Wednesday, March 16, 2011

Llongyfarchiadau i Gyngor Mon _ _ _ _

_ _ _ ar fod y cyngor cyntaf yng Nghymru i gael eu pwerau wedi eu trosglwyddo i gomisiynwyr annibynnol. Yn wir hyd y gwn i dyma'r tro cyntaf i'r ffasiwn beth ddigwydd yn y DU. Pwy fyddai wedi disgwyl i Gyngor Mon o bawb fod mor flaengar ac arloesol?

Mae'n rhaid bod pawb ar yr ynys yn hynod falch o'u cynghorwyr heno.

9 comments:

Anonymous said...

Dwi'n meddwl mae Cyngor Doncaster oedd y cyntaf. Ddylsa ni ofyn i Tal Michael roedd o'n arfer gweithio i Doncaster.

Cai Larsen said...

Dwi'n meddwl mai monitro'r cyngor yn hytrach na'i redeg oedd joban y comisynwyr yn Doncaster - er nad ydw i'n 100% siwr.

Anonymous said...

Doedd dim dewis arall ond mae bai ar bleidiau gweleidyddol ac etholwyr Mon am beidio enwebu ymgeiswyr mewn cymaint o wardiau. Oce, efallai y byddent yn colli ond cael cymaint o etholiadau diwrthwynebiad yw gwraidd y drwg

Anonymous said...

Llongyfarchiadau yn wir. Os yw'r Moniars yn fotio i gael Maer, pwy fydd y First Anglesonian dywedwch - Peter Rogers, John Stevenson neu'r Driwid?

Cai Larsen said...

Anhysb - Llongyfarchiadau yn wir. Os yw'r Moniars yn fotio i gael Maer, pwy fydd y First Anglesonian dywedwch - Peter Rogers, John Stevenson neu'r Driwid?

Gareth winston roberts OBE efallai?

Diawl drwg said...

Ond pwy sydd ar fai? Pam bod y bwrdd adfer yn gwrthod eu henwi?

Cwestiwn i blogmenai - ai'r aelod a enwir uchod gennych ydi'r drwg yn y caws? Byddwch yn onast rwan!!

Cai Larsen said...

Mae wedi cymryd nag ymdrechion glew un boi i ddod a phethau i hyn mae gen i ofn.

Anonymous said...

Cyngor Mon = Cyngor Y Bradwyr

Bwlch said...

Cyngor Mon = Freemason ffaith! Dyma ble mae'r wir broblem!!!!