Thursday, March 03, 2011

Ymgeisydd Llafur yn Aberconwy

Alun Puw fydd yn sefyll i Lafur yn sgil ymadawiad Ronnie Hughes a'r talwrn etholiadol - neu dyna ydi'r son beth bynnag.


Mae Alun yn brofiadol ac yn gyn weinidog yn y Cynulliad - ond mae ganddo hefyd hanes o golli etholiadau, ac o fethu cael ei ddewis i sefyll tros Lafur mewn nifer o etholaethau. Felly mae'n anodd barnu os ydi gobeithion Llafur yn well ta'n waeth o ffeirio Alun am Ronnie - ond mi fyddwn yn bersonol yn tybio ei fod yn gam yn ol iddynt yn hytrach nag yn gam ymlaen.

5 comments:

Guto Bebb said...

Dyna'n wir di'r son yn Aberconwy hefyd. Er fy mod yn hoff iawn o Ronnie (gwrthwynebydd teg a pharchus iawn) dwi'n tueddu i gredu y bydd Alun yn cryfhau y ticed Llafur.

Fe fu i Alun berfformio'n gryf iawn yn Arfon yn 2010 er iddo gael cwta bedwar mis i wneud argraff. Fe fu iddo hefyd guro Brynle yn 2003 yng Ngorllewin Clwyd er i bawb ddarogan ei dranc. Dim ond ar ôl i David Jones gipio'r sedd yn 2005 y bu i Alun golli yn 2007.

Mantais arall iddo yw'r ffaith fod y North Wales Weekly News yn gefnogol iddo ac nad yw'n dioddef o fod yn Gynghorydd Sir (fel dau o'r ymgeiswyr eraill). Yn fy marn i mae'r dewis hwn yn cymhlethu'r dyfroedd hyd yn oed yn fwy.

Anonymous said...

Mmm, Guto Bebb yn swcro Llafur. Tybed pam? Poeni'n fwy am y Blaid mae o.

Guto Bebb said...

Na, ddim o gwbwl. Iwan Huws yn ymgeisydd dymunol iawn ond sedd Gareth oedd hon. Cawn weld wrth gwrs!

Cai Larsen said...

Diolch Guto.

Fel ti'n dweud, cawn weld.

Anonymous said...

Bydd 'na o leiaf pedwar o ddynion am fod yn ymgeisydd Plaid Lafur. Dw i wedi clywed bod James Pritchard yn awyddus i sefyll.