hen a’r methedig.
· Methiant llwyr i anrhydeddu addewid roi mynediad i bawb i ddeintydd NHS. Syrthiodd y niferoedd oedd efo mynediad o’r fath.
· Methiant llwyr i anrhydeddu addewid i leihau amser ymateb y gwasanaeth ambiwlans.
· Cafwyd tri adroddiad yn ystod y cyfnod oedd yn dweud nad oedd yr NHS yng Nghymru yn rhoi gwerth am arian.
· Methiant llwyr i anrhydeddu addewid i leihau’r nifer o ddosbarthiadau 30+ .
· Methiant llwyr i anrhydeddu addewid i gynyddu’r niferoedd mewn addysg bellach.
· Methiant llwyr i anrhydeddu addewid i leihau CO2.
· Methiant llwyr i anrhydeddu addewid i leihau’r niferoedd o blant sy’n cael eu magu mewn tlodi.
O gymharu a hynny mae cytundeb Cymru’n Un wedi bod yn fodel o lwyddiant ac effeithiolrwydd. Roedd tua 200 addewid yn y cytundeb. Mae mwy na 90% o’r rheiny wedi eu gwireddu. Er enghraifft:
· Ail strwythuro’r NHS a chael gwared o wastraff y farchnad fewnol.
· Lleihau maint dosbarthiadau plant 3 i 7.
· Gwneud gwell defnydd o bwerau’r Cynulliad i ddelio a thlodi plant.
· Darparu 6,500 o dai fforddiadwy.
· Refferendwm a phwerau deddfu.
· Hawliau ieithyddol sylweddol gryfach.
· Cael gwared ar yr arfer o godi am barcio mewn ysbytai.
· Dod ag amser teithio ar dren o’r De i’r Gogledd i lawr.
· Adleoli peth o weinyddiaeth y cynulliad yn y Gogledd a’r Cymoedd.
· Rhoi help i bensiynwyr efo treth y cyngor.
· Rhoi help i fusnesau efo trethi busnes.
· Sefydlu undebau credyd ar hyd y wlad.
Beth fyddai'r gorau i Gymru - cyfnod megis un 2007 - 2011 neu un mwy tebyg i 2003 - 2007 pan roedd Llafur yn rhedeg pethau ar eu pen eu hunain?
'Dydi'r cwestiwn prin gwerth ei ofyn.