'Doeddwn i erioed wedi clywed y term arwahanrwydd cyn helyntion diweddar S4C. Defnyddir y term yn y cyd destun yma i ddisgrifio'r polisi o gadw hyd braich rhwng Awdurdod y sianel a'i swyddogion. Diflanodd yr arwahanrwydd hwnnw fel gwynt o flaen glaw yn sgil cyfuniad o drafferthion yn dilyn newid llywodraeth yn San Steffan. 'Dydi hynny ynddo'i hun ddim yn syndod mawr - byddai'n rhesymol disgwyl ymyraeth uniongyrchol gan yr Awdurdod yn sgil y gors roedd y sianel wedi cael ei hun ynddi erbyn hynny.
Beth bynnag, mae diflaniad yr arwahanrwydd hwnnw wedi arwain at ddiflaniad pob math o arwahanrwydd mewn perthynas a'r sianel. Datblygodd arwahanrwydd rhyfeddol rhwng yr Awdurdod a'i gadeirydd. Mae'n anarferol i wleidyddion alw'n agored am ymddiswyddiad aelodau cwango, ond mae hyn wedi digwydd sawl gwaith yn ddiweddar yn achos Awdurdod S4C - gydag amrediad o wleidyddion o aelodau seneddol Toriaidd i Lywydd y Cynulliad yn gwneud hynny. Mae golygydd materion Cymraeg y Bib, Vaughan Roderick yn ei dro wedi tynnu sylw at gynildeb efo'r gwirionedd ar ran Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr S4C - er bod Vaughan, yn wahanol i'r gwleidyddion, yn darparu tystiolaeth tros ei osodiad.
'Rwan mae'n bosibl bod gan yr oll o'r bobl uchod resymau da tros alw am ymddiswyddiad yr Awdurdod, mae nhw'n cael mwy o wybodaeth na chi neu fi - ond mae yna stori arall yn mynd rhagddi yn y cefndir. Mae'r Awdurdod wedi mynegi bod newid polisi comisiynu ar y gweill - ac y bydd mwy o gyfle i gwmniau cynhyrchu llai a chwmniau newydd gael gwaith. Mae goblygiadau pell gyrhaeddol, anymunol a hynod o ddrud yn y newid yma i'r cwmniau cynhyrchu sy'n dominyddu allbwn y sianel ar hyn o bryd. Byddai'n naturiol ddigon i'r cwmniau hynny geisio amddiffyn eu sefyllfa - a'r ffordd amlwg o wneud hynny fyddai trwy briffio pobl sydd a dylanwad - megis gwleidyddion a'r cyfryngau torfol - a briffio yn erbyn ffynhonnell y bygythiad iddynt - Awdurdod S4C yn yr achos yma.
'Dwi ddim yn gwybod os ydi hyn yn digwydd neu beidio - does gen i ddim ffordd o wybod hynny. Ond efallai y dylai'r sawl sydd a'u cyllell yn Awdurdod S4C ystyried yn ddwys o ble mae'r wybodaeth maent yn seilio eu gwrthwynebiad i'r corff arno wedi dod, ac ymhellach holi pam maent yn cael y wybodaeth honno wedi ei gyflwyno iddynt.
No comments:
Post a Comment