Monday, March 21, 2011

Prifddinas partion brenhinol

Anaml iawn y bydd blogmenai yn trafod materion brenhinol - ond dyma i chi ail flogiad ar y pwnc mewn ychydig oriau. Ymddengys bod ein prifddinas ymysg yr ardaloedd mwyaf parod i gynnal parti i ddathlu'r diwrnod mawr yn y DU - gyda Llundain yn unig efo mwy o bartion ar y gweill. Llongyfarchiadau hefyd i Weriniaeth Sosialaidd Rhondda Cynon Taf am ddangos cymaint o frwdfrydedd brenhinol.

Beth bynnag - dyma'r sgor hyd yn hyn o ran partion sydd wedi eu trefnu, neu sydd yn y broses o gael eu trefnu.

SIR Nifer Partion
Ynys Mon 0
Blaenau Gwent 0
Pen y Bont 3
Caerffili 15
Caerdydd 30
Caerfyrddin 2
Ceredigion 0
Gwynedd 0
Conwy 10
Dinbych 0
Fflint 6
Gwynedd 0
Merthyr 0
Mynwy 2
Castell Nedd Port Talbot 3
Casnewydd 4
Penfro 2
Powys 3
Rhondda Cynon Taf 17
Abertawe 7
Torfaen 1
Bro Morgannwg 4
Wrecsam 5

Data i gyd gan y BBC

2 comments:

Anonymous said...

Dim ond 2 parti yn Sir Mynwy? :O

Dwi'n credu bod 'na fwy o bartïon yn y cymoedd oherwydd bod mwyafrif y trigolion yn adnabod ei gilydd ac yn cymryd unrhyw gyfle i yfed a joio... mae llawer o bentrefi'r cymoedd yn teimlo fel un stryd hir!

Anonymous said...

Fe glywais am un lle (alla i ddim cofio ble) oedd yn cynnal parti gwrth-briodas gyda guillotine a pethau tebyg. Pwy a wyr beth yw natur y partion yma i gyd.

Wrth gwrs, caniatad i gau stryddoedd sy' gyda ni fan hyn. Duw a wyr faint o bartion sy'n mynd ymlaen mewn canolfanau cymuned, neuaddau pentref etc.