Wednesday, March 02, 2011

Polau piniwn rif y gwlith

Roeddwn braidd yn flin efo fi fy hun y diwrnod o'r blaen - wedi aros cyhyd am bol piniwn ynglyn a'r refferendwm, cefais neges destun gyda chanlyniad pol piniwn YouGov ar gyfer Y Byd ar Bedwar ychydig oriau cyn y rhaglen - ond roedd y ffon mewn cot o dan y grisiau - felly collais y cyfle i ddatgelu'r canfyddiadau ymhell cyn i'r rhaglen wneud hynny. Felly dyna gyfle euraidd wedi ei golli.

Hwyrach na chaf gyfle eto - mae cynnwys y pol sydd i'w rhyddhau heno eisoes wedi eu ymddangos ar y We - ac mae cynnwys un arall sydd i'w ryddhau heno eisoes ar y We ac yn y Western Mail. Mae'r ddau yn cadarnhau canfyddiadau pol dydd Llun - y bydd tua dau draean o'r etholwyr yn fotio Ia.

Mae pol y Western Mail yn hynod ddiddorol - mae'n awgrymu bod mwyafrif pobl Cymru eisiau mwy o lawer o rym na sy'n cael ei gynnig yn refferendwm 'fory - grymoedd tros drethiant a'r gyfundrefn cyfiawnder er enghraifft. Hwyrach bod refferendwm neu ddau arall o'n blaenau yn y dyfodol agos - Dduw a'n gwaredo.

6 comments:

Anonymous said...

Felly mae na rai, (tua 20 allan o'r 1000), ddim am bleidleisio 'Ie' yn y refferendwm hwn, ond maen nhw eisiau gweld pwerau dros yr heddlu a threthiant yn dod i'r Cynulliad. Rhyfedd de?!

Iwan Rhys

Anonymous said...

Gawn ni wel sut aiff pethe fory. Dwi'n amau mai Ie fydd hi, ond dwi'm yn siwr sut aiff y bleidlais. Dwi'n amau wedyn fod pethau am ddechrau symud yn reit sydyn. Bydd lleihau nifer yr aelodau seneddol, problemau economaidd, Yr Alban, o bosib datbliadau yn Iwerddon etc yn creu hinsawdd lle mae pobl yn agored i ragor o bwer i Gymru. Cawn weld.

Dwi meddwl y bydd Ewrop mewn 15 mlynedd yn lle gwahanol iawn i'r hyn mae nawr. Wn i ddim sut, ond mi fydd yn wahanol. Yn yr un ffordd ag y gwnaeth cwymp Mur Berlin a diwedd y Rhyfel Oer hi'n 'saff' i bobl bleidleisio 'Ie' yn 1997, mae'r symudiadau yn y byd Arabaidd am effeithio arnom hefyd - ond wn i ddim sut chwaith.

Unknown said...

be 'di proffwydoliaethau pawb?

dw i'n rhagweld 58% yn deud ia

Dewi Harries said...

55% - 45% (i ni...)

Cai Larsen said...

Dwi wedi hen roi'r gorau i broffwydo!

Anonymous said...

Ie - 62%
Na - 38%

Iwan Rhys