Friday, March 04, 2011

Mae pob dim yn mynd i'r Sowth _ _ _

_ _ _ neu dyna ydi naratif gwrth ddatganolwyr ac elfennau gwrth Gymreig eraill yn y Gogledd beth bynnag.

Tybed felly beth fydd y cyfryw gyfeillion yn ei wneud o'r gogwydd anferth tuag at yr ochr Ia ar hyd a lled y Gogledd? Yn wir mae'r llif tuag at ddatganoli yma'n gryfach nag yw mewn unrhyw ranbarth arall o Gymru - ac yn anhygoel mae canran uwch o bobl dwy sir y Gogledd Ddwyrain - Wrecsam a Fflint - wedi pleidleisio Ia nag o drigolion Caerdydd - ac hynny er gwaetha'r buddsoddiad cyhoeddus a phreifat anferthol sydd wedi llifo i'r brif ddinas ers i'r Cynulliad gael ei sefydlu yno.

Rhyfedd o fyd.

3 comments:

Anonymous said...

Newydd fod yn gwylio Sky News. Oeddan nhw yn gwybod fod etholiad yng Nghymru ? Mae llawer o sylw i Barnsley sydd wrth gwrs yn llawer pwysicach !!!

Plaid Whitegate said...

Pleidwyr y gogledd-ddwyrain sy di achosi hyn...

Anonymous said...

Tybed oes modd cael hyd i ystadegau sy'n dangos yn eglur maint yw buddsoddiad y Cynulliad mewn gwahanol rannau o Gymru er mwyn cael gweld os oes gwirionedd i honiad True Wales?