Mae Dafydd Ellis Thomas yn gwbl gywir i alw am ddiddymu’r Swyddfa Gymreig. Mae’r sefydliad yn gostus, ac yn perthyn i gyfnod yn hanes Cymru sydd yn gyflym gilio i’r gorffennol. Fel mae cyfranwr anhysbys i’r blogiad diwethaf yn ei ddweud, byddai dyn yn disgwyl i’r elfennau hynny sydd byth a hefyd yn cwyno am ormod o wariant gan y wladwriaeth yn rhoi croeso di amwys i ddatblygiad fel hyn.
Mae gen i un gwelliant i’w gynnig i awgrym Dafydd fodd bynnag. Un o’r dadleuon a ddefnyddwyd gan True Wales oedd y byddai newid y drefn oedd yn bodoli cyn dydd Iau yn atal deddfau Cymreig rhag cael eu craffu’n ddigonol. 'Doedd y ddadl ddim yn dal dwr ynddi ei hun oherwydd nad oedd y drefn roedd True Wales yn ceisio ei hamddiffyn yn caniatau craffu ystyrlon mewn gwirionedd. Ond wedi dweud hynny, mae yna ddadl tros fwy o graffu na sy'n digwydd oddi mewn i strwythurau'r Cynulliad.
Fy awgrym i fyddai ffurfio pwyllgor - beth am ei alw'n Gyngor Cenedlaethol? - a fyddai'n cynnwys un cynrychiolydd o pob un o 22 cyngor sir i wneud y gwaith. Ni fyddai hyn yn ddrud, fydd deddfau ddim yn cael eu creu'n aml iawn, ac ni fyddai'r corff ond yn eistedd pan fyddai gwaith craffu i'w wneud. Byddai'r arian a arbedir o gau'r Swyddfa Gymreig yn talu sawl gwaith trosodd am gostau'r corff.
Byddai sawl mantais i drefniant fel hyn. Byddai gwaith ail siambr yn cael ei wneud yn hynod o rhad ac heb greu dosbarth newydd o wleidyddion proffesiynol. Byddai'r drefn yn cryfhau'r berthynas rhwng llywodraeth leol a'r Cynulliad ac yn datganoli peth grym i'r siroedd, ac yn dod a gwaith y Cynulliad yn nes at bobl gyffredin. Byddai hefyd yn grymuso llywodraeth leol ac yn codi ei statws.
Mewn geiriau eraill byddai llywodraeth leol, y Cynulliad a'r trethdalwr yn elwa.
5 comments:
Mm, syniad diddorol iawn. Ac ni alla i feddwl am wrthwynebiad ar hyn o bryd. Ai un o aelodau etholedig o bob cyngor sir wyt ti'n ei olygu? Gallai hi fod yn swydd benodol yng nghabinet pob cyngor sir, efallai. Byddai'n ffordd dda o gael Ail Siambr cwbl etholedig heb orfod cynnal etholiadau ychwanegol drud. Ac yn rhatach i'w weithredu na'r Swyddfa Gymreig, fel rwyt ti'n dweud.
Fe es i i dudalen Dafydd Ellis Thomas ar wikipedia gynne - http://en.wikipedia.org/wiki/Dafydd_Elis-Thomas -(i weld beth yw ei oed), a sylwi ar gamgymeriad. Bron ar waelod y golofn ar y dde (o dan ei lun), mae'n dweud:
Political Party: None
Other political affiliations: Plaid Cymru (until 1999).
Nawr, dwi'n gwybod ei fod yn Llywydd, ond mae'n dal i fod yn aelod etholedig y Blaid, yndi?
Dwn i ddim sut i'w newid - sgwn i a wyr awdur neu un o ddarllenwyr y blog hwn?
Iwan Rhys
Ia - meddwl am aelodau etholedig oeddwn i.
Dwi erioed wedi golygu wikipedia - ond mi ddylai fo yn weddol hawdd.
Dw i ddim yn gweld y pwynt mewn rhoi rôl craffu i aelodau'r cynghorau. Mae hanner y seneddau yn y byd yn defnyddio system un siambr felly pam drysu'r sefyllfa gydag ail siambr wedi ei chyfansoddi o gynghorwyr lleol a hwythau heb unrhyw brofiad o ddeddfu?
Gallwn ni gadw Ty Gwydr (Ty Swyddfa Cymru) am y tro nes ei fod yn lysgenhadaeth Cymru annibynnol yn Lloegr?
Mae'r gofnod wedi ei chywiro. Ga i annog pawb i gyfrannu, yn arbennig i'r wicipedia Cymraeg. Gall hwn fod yn adnodd gwerthfawr iawn - pe bai mwy yn cyfrannu
Post a Comment