Dwy gwyn sydd gen i yn y bon, ac maen nhw wedi eu cyfeirio at y Bib yn benodol - er bod gweddill y cyfryngau hefyd yn euog i raddau llai. Gan mai'r Bib ydi prif ffynhonnell newyddion mwyafrif llethol pobl Cymru, a chan bod y sefydliad yn cael ei ariannu o adnoddau cyhoeddus, mae eu cyfrifoldeb am wneud smonach yn fwy nag ydi cyfrifoldeb neb arall.
Mae'r gyntaf yn ymwneud a'r sylw yn ystod yr ymgyrch i'r nifer fyddai'n debygol o bleidleisio. Rwan 'dwi'n gwybod bod rhaid i sylwebwyr proffesiynol adrodd ar bethau fel maent yn eu gweld - ond a oedd rhaid gwneud sylw ynglyn a'r tebygrwydd o gyfradd pleidleisio isel ym mhob adroddiad ar y refferendwm? Roedd y refferendwm wedi ei diffinio gan y cyfryngau fel un lle na fyddai llawer o bobl yn pleidleisio ynddi o'r dechrau'n deg - yr etholiad honno na fydd neb yn pleidleisio ynddi oedd hi i lawer o bobl. Roedd hynny yn ei dro yn cael ei adlewyrchu ar y diwrnod. Self fulfilling prophecy ydi'r term Saesneg 'dwi'n meddwl.
Mae'r ail fater yn un sydd braidd yn ddelicet a dweud y gwir - ansawdd deallusrwydd y sawl oedd yn cael siarad gan y Bib ar ran yr ymgyrch Na - yn arbennig yn y Gymraeg (er bod peth o'r feirniadaeth yma'n wir am y darlledu cyfrwng Saesneg hefyd).
'Dwi'n siwr bod perfformiadau Billy Hughes ac Eric Howells wedi gwneud byd o les i'r ymgyrch Ia ymhlith Cymry Cymraeg. 'Dwi'n cymryd y bydd astudiaeth academaidd yn cael ei chynnal o sut wnaeth gwahanol gydrannau'r boblogaeth yng Nghymru bleidleisio - ac y bydd yn cael i ganran uchel iawn - 80% efallai - o Gymry Cymraeg wedi pleidleisio Ia. Bydd rhan - bach efallai, ond arwyddocaol - o hynny i'w briodoli i'r ffaith bod y Bib wedi caniatau i'r ddau hen gojar yma ailadrodd eu rhagfarnau personol trosodd a throsodd a throsodd, a gwneud hynny yn annibynnol o unrhyw gwestiwn a ofynwyd iddynt, ac yn aml yn annibynnol o strwythur y rhaglenni roeddynt yn cymryd rhan ynddynt.
Mae yna hefyd fater o ddyletswydd gofalaeth y gorfforaeth tuag at y sawl sy'n ymddangos ar eu rhaglenni. A bod yn blaen, roedd yn amlwg o'u hymddangosiadau cyntaf bod y ddau yn gwneud eu hunain yn destun sbort cyffredinol - yn arbennig pan roeddynt yn cael eu gosod yn erbyn gwleidyddion proffesiynol oedd yn mynd ati i'w datgymalu yn ddi drugaredd. Roedd yn anghyfrifol, ac yn anheg efo Bill ac Eric i ganiatau i'r pantomeim anymunol yma fynd rhagddo am wythnosau, Roedd yr holl ymarferiad yn greulon tuag at ddau ddyn mewn oed, roedd yn anheg a'r sawl oedd yn gorfod dadlau yn eu herbyn, roedd yn di raddio'r ddadl ehangach, ac roedd yn dangos diffyg parch tuag at wylwyr Cymraeg eu hiaith.
Mae dyn yn deall nad oedd pethau'n hawdd i'r Bib, roedd yr ymgyrch Na ar chwal ac ychydig o Gymry Cymraeg oedd eisiau cysylltu eu hunain a'r ymgyrch honno. Ond mae'r Bib yn gorfforaeth fawr sydd ag iddi adnoddau sylweddol iawn. Gellid bod wedi dod o hyd i ffyrdd o osgoi'r embaras erchyll a gyflwynwyd ger ein bron. Nid er mwyn gweld y math yma o ffwlbri gwirion mae'r sawl yn ein ein plith sy'n dal i dalu am ein trwyddedau teledu yn gwneud hynny.
