Friday, March 25, 2011

Cymru'n Un 2?

Draw ar Flog Hen Rech Flin mae Alwyn yn mynd trwy'i bethau oherwydd awgrymiadau Ieuan Wyn Jones nad yw'r Blaid yn debygol o glymbleidio efo'r Toriaid, ac yn bygwth rhoi ei bleidlais bost yn y bin sbwriel yn hytrach nag yn y post. Mae'r math yma o beth yn digwydd yn achlysurol ar flogiau Alwyn.

Casineb Alwyn at Lafur oherwydd ei ganfyddiad o 'wrth Gymreigrwydd' y blaid honno ydi un o'r rhesymau am ei anhapusrwydd. Rwan mae'n hawdd creu naratif sy'n portreadu Llafur fel plaid wrth Gymreig - byddai enwau megis George Thomas, Don Touig, Kim Howells ac ati yn codi yn aml mewn stori felly. Gellid hefyd wrth gwrs greu naratif tebyg am y Toriaid - byddai'r enwau a'r hanesion canlynol yn codi'n aml yn hwnnw - Delwyn Williams, David Davies, gwrthwynebiad y Toriaid i'r Swyddfa Gymreig a datganoli yn 79 a 97, toriadau diweddar i gyllideb S4C ac ati.


Gellid creu naratif fyddai'n dweud stori wahanol am y ddwy blaid wrth gwrs - mi fyddai Cledwyn Hughes, Elustan Morgan, Carwyn Jones, cefnogaeth i ddatganoli, sefydlu'r Swyddfa Gymreig ac ati yn codi mewn stori felly am y Blaid Lafur, ac mi fyddai Wyn Roberts, Glyn Davies, sefydlu S4C, deddfau iaith ac ati yn codi mewn un am y Toriaid.

Y gwir ydi nad ydi'r naill blaid na'r llall yn cael eu gyrru gan syniadaethau cenedlaetholdeb Gymreig - felly maent iddynt elfennau sydd yn wrthwynebus i genedlaetholdeb Cymreig, ac mae iddynt elfennau nad ydynt yn wrthwynebus. Weithiau maent yn gwneud pethau sydd at ddant y cenedlaetholwr Cymreig, ac weithiau maent yn gwneud rhywbeth gwrth genedlaetholgar. Fel rheol canlyniad i bwysau o gyfeiriad cenedlaethlwyr Cymreig ydi'r camau cadarnhaol - weithiau o gyfeiriad Plaid Cymru, ac weithiau o gyfeiriad mudiadau amgen megis Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Llywodraeth Cymru'n Un ydi'r esiampl orau o allu cenedlaetholwyr i ddylanwadu er budd Cymru. Ers 2007 mae'r achos cenedlaethol wedi cymryd camau breision ymlaen - hawliau deddfu i'r Cynulliad, deddf iaith, coleg ffederal, comisiynydd iaith, uwchraddio system drafnidiaeth oddi mewn i'r wlad, codi statws henebion cynhenid Gymreig, Holtham, ymrwymiad i greu gwlad ddwyieithog ac ati. Yn wir go brin i Gymru symud yn ei blaen cymaint yn ystod unrhyw gyfnod yn ei hanes.

Canlyniad ydi hyn oll i wleidyddiaeth y pragmatydd, ac nid i wleidyddiaeth y purydd. Cyfaddawd ydi Cymru'n Un, ond un sydd wedi dod a llawer iawn i Gymru - ac o ganlyniad mae'n anodd gweld pam bod cenedlaetholwyr fel Alwyn a HoR yn casau'r Cytundeb i'r fath raddau. Mi fyddwn wedi rhyw feddwl y byddai'r rhan fwyaf o genedlaetholwyr yn gobeithio am fwy o'r hyn a gafwyd - ond dyna fo, dwi ddim yn un da iawn am ddeall sut mae eraill yn meddwl.

Mae peth sylwedd i ddadl Alwyn y byddai clymblaid efo'r Toriaid a'r Lib Dems (pe etholir unrhyw Lib Dems) yn cynyddu gallu'r Blaid i ddylanwadu ar lywodraeth San Steffan. Ond ydi hynny'n dal dwr mewn gwirionedd? Ydi hi'n debygol bod cael Nick Bourne yn ddirprwy brif weinidog yn y Cynulliad yn ddigon uchel ar restr blaenoriaethau Cameron i'w annog i ildio consesiynau mawr? Dwi ddim yn meddwl rhywsut.

Yn bwysicach, mae yna'r mater o realpolitik. Mae'r brand Toriaidd yn wenwynig yn y rhan fwyaf o Gymru. Yn 2007 doedd hynny ddim mor bwysig oherwydd bod Llafur hefyd yn amhoblogaidd iawn. Felly roedd Clymblaid yr Enfys yn wleidyddol bosibl.

