Monday, March 07, 2011

Ieithwedd gwleidydda

Mi'r ydym wedi gweld cryn dipyn o ieithwedd amhriodol wrth wleidydda yn ystod yr wythnosau diwethaf - gan yr ochr Na yn y refferendwm wrth gwrs. Rydym eisoes wedi edrych ar rhai enghreifftiau - cymharu'r ochr Ia efo comiwnyddion, moch a chyfundrefnau unbeniaethol er enghraifft, awgrymu bod pawb sy'n ddigon dewr i fynegi cefnogaeth i'r ochr Ia yn euog o lygredd personol, cymharu penderfyniad democrataidd gan etholwyr Cymru efo cic gan ful ac ati.

Rwan, pan mae ieithwedd o'r math yma yn cael ei defnyddio - y bwriad fel rheol ydi ennyn ymateb emosiynol neu hysteraidd yn y gwrandawr neu'r darllenwr. Os ydym yn ceisio ennyn ymateb mwy deallus ac ymenyddol mae'r ffordd yr ydym yn defnyddio iaith yn wahanol - mae'n fwy pwyllog a rhesymol, a rydym yn osgoi gor ddweud a chymariaethau amhriodol. Mewn geiriau eraill rydym yn ymarfer rheolaeth ar yr iaith rydym yn ei defnyddio.

Nid True Wales yn unig sy'n gwleidydda yn y ffordd yma - mae'n nodwedd o'r ffordd y bydd elfennau eithafol yn gwleidydda. Emosiwn sy'n gyrru gwleidyddiaeth felly - mae'n dilyn felly bod yr ieithwedd a ddefnyddir yn eithafol. Wedi dweud hynny bydd pleidiau o bob math yn defnyddio iaith gor emosiynol weithiau - yn arbennig felly pan fydd etholiad ar y gorwel - dyna pam roedd David Jones yn son am ryfel gyrila yn erbyn y wladwriaeth Brydeinig heddiw. Creu gwres yn hytrach na goleuni ydi'r bwriad. 'Dwi wedi tynnu sylw at y math yma o wleidydda mewn perthynas a Llais Gwynedd yn y gorffennol - yn arbennig felly pan roedd Gwilym Euros yn cadw blog.

'Dydi hi ddim yn syndod ag etholiad Cynulliad ym mis Mai bod yr ieithwedd yma'n cael ei defnyddio drachefn gan Lais Gwynedd. Er enghraifft yn ol tudalen Facebook Cyfeillion Ysgol Llwyngwril cafwyd y neges yma gan un o gynghorwyr Llais Gwynedd:

Thank you very much indeed. Keep it up with the pressure. If Mubarak can be shifted in 18 days so can Plaid Cymru politicians on every level! There are National Assembly elections coming up in May and Gwynedd... Council elections in May 2012. We’ll take a leaf out of the Egyptians’ notebook on both occasions.

Rwan, mae'n gwbl briodol i rieni yn Llwyngwril, neu mewn unrhyw bentref arall gynnal ymgyrch i atal ysgol rhag cau. Mae hefyd yn gwbl briodol i Lais Gwynedd, neu unrhyw grwp arall drefnu eu hunain yn wleidyddol ac ymgyrchu yn wleidyddol. Dyna natur gwleidydda democrataidd.

Ond
mae'n amhriodol i gymharu gwrthwynebwyr sy'n arddel gwleidyddiaeth ddemocrataidd efo unbenaethiaid sydd wedi cynnal eu grym gwleidyddol am ddegawdau trwy ladd, carcharu ac arteithio.

Mae rhywbeth yn dweud wrthyf y byddwn yn dod ar draws mwy o'r math yma o beth tros yr wythnosau nesaf.

2 comments:

Hogyn o Rachub said...

Mae natur y grwp Facebook yn dweud lot fawr iawn am natur cefnogaeth Llais Gwynedd, o ran iaith os nad dim byd arall.

Ioan said...

Dyfalwch pwy oedd efo'r ganran isa "Na" fel canran o'r etholwyr...

Cynta: Merthyr Tydfil - 9.4%
Ail: Wrexham - 9.6%
Trydydd: Blaenau Gwent - 10.0%