Wednesday, December 08, 2010

Canlyniadau profion PISA


Felly mae'r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews yn flin oherwydd bod canlyniadau arolwg PISA yn awgrymu bod plant Cymru yn perfformio'n salach na rhai gweddill y DU o ran sgiliau rhifedd, darllen a gwyddoniaeth sylfaenol. Ymddengys ein bod ni hefyd yn perfformio'n waeth na'r cymedr rhyngwladol. Mae'n ddealladwy bod Leighton yn poeni.

Wedi dweud hynny, hwyrach y byddai mymryn o fewnsylliad ar ran Leighton yn syniad da, cyn iddo fynd ati i feio ysgolion y wlad. Mae gwariant y pen ar addysg yng Nghymru tua £500 y flwyddyn yn llai yng Nghymru nag yn Lloegr. Datblygodd y bwlch yma yn gyfangwbl rhwng 2003 a 2007 - y blynyddoedd pan oedd Llafur - plaid Leighton - mewn grym yn y Bae ar ei phen ei hun. Roedd ganddi flaenoriaethau eraill ar y pryd.

A 'dydi Paul Davies, llefarydd y Toriaid ar addysg ddim yn hapus chwaith. Fel rydym wedi trafod eisoes, byddai toriad pellach o tua 20% yn y gyllideb ysgolion petai cynlluniau gwallgo plaid Paul i amddiffyn y gyllideb iechyd ar draul pob dim arall yn cael eu gwireddu. Tybed beth fyddai hynny yn ei wneud i safonau?

14 comments:

Anonymous said...

Roedd Robat Powell yn siarad yn dda am y peth ar Taro'r Post heddiw - dweud bod mwy iddi nag ysgolion - bod tlodi'n ffactor, dim ysgogiad i lwyddo a diwylliant sy'n rhoi pwyslais ar selebs etc (O leia dwi'n meddwl mai dyna ddwedodd e).

Cai Larsen said...

Mae dosbarth cymdeithasol yn bwysig wrth gwrs - ac mae rhannau sylweddol o Gymru wedi ei boblogi gan bobl dosbarth gweithiol yn bennaf - mwy felly na Lloegr mae'n debyg.

Anonymous said...

sori, ddim yn derbyn dadle asgell chwith blinedig a cliched Robat Powell.

Mae gwledydd tlotach na Chymru'n gwneud yn well.

Mae bai ar sawl ty. Gan gynnwys meddylfryd asgell chwith sydd ddim yn ysgogi rhagoriaeth (mae hynny'n elitaidd chi'n gweld), sydd wedi tanseilio strwythurau addysg amgen (Ysgol Sul i chi a fi), wedi tanseilio disgybliaeth (roedd hynny'n hierarchaidd a patriarchaidd yn ol y Chwith), sydd wedi tanseilio'r teulu (ditto).

At hynny, mae'r farwol o adael i Lywodraeth Lafur reoli eich gwlad + gadael i unedebau athrawon redeg yr agenda addysg. Cymru'n cael gwared ar brofion SATS achos cwyno gan athrawon.

Na, nid arian yw'r broblem, nid maint dosbarthiadau yw'r broblem. Athrawon, diwylliant dysgu asgell chwith a llywodraeth Blaid Lafur yw'r broblem.


Cenedlaetholwr a Thad

Cai Larsen said...

Os wnei di ddarllen yr adroddiad mi weli bod tystiolaeth eithaf cryf bod diwylliant plant yn bwysig - ond fedra i ddim gweld unrhyw dystiolaeth bod systemau addysg 'asgell chwith' yn tan berfformio.

Os rhywbeth y gwrthwyneb sy'n dod i'r amlwg.

Dylan said...

Nonsens gan Anon. Mae malu cachu am "danseilio'r teulu" wastad yn canu larwm swnllyd yn fy mhen. Jiberish di-ystyr.

Y gwir ydi does gan neb ohonom fawr o syniad pam dan ni'n wlad mor dwp. Dylid gochel rhag beio'r "dde" neu'r "chwith", achos mae cymaint o ffactorau i'w hystyried. Mae angen i ni gyd grafu pen yn ddwys.

trist (ond i'w ddisgwyl wrth gwrs) oedd yr ymatebion hyll yn y sylwadau ar flog Bestan hefyd

Anonymous said...

Be mae pawb fel pe tasent wedi ei anghofio ydi diwedd profion yng Nghymru. Er gwell, neu waeth (gwell meddwn i) does dim profion ffurfiol yn y pynciau craidd yma yng Nghymru yn 11 neu 14 bellach.
Problem hyn ydi, nad ydi plant Cymru bellach yn cael eu trwytho i basio profion, a phasio profion yn unig. Credwch fi mae'n hawdd iawn i gael plant i basio prawf gan wneud dim arall o Ionawr tan Mai, maent yn gallu dysgu fel parot yn hawdd; cwestiwn arall ydi os ydynt yn gallu deall neu defnyddio hyn mewn cyd-destyn neu faes arall.
Tydi tan wariant Cymru /Lloegr o £500 y pen ddim yn swnio'n llawer ond i ddosbarth o 25 o blant mae'n golled ar wariant, unai adnoddau neu gymorth o £12,500 y flwyddyn. 25 cluniadur, cymhorthydd tri chwarter wythnos, 250 o lyfrau, 25 o dripiau addysgol... mae'r rhestr yn ddi-ddiwedd.