'Dydi hynny ddim yn wir yn 2011. Fel mae pethau ar hyn o bryd, mae'n ddigon posibl y bydd Llafur mewn sefyllfa i ffurfio llywodraeth ar eu pen eu hunain ym Mis Mai. Byddai clymu'r Blaid - gyda'r gydadran sylweddol o'i chefnogaeth sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus, neu sy'n ddibynol ar wariant cyhoeddus mewn ffyrdd eraill - i frand gwenwynig y Toriaid yn sicrhau degau o filoedd o bleidleisiau ychwanegol i Lafur. Byddai hynny yn ei dro yn sicrhau llywodraeth fwyafrifol Llafur.

Go brin y bydd agenda'r cenedlaetholwr yn symud modfedd yn ei blaen am bedair blynedd o leiaf mewn amgylchiadau felly. Yn wir mae'n fwy na thebyg mai llithro'n ol fyddai pethau.

12 comments:

Simon Brooks said...

Mae Llafur yn fwy ideolegol gwrth-Gymraeg na'r Toriaid. I'r Blaid Lafur, mae "neilltuedd" y Gymraeg yn tarfu ar hollgynhwysedd honedig y syniad o ddiwylliant cyffredin.

Mae gwrth-Gymreictod y Blaid Geidwadol yn Lloegr yn tarddu o'i siofenistiaeth genedlaetholgar Seisnig - sy'n agwedd yn hytrach nag ideoleg.

Dyna pam yn y bon mae'n well gan nifer ohonon ni'r Toriaid na Llafur.

Haws gwrthwynebu rhagfarn nag ideoleg - er bod gan ragfarn ganlyniadau negyddol hefyd (megis penderfyniad Mr. Hunt ar S4C).

menaiblog said...

Mi fyddai'r Dde Prydeinig yn feirniadol o Lafur oherwydd eu hymrwymiad i syniadaethau sy'n hyrwyddo amrywiaeth diwylliannol. Na?

Anonymous said...

Ond os na fydd 'na LibDems, nag efallai Nick Bourne, lle mae hynny'n ein gadael...?

menaiblog said...

Dibynnu pwy sy'n cael seddi'r Lib Dems.

Aled GJ said...

Wedi blasu grym,does yr un Plaid am ildio mymryn o hynny o'i wirfodd, felly Cymru'n Un 2 fydd y dewis greddfol i arweinwyr y Blaid.Byddai'n ddewis digon dealladwy yn wyneb yr hyn a gyflawnwyd ers 2011. Ond, tybed ai opsiwn arall fyddai orau'r tro hwn er lles yr achos cenedlaethol? Nid clymbleidio hefo'r Toriaid fel yr awgryma Alwyn- mae angen i'r Toriaid ymgymreigio eto cyn bo hynny'n opsiwn gwirioneddol- byddai etholiadau 2016 yn fwy priodol ar gyfer hynny efallai.
Y trydydd opsiwn- bod yn wrth-blaid fyddai'r opsiwn gorau gen i . Byddai hynny'n gyfle i PC i ddiffinio ei hun o'r newydd ar gyfer cyfnod newydd( gan ateb cwestiwn Peter Hain, be ydi pwrpas Plaid Cymru bellach?), byddai'n gyfle iddi ail-afael yn y gwaithcenhadu/addysgu/proslateiddio ar lawr gwlad, sy'n gorfod digwydd os ydan ni am weld mwy o ryddid i Gymru. Ac wrth gwrs, byddai'n gyfle i ddewis arweinydd newydd allai ymgorffori'r elfennau uchod yn barod ar gyfer 2016. Weithiau, mae cymryd cam yn ol hefyd yn fodd o symud ymlaen.

A Pearce said...

Cytuno ag Aled.

I mi, yn gyffredinol mi fyddai'n well gen i gweld y Blaid yn osgoi'r Ceidwadwyr. Ond efallai byddai Cymru'n Un 2 yn gwneud i bobl ddechrau gofyn - a hynny nid heb reswm - "Pam pleidleisio dros Blaid Cymru os taw llywodraeth Lafur yw'r canlyniad bob tro? Pam dim jyst pleidleisio Llafur?"

menaiblog said...

Onid ydi'r blogiad yn egluro hynny Mr Pierce?

Dylan said...

Y broblem efo peidio clymbleidio o gwbl er mwyn bod yn wrthblaid ydi bod y polau i gyd yn awgrymu mai trydydd fydd y Blaid. Y Torïaid fyddai'r wrthblaid swyddogol. Gan adael PC braidd yn amherthnasol, fe haeraf.

Anonymous said...

When I initially commented I seem to have clicked the -Notify me when new comments are added- checkbox
and from now on whenever a comment is added I get four emails with the exact same comment.
Is there an easy method you are able to remove me
from that service? Appreciate it!

Review my webpage :: zetaclear side effects

Anonymous said...

We're a gaggle of volunteers and starting a new scheme in our community. Your site provided us with valuable information to work on. You've performed an impressive process
and our entire neighborhood might be grateful to you.

Also visit my page ... toe nail fungus treatments
My page - toenail fungus treatment

Anonymous said...

What's up, this weekend is pleasant in favor of me, since this occasion i am reading this impressive educational article here at my residence.

My site ... zetaclear side effects

Anonymous said...

If some one wants to be updated with newest
technologies then he must be go to see this site and be
up to date daily.

Here is my blog ... maid service