Roedd yn anodd peidio gwenu wrth ddarllen yr holl bethau oedd yn mynd trwy feddwl John Redwood wrth bendroni uwch ei ffurflen cyfrifiad os mai Prydeiniwr neu Sais ydi o – datganoli i Gymru / yr Alban, anhegwch gorfod llenwi’r ffurflen, cynllwyn dychmygol gan Alex Salmond, Barnett, hawliau sifil, tueddiad Cymry ac Albanwyr i fwynhau gweld Lloegr yn colli mewn chwaraeon, yr Undeb Ewropeaidd, balkanisation (beth bynnag ydi hynny) , y llywodraeth Lafur diwethaf. Roedd pob ystyriaeth yn wleidyddol mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn esiamplau digon gogleisiol o hunan dosduri’r Dde Seisnig.
Ond – roedd Redwood yn gywir ar un ystyr o leiaf – mae’r weithred o lenwi’r ffurflen yn un sydd yn ei hanfod yn wleidyddol, gyda’r cwestiynau ynglyn ag ethnigrwydd, hunaniaeth, iaith, crefydd a nifer o’r lleill o ran hynny ag arwyddocad gwleidyddol iddynt. Felly mae pethau wedi bod erioed wrth gwrs – pan mae llywodraethau yn dechrau cyfri pobl a choledu gwybodaeth amdanynt, yna mae’r broses yn un wleidyddol yn ogystal ag yn un fiwrocrataidd.
Gyda chyn lleied o bobl yn pleidleisio, na’n cymryd rhan mewn unrhyw fath arall o wleidydda yn yr oes sydd ohoni, mae’n rhyfedd braidd mai llenwi’r ffurflen cyfrifiad fydd gweithred fwyaf gwleidyddol llawer iawn o bobl eleni.
No comments:
Post a Comment