Mae canran fwyaf gwariant ysgolion yn mynd ar gyflog athrawon, felly dydi gwario llai y pen yn rhyngwladol ddim yn gwneud synnwyr yn y ddadl, tynnwch gyflog athrawon allan, y gweddill sy'n bwysig o ran cymharu gwahaniaeth. hy. mae cyflog athrawon Cymru a Lloegr yn union yr un fath, ond mae ysgolion Lloegr yn dal i gael £500 y pen yn fwy. Mae cyflogau yn y gwledydd eraill y sonnir amdanynt yn isel yn gyffredinol on mae yn a felly, wedi talu'r athrawon, fwy o arian i gael adnoddau.

Dwi'n meddwl bod 2 reswm tu ol i ganlyniadau 'gwael' Cymru. Diffyg arian i adnoddau (ar ol talu athrawon) a 'diffyg' hyfforddi plant i basio arholiad.

Cai Larsen said...

Hmm - Anhysb 12.32 - rhywun sy'n gwneud yr un job a fi efallai!

Anonymous said...

Mae darllen yr adroddiad yn cynnig lot o'r atebion i ni.

Ynghylch ymateb Anhysbys 9.37pm mae'r adroddiad yn awgrymu fod tlodi cymharol, nid tlodi absoliwt, yn ffactor pwysig.

Mae yna lwyth o wybodaeth diddorol yno ynghylch y gwahaniaethau rhwng y gwledydd a pam fod rhai yn methu ac eraill yn llwyddo. e.e. mae'n awgrymu fod gosod disgyblion mewn setiau yn ol eu gallu yn wael; mae rhoi fwy o ryddid cwricwlwm i ysgolion unigol yn dueddol o fod yn fwy llwyddianus; ac yn ddiddorol, mewn ymateb i bwynt Anhysbys 12:32, mae'n nodi fod y gwledydd mwyaf llwyddianus yn gwario mwy o'u harian ar gyflog athrawon yn hytrach nag ar ddeunyddiau addysgiadol eraill.

Hyn a llawer iawn mwy.

Byswn i'n argymell pawb i'w ddarllen.

Anonymous said...

Dydy Llafur ddim yn ffit i fod yn gyfrifol am addysg ein plant.

Aled GJ said...

Er mor siomedig yw'r canlyniadau hyn mewn gwlad sydd wastad wedi rhoi pwys mawr am addysg, o leiaf mae'n cynnig cyfe i Leighton Andrews gyflwyno newidiadau radical i'r system addysg Gymreig. Mae angen creu Diwylliant Dysgu llawer mwy agored a pharhaus na'r hyn sydd yma ar hyn o bryd.Yn bersonol,hoffwn i weld ysgolion uwchradd yn datblygu'n ofodau dysgu llawer mwy eangfrydig, fyddai'n cynnwys cyfle i ddisgyblion ddysgu gyda phobl y tu hwnt i rengoedd athrawon. Dylid hefyd ystyried addysgu pobl ifanc ochr yn ochr a'u rhieni/oedolion eraill. Mae addysg yn rhy bwysig i'w adael jest i ddisgyblion ac athrawon.

Anonymous said...

Mabon ddwedodd: "mae'n nodi fod y gwledydd mwyaf llwyddianus yn gwario mwy o'u harian ar gyflog athrawon yn hytrach nag ar ddeunyddiau addysgiadol eraill."
Pwynt ddigon diddorol - rhaid i mi ddarllen yr adroddiad! Mae'r gymhariaeth rhwng Cymru a LLoeger yn gwrth-ddweud dy bwynt di dwi'n meddwl. Cymru sy'n gwario canran uwch o'i budget ar gyflogau.

Cai Larsen said...

Sylwadau digon diddorol gyfeillion - rhai 'dwi'n cytuno efo nhw, a rhai 'dwi ddim.

Os caf amser mi edrychaf yn fwy manwl am y profion ganol wythnos nesaf.

Anonymous said...

Rhagor o gyflog i athrawon! O diar!

Anonymous said...

Fel athro uwchradd, mae arnaf ofn i'r canlyniadau gadarnhau fy mhryder - mae safonau pynciau craidd disgyblion wedi disgyn ers i ni gael gwared o'r profion 11 ac 14. Nid bod cael gwared ohonynt yn drychineb ynddo'i hun, ond ni gyflwynwyd system amgen o asesu.Mae gormod o amser wedi mynd ar safoni, a rhy ychydig ar godi safonau. Mae safonau Cymru bellach yn salach na rhai Lloegr, yn sicr mewn mathemateg a gwyddoniaeth. Anwybyddwyd argymellion adroddiad Smith yn llwyr yng Nghymru, ac yr ydym yn talu'r pris. Yn Lloegr , mae gwynt adweithiol yn chwythu bellach, gyda pwyslais ar ddisgyblaeth ac arholiadau. Ni fydd hyn yn beth drwg i gyd. Maee gormod o falwyr awyr wedi pasio fel tan siafins drwy Fae Caerdydd, gan ein gadael gydag un blaengaredd drud, diddefnydd ar ol y llall. un gwendid sylweddol hefyd yw anallu pryderus nifer o athrawon < 40 oed i ysgrifennu'n synhwyrol yn y Gymraeg - yr oedd gwallau iaith ein hadroddiadau diwethaf y tu hwnt i bob crediniaeth. Mae pob beirniadaeth adain dde o'n system addysg yn hollol ddilys. Mae'n hen bryd i rhywun roi taw ar y berthynas losgachol rhwng ysgolion ac ESTYN
(Yn enwedig yn y sector Cymraeg)
sy'n stopio unrhyw fath o wrthrychedd.