15 comments:
Ie....roeddwn i'n teimlo dros y ddau wr.
Ar Radio Wales, roedd dau o'r pedwar yr oeddyn yn siarad a hwy yn amlwg yn ffyrnig yn erbyn datganoli a Chymreictod. Roedd un ohonynt yn galw Cymru yn 'the principality' dro ar ol tro ac yn son am y 9 billiwn i ni'n cael o'r trysorlys byddai'n cael ei golli. Meddai'r llall fod datganoli wedi gadael Plaid Cymru i gael 'leverage' pan fod y bobl wedi eu gwrthod dro ar ol tro. Roedd y ddau yma i fod yn 'don't knows' ond ar y dydd.....daethant allan fel rhai oedd yn mynd i ddweud 'na'. Roedd hynny yn amlwg wythnosau yn ol. Felly, ar y dydd, o'r 4 roeddyn yn siarad gyda cyn i'r blychau agor.....gwnaeth 3 ohonynt ddatgan 'na' if fwy o rymoedd.
Ia 'dwi'n gwybod - roedd yna broblemau efo'r ymdriniaeth Saesneg hefyd.
Efallai y caf olwg ar hynny maes o law.
Beth bynnag - dwi'n mawr obeithio y bydd y Bib wedi dysgu gwers o'r holl beth.
Byddai'n dda hefyd gweld newyddiadurwyr y BBC yn dangos parch, neu amharch at y cyhoedd. Pan fod rhywun o'r cyhoedd yn dweud 'I know nothing about the referendum' yna onid yr ateb yw 'wel, onid eich bai a'ch cyfrifoldeb chi yw hynny?'
Os ydy rhywun yn brynu car mae digwyl iddo gael a deall ei bolisi yswiriant. Os ydy rhywun yn mynd ar wyliau mae disgwyl iddynt deall a derbyn polisi yswiriant arall a phryd mae'r awyren yn hedfan etc. Does dim modd sefyll yn cwrt a dweud 'doeddwn i ddim yn gwybod fod gen i ddim MOT ar y car. Mae'r fath beth a chyfrifoldeb.
Dwi di cael llond bol o'r 'pandero' i'r lowest common denominator (sori am y Saesneg). Lle mae person yn gallu dweud yn llawn ymffrost a dirmyg fod nhw'n 'gwybod dim am y refferendwm' a bod y wasg yn debryn hynny gan wedyn peio gwleidyddion!
Gawn ni plis weld gohebydd yn herio'r cyhoedd ar eu twpdra neu diogrwydd neu diffyg gwybodaeth a nid jyst herio'r gwleidyddion?
Beth am ofyn 'onid oes cyfrifoldeb arnoch chi i ymwneud ychydig bach o ymdrech i ddysgu am yr etholiad'?
Rhaid dechrau trin y cyhoedd 'gyffrredin' a pharch. Ac os nad ydynt yn gwybod dim - yna dydy nhw ddim yn haeddu parch. Y del gyda bwy mewn gwlad ddemocrataidd yw fod y dinesydd yn gorfod deall rhwyfaint am wleidyddiaeth y wlad. Dyna'r ddel am fod yn rhan o'r 'clwb'. Dyna'r sgor gyda bod yn aelod o unrhyw glwb. Dydy 'dwi'n gwybod dim' ac yna beio gwleidyddion a'r newyddiadurwyr hunanfodlon yn ail-adrodd y mantra ddim digon da.
Ar raglen y canlyniadau ar S4C ddoe, fe ddywedodd Bill Hughes nad oedd o'n cytuno a True Wales, a bod o 'mond ar y rhagleni am ddatganoli oherwydd bod y BBC wedi mynd ar ei ôl e.
Ym 1997 roedd yna lefarwyr eithaf huawdl ar gael i'r ochr na, pobl fel Yr Arglwydd Roberts o Gonwy, Felix Aubel, Dr Tim Williams ac ati. Lle oeddynt hwy eleni tybed? (Mae'n bosib, wrth gwrs, eu bod wedi newid eu meddyliau ers 1997, ond byddai gwybod pam wedi bod yn ddifyr.)
Dydw i ddim yn credu fod gan yr ymgyrch 'na' fawr o neb deallus a allai siarad ar eu rhan.
