Tuesday, March 01, 2011

True Wales yn lladd ar bawb

Rydym eisoes wedi trafod arfer anymunol True Wales o ymosod ar bawb sy'n meiddio mynegi safbwyntiau sy'n groes i'w rhagfarnau nhw a phriodoli'r farn honno i rhyw gymhelliad hunanol neu'i gilydd - chwaraewyr rygbi, actorion, gwleidyddion proffesiynol, pobl maent yn eu hystyried yn gyfoethog, papurau newydd ac ati.

Y cyfryngau sy'n ei chael hi ar hyn o bryd - am fod yn anghwrtais (yn anhygoel ag ystyried mai anghwrteisi tuag at wrthwynebwyr ydi un o brif nodweddion ymgyrchu True Wales), a'r Eglwys Babyddol am wneud sylwadau amhriodol - hynny yw rhai nad ydynt yn cyd fynd a naratif boncyrs True Wales ynglyn a'r Cynulliad.

Ymddengys nad ydi'r cysyniad ei bod yn bosibl i unigolion a sefydliadau fod a syniadau didwyll ynglyn a'r ffordd orau o lywodraethu Cymru wedi treiddio i ymwybyddiaeth True Wales eto. Mae'r lefel yma o hunan dwyllo yn atgoffa dyn o gred Bill Hughes na all pol piniwn nad yw'n hoffi ei ganlyniad fod yn gywir os nad ydi Bill ei hun wedi cael ei holi ar gyfer y pol hwnnw.

No comments: