Sunday, March 13, 2011

Gwynedd a'r refferendwm

Mae'n arfer gan bleidiau gwleidyddol gadw golwg go fanwl ar flychau pleidleisio fel maent yn cael eu gwagio, a phan fydd y pleidleisiau sydd ynddynt yn cael eu dosbarthu. Dyma'r ffordd orau o arenwi pa ardaloedd sydd fwyaf cefnogol i'r gwahanol bleidiau. Anaml iawn y bydd y wybodaeth yma'n cael ei ryddhau oherwydd ei fod yn wybodaeth sydd yn wleiddyddol sensitif. Mae refferendwm yn wahanol wrth gwrs - 'does yna ddim llawer o ddefnydd y gall pleidiau eraill eu wneud o ddeilliannau'r ymarferiad. Felly dyma beth gwybodaeth am natur y refferendwm yng Ngwynedd.

Rhanbarth Pleidlais Ia
Dinas Bangor 70%
Tref Caernarfon 81%
Dyffryn Ogwen 82%
Arfon Wledig 78%
Dwyfor 75%
Meirion 76%

O ran y bocsus unigol wna i ddim eu rhestru nhw i gyd - mae yna ormod ohonyn nhw - ond mi ro i rhyw flas i chi. Roedd 85% neu fwy o'r pleidleisiau efo croes wrth Ia yn y bocsus canlynol:

Rachub, Bethesda, Gerlan, Y Garth (Bangor), Golan, Tremadog, Pencaenewydd, Trefor, Llaniestyn, Botwnnog, Aberdaron, Corris, Y Bala, Ffestiniog, Canolfan y WI Blaenau, Aelwyd yr Urdd Blaenau, Llanuwchllyn, Y Bontnewydd, Penrhyndeudraeth, Rhyd y Main, Sarnau, Aberangell, Santes Helen (Caernarfon), Rhosgadfan, Llanwnda, Llandwrog, Penygroes, Llanllyfni.

Mae'r uchod yn debygol o fod ymysg y ffigyrau uchaf yng Nghymru wrth gwrs, gan i Wynedd bleidleisio'n drymach na'r unman arall tros roi pwerau deddfu i'r Cynulliad.

Roedd y canlynol yn 60% neu is:

Bronyfoel, Abersoch, Aberdyfi, Y Bermo, Dyffryn Ardudwy, Llwyngwril, Y Tywyn, Talsarnau, Bryncrug, Y Friog, Y Ganllwyd, Borthygest, Dinorwig.

Pleidleisiodd llai na 50% tros y cynnig yn Tywyn, Aberdyfi, Y Friog a Bronyfoel. Mae'n weddol amlwg o edrych ar y ddau restr bod perthynas agos rhwng maint y bleidlais Na a lefelau mewnfudiad. Mae'r bleidlais Ia hefyd yn drwm iawn mewn pentrefi chwarelyddol. O bosibl bydd ambell i gynghorydd Llais Gwynedd yn cael ychydig o amheuaeth ynglyn a doethineb eu penderfyniad i sefyll yn ol yn ystod yr ymgyrch o weld bod eu wardiau wedi pleidleisio Ia'n drwm iawn.

Dwi wedi rhoi lliw coch ar enwau'r ardaloedd lle roedd y samplau braidd yn rhy fach i fod yn gwbl ddibynadwy. Er bod sampl wedi ei gymryd o fwyafrif llethol y bocsus mae un neu ddau yn ddi sampl - gan gynnwys yr un sydd o fwyaf o ddiddordeb i mi. Os ydych eisiau gwybod y ganran am focs penodol gallwch adael neges ar dudalen sylwadau'r blogiad.

Paul Rawlinson sydd wedi bod yn gyfrifol am goledu a rhoi trefn ar yr holl wybodaeth gyda llaw - fedra i ddim meddwl am neb mwy effeithiol na Paul am wneud y math yma o waith.

13 comments:

Plaid Gwersyllt said...

Elli di egluro pam fod Wrecsam/Fflint/Dinbych a Conwy wedi pleidleisio IE o 60/40 os mae na linc hefo mewnfudo?
Yn Wrecsam yr ardaloedd di-freintiedig oedd y cryfaf dros IE 80/20, ond roedd rheini wedi cael lot o wybodaeth hefyd gan fod dwy allan o bump yn cael ei cynrychioli gan genedlaetholwr ac un arall gan un or ychydig Lafurwyr oedd yn gweithio dros bleidlais IE. Un peth dwi ddim yn gallu egluro ydy pam fod ardaloedd Ceidwadol ar y ffin fel Worthenbury a Horsemans Green wedi pleidleisio IE. Mae wardiau Llafur lle roedd ei cynrychiolwyr yn glwm ar ymgyrch NA hefyd wedi pleidleisio 80/20 dros IE (Gwenfro a Gogledd Gwersyllt)

menaiblog said...

Dwi ddim yn dweud bod yna berthynas gyffredinol efo pleidlais Na cymharol uchel a mewnfudo - dweud ydw i bod hynny'n wir yng Ngwynedd. Does gen i ddim llawer o ddata am unman arall.

Dwi'n eithaf siwr dy fod yn gywir am berthynas efo dosbarth cymdeithasol - mae ardaloedd tlawd wedi pleidleisio Ia'n gymharol drwm.

Anonymous said...

I ymateb i "Plaid Gwersyllt" rwy'n amau bod pleidlais y Gog. Dd. yn deillio o ddwy factor. Yn gyntaf roedd yn bleidlais yn ERBYN y llywodraeth bresenol yn Llundain. Yn ail tybiwn bod pobol sy'n cymysgu'n gyson a phobol yr ochor draw i Glawdd Offa yn ymwybodol iawn o bethau maen nhw'n eu cael (megis precripsynau am ddim) nad yw eu cydnabod yn Lloegr yn eu derbyn

Anonymous said...

Unrhyw syniad beth oedd y ffigyrau ar gyfer ardaloedd eraill Dwyfor fel Pwllheli, Cricieth, Chwilog, Abererch, Nefyn a Morfa Nefyn?

menaiblog said...

Cricieth 65%, Chwilog 75%, Nefyn 77%, Morfa Nefyn 80%, Frondeg dim sampl, Eglwys Babyddol Pwllheli 68%, Berch 73%.

Anonymous said...

beth oedd ffigyrau ardaloedd Mon

menaiblog said...

'Does gen i ddim llawer o wybodaeth am Ynys Mon.

Yr unig beth i mi ei glywed - a dwi ddim yn gwybod pa mor ddibynadwy ydi hyn - ydi mai dwy ward yn unig bleidleisiodd Na - Beaumaris a Threarddur.

Anonymous said...

Oes gennyt unrhyw ffigyrau am ardal Dolgellau o gwbwl (y dref a phentrefi'r dalgylch)?

Llawer o ddiolch

menaiblog said...

Corris 90%, Llyfrgell Bolgellau 73%, Brithdir 57%, Dinas Mawddwy dim sampl, Rhydymain 91%, Llanelltyd 64%, Bontddu 72%, Ganllwyd 48%.

Anonymous said...

Unrhyw syniad beth oedd Llanberis Cai Diolch.

menaiblog said...

75%

Hogyn o Rachub said...

Ar y rêt yma waeth i chdi roi nhw i gyd fyny ddim!!!

menaiblog said...

Rachub 86%.