Friday, March 04, 2011

Graffiau True Wales

Roeddwn yn rhyw feddwl y byddai rwan yn amser da i dynnu sylw at y gyfres o bolau piniwn a gyhoeddwyd gan True Wales yn yr wythnosau cyn yr ymgyrch. Mae'n amlwg nad ydyn nhw'n dda iawn efo methodoleg polio a 'ballu. Wedi'r cwbl, go brin y byddai neb yn creu polau celwyddog yn fwriadol - hyd yn oed True Wales. Gobeithio.


Bari a'r Bontfaen:




Aberhonddu:


Aberteleri:



Caerfyrddin:



Merthyr a Rhymni:


Glas: Diddymu'r Cynulliad.

Gwyrdd: Cadw at yr hen drefn.

Melyn: Mwy o bwerau i'r Cynulliad.

Coch: Annibyniaeth i Gymru.

Piws: Ddim yn gwybod.

3 comments:

Anonymous said...

Byswn i'n hoffi clywed union eiriad y cwestiwn oedden nhw'n ei ofyn!

Diawch, roeddwn i'n agos ati gyda fy mhroffwydoliaeth:
Ie - 62%
Na - 38%

Trueni na fuasai potel o win wedi'i gynnig tro ma!

Iwan Rhys

Cai Larsen said...

Guto Bebb sy'n cynnig rheiny mae gen i ofn.

Anonymous said...

Mae'n methu fforddio cynnig poteli o win nawr ei fod e'n gorfod prynu ei bapurau newydd ei hun ar gyflog pitw AS ;)

IRh