Wednesday, March 23, 2011

Ydi Cymru'n Un wedi creu dwy Blaid Lafur?

Mae'n mynd yn arfer braidd yn ddiweddar i'r Blaid Lafur yn Llundain, a fersiwn Gymreig y blaid siarad efo dau lais cwbl wahanol. Owen Smith oedd wrthi ychydig ddyddiau yn ol yn grwgnach am gynlluniau'r Blaid i godi arian cyfalaf er bod Jane Hutt yn ymddangos yn ddigon hapus efo'r cynlluniau hynny - ac yn wir wedi trafod cynlluniau tebyg ei hun.

Ac wedyn dyna i ni Peter Hain yn ymosod ar Ieuan Wyn Jones, a Carwyn Jones yntau yn amddiffyn ei ddirprwy. Mae hefyd yn weddol amlwg bellach nad oedd Hain eisiau gweld refferendwm ar bwerau deddfu i'r Cynulliad am flynyddoedd - yn groes i Gytundeb Cymru'n Un, ac yn groes i bolisi swyddogol ei blaid ei hun.

Pan ffurfiwyd Cymru'n Un, roedd rhai pobl yn meddwl y byddai'r cytundeb yn creu tyndra, ac efallai hollt oddi mewn i Blaid Cymru. Mae'n ymddangos bod y darogan yn gywir - ond mewn perthynas a'r blaid anghywir - cadwodd Plaid Cymru yn rhyfeddol o gytun yn sgil y clymbleidio a Llafur.

Mae'n ymddangos bod y Blaid Lafur Gymreig, fodd bynnag, wedi ei hollti rhwng y sawl sydd a'u ffocws ar y Cynulliad, a rheiny sy'n gweld San Steffan yn ganolbwynt y Bydysawd. Yn wir mae'n ymddangos weithiau nad ydi'r cynrychiolwyr etholedig yn y naill sefydliad yn ymwybodol o'r hyn mae eu cyd Lafurwyr yn y sefydliad arall yn ei ddweud, na'i wneud. Efallai nad oes yna unrhyw strwythur mewnol gan y blaid i gyd gynllunio - nag yn wir i gyd siarad.

Bydd yn ddiddorol gweld pa effaith gaiff y lleihad arfaethedig yn niferoedd aelodau seneddol Llafur yn San Steffan ar yr hollt cynyddol ac arwyddocaol yma oddi mewn i'r blaid.

5 comments:

Anonymous said...

"hollt cynyddol ac arwyddocaol" -Hollt arwyddacaol yn sicr. Go brin ei fod yn gynyddol. Hwn yw'r hollt ddechreuodd ar y chwith yng Nghymru yn 1896 yng Nghasnewydd. Nid hollt cynydol yw hwn ond dawns farwolaeth y deinasoriaid.

Anonymous said...

Cynamserol iawn, a naif, i son am hollt arddwyddocaol. Fedrai ddim credu yn bersonol nad oedd ymosodiad Llafur ar IWJ yn rhywbeth cynlluniedig a bwriadol (ac wedi ei gytuno fel rhan o ymgyrch etholiadol Llafur yng Nghymru - darllenwch blog Betan Powys ynglyn a 'letterhead' Llafur Cymru y datganiad hwnnw). Na, mae cael ymgyrch leol 'parchus' yng Nghymru a chyfranwyr 'budur' o San Steffan yn hen, hen dacteg y Llafur Brydeinig yn anffodus. Ond wedi dweud hynny, dwi yn credu fod gwahaniaeth barn (nid hollt) yn datblygu rhwng y ddwy blaid Lafur - ac yn wir o bosib fod y gwir hollt rhwng yr holl bleidiau Prydeinig a'u 'canghennau' Cymreig (nid oedd ru'n Plaid Gymreig, yn swyddogol o leiaf, o'r farn nad oedd angen mwy o bwerau i'r Cynulliad). Pwy fyddai'n credu'r fath undod dim ond tua 5 i 10 mlynedd yn ol?! Mae un peth yn glir fodd bynnag, a hynny ydi fod Peter Hain yn ddyn sydd wedi colli pob urddas a pharch ac wedi dod allan o hyn yn ddrwg iawn o ran ei bersonoliaeth ei hun. Cefnogwr Blair yn ei holl ogoniant cyfalafol a rhyfelgar - a dwyllodd ei Blaid a'i bobl ei hun ynglyn a materion ariannol ei ymgyrch i fod yn ddarpar Brif Weinidog, ac yn y pen draw oedd yn rhan o fethiant a chwalfa ei blaid ei hun - a hwnnw wedyn yn galw arweinydd plaid arall yn 'aneffeithiol'. Anhygoel, amharchus ac yn y pen draw yn gwbl....aneffeithiol!!

Bwlch said...

Wrth i Carwyn Jones cymeryd y llyw, Plaid Lafur Gymreig sydd rhedeg y sioe lawr yn y Bae. Felly mae llwybr James Griffiths a Cledwyn Hughes yn parhau a dwi gobeithio fod y dinasoriad yn araf bach diflannu ond digon hawdd i Kim Howells, kinnock, Tuhig, George thomas teip cymeryd afael a'r mudiad a mynd a Cymru nol i'r gorffenol tywyll!! Fe gawn ni weld os all y hollt fod yn parhaol.

Anonymous said...

Cytuno'n llwyr Bwlch

Anonymous said...

Heb law am Plaid, San Steffan fydd am byth yn 'ganol y bydysawd'. Fel fydd o i unrhyw gewini sifil.

Nes mae'r system gwleidyddol yn y wlad yma (D.U) newid yn radical, dyma be wneith ddigwydd. Fydd etholidau y Cynulliad yn 'springboard' i Llundain. Fydd y puppet masters Llundain dal i reoli'r Toris, Dems (er bod o'n "ffederal) a Llafur.

Ac i fod yn onesd, dwin deallth lle mae nhwn dod o. Hyd yn oed ar ol y refferendwm, Fydd y Cynulliad byth yn gallu bod yn radical, byth yn callu newid y wlad yn syfyrdanol- a dyna pam, er bod fi wirioneddol eisiau Cymru newid, does nam pwynt dod yn AC!
pessimist... fel bob Cymro!