Ymfalchiaf fod y Senedd wedi bod yn ddigon praff i sylweddoli pwysigrwydd gwthio'r refferendwm yn ei blaen cyn yr etholiad gyffredinol fel y bydd llawer mwy o ddannedd i faniffesto y gwahanol bleidiau. Does dim ots ar ddiwedd y dydd faint sydd wedi pleidleiso.
A chysidro fod pobl ddeallus fel Iolo Williams yn ymddangos i fod wedi camddeall bwriadau'r refferendwm (Golwg wythnos diwethaf), doedd dim rhyfedd fod cymaint yn dweud fod y dewisiadau'n gymleth.
Roedd cyfiawnhad twp / anghyfrifol Iolo Williams dros bleidleisio "Na" yn y Wales on Sunday yn cadarnhau nad yw'r boi hanner mor glyfar ac y mae o'n meddwl - efallai bod ei fren o yn ei shorts?
Dwi'n gwybod bod hyn yn fabiadd ac yn sbeitlud, ond byddai'm yn gwylio'i blydi raglenni natur o eto.
Croeso Rhiannon
Does yna fawr o amheuaeth bod Rachel Banner yn ddeallus ac yn cyflwyno ei hachos mewn modd gweddol gall a chyfrifol - amrywiol (ar y gorau) oedd y lleill.
Dylai'r Bib fod wedi cael rhyw gyfundrefn 'quality control' yn rhywle ar gyfer y sawl oeddynt yn eu dewis i siarad ar eu rhaglenni.
Fyddai fo ddim y tu hwnt i allu'r Bib i chwilio am rhywun mwy priodol na Bill ac Eric. Hwyrach y byddai Iolo wedi bod yn fodlon gwneud y job.
Beth oedd rheswm Iolo dros beliedleisio 'na'?
'Dwi ddim yn cofio a dwi ddim yn meddwl i mi ddeall ei resymeg yn iawn beth bynnag.
Mae'r cyfweliad yn y Golwg cyn yr un diwethaf.
"mae'r Bib yn gorfforaeth fawr sydd ag iddi adnoddau sylweddol iawn. Gellid bod wedi dod o hyd i ffyrdd o osgoi'r embaras erchyll a gyflwynwyd ger ein bron."
Sut?
Pan mae'r Bib eisiau rhywun i siarad Cymraeg efo ni o'r Aifft, Rwsia neu'r Almaen maen nhw'n dod o hyd i rhywun. Maen nhw'n dod o hyd i bobl sy'n fodlon cyflwyno achos y Gweriniaethwyr neu'r democratiaid o Arkansas neu Florida. 'Dwi'n cymryd mai ymchwilwyr y Bib sy'n dod o hyd i'r cyfryw bobl. Pan mae'r Bib eisiau dod o hyd i rhywun i siarad efo ni am y banciau neu am y farchnad olew, maen nhw'n llwyddo i wneud hynny hefyd.
'Dwi'n gwybod bod dod o hyd i bobl sy'n fodlon cymryd rhan mewn rhaglen deledu wleidyddol yn fater gwahanol, ond mae yna dros i 500,000 o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru ac efallai 100,000 arall yng ngweddill y DU.
Yn absenoldeb ymgyrch swyddogol - mater i ddisgresiwn golygyddol y Bib oedd pwy fyddai'n cael siarad ar ran yr ymgyrch Na. Dylid bod wedi defnyddio adnoddau'r gorfforaeth yng Nghymru i ddod o hyd i gyfranwyr addas ar ran yr ochr Na.
Rhyfedd fod y Toriaid yn gwrthwynebu diddymu Swyddfa Cymru. Maent yn orawyddus i dorri pob dim arall. Cylfe i arbed arian a thorri biwrocratiaeth !!
Wel ia - roedd cost teithio ar reilffyrdd y Swyddfa Gymreig ynddo'i hun yn £83,314 o Ebrill i Fedi 2009.
Dyma rywfaint fan hyn am benderfyniad Iolo er ei fod yn dweud na fyddai yn pleiedleisio yn hytrach na pleidleisio 'na'.
http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/2011/02/27/welsh-celebs-give-their-verdict-on-assembly-referendum-91466-28243149/
There is tool Digeus Registry Fixer I recommend it when there are problems with operational system. I also use Windows Tune Up Suite. It repairs and maintains computer health.
Post a Comment