Byddwch yn cofio i'r profion sy'n cael eu defnyddio mewn amrediad eang o wledydd datblygedig, ddangos bod perfformiad Cymru wedi gostwng tros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Bydd y rhai ohonoch sydd wedi edrych ar y dudalen sylwadau wedi nodi bod gwahanol gyfranwyr yn dod i'w casgliadau eu hunain ynglyn a'r rhesymau am y gostyngiad. Addysg 'adain chwith' sy'n cael y bai gan amlaf.
Rwan, cyn cychwyn mi hoffwn i ddweud nad wyf yn derbyn bod y profion yn anilys, na eu bod ond yn adlewyrchu gallu ysgolion i 'ddrilio' plant. Mae'r drefn brofi yn broffesiynol, trylwyr ac yn ymwneud yn bennaf a gallu plant i gymhwyso eu sgiliau sylfaenol i sefyllfaoedd pob dydd. Mewn geiriau eraill 'dwi'n derbyn bod system addysg Cymru yn tan berfformio. Mae'r canlyniadau yn rhoi lle i ni oll ofidio - mae addysg o safon uchel yn bwysig iawn mewn gwlad fel Cymru sydd heb y gallu i addasu ei pholisiau cyllidol ac economaidd i roi mantais economaidd iddi. Creu gweithlu addysgiedig a dyfeisgar ydi'r unig erfyn economaidd gwirioneddol bwerus sydd gennym yn ein dwylo ni'n hunain, a rydym yn methu a chymryd mantais o hwnnw mae gen i ofn.
'Dydi'r adroddiad PISA ddim yn cynnig atebion fel y cyfryw, ond mae'n cymharu nodweddion systemau llwyddiannus, a rhai llai felly - a mae'r gymhariaeth yn ddadlennol os yn gymhleth. Nodaf rhai o'r prif ganfyddiadau (ynghyd a sylw neu ddau gen i) isod:
- Mae'r systemau gorau yn cynnig addysg o ansawdd uchel i bawb - ac addysg gynhwysol. Lle mae disgwyliad bod plant o gefndiroedd arbennig am fethu, yna mae'r disgwyliad hwnnw yn tueddu i gael ei wireddu. 'Dydi gwahanu plant yn unol a chanfyddiad o allu neu ddiffyg gallu ddim yn creu deilliannau cadarnhaol.
- Mae'r berthynas rhwng tlodi a than gyflawniad addysgol yn gymhleth. Mae rhai o'r gwledydd sydd yn agos i frig y rhestr yn gymharol dlawd yn nhermau GDP. Hefyd mae plant o gefndiroedd tlawd yn tueddu i wneud yn well os ydynt mewn ysgolion sydd a llawer o'u plant o gefndiroedd mwy cyfoethog. Wedi dweud hynny mae'r rhan fwyaf o blant sy'n methu o gefndiroedd tlawd.
- Mewn gwledydd lle mae lefel uchel o atebolrwydd i ysgolion, maent yn perfformio'n well os nad oes gormod o ymyraeth ganolog ar sut a beth maent yn dysgu. Lle nad oes atebolrwydd mae'r gwrthwyneb yn wir.
- Does yna ddim tystiolaeth bod cystadleuaeth ymysg ysgolion yn creu canlyniadau gwell.
- Dydi'r sector breifat ddim yn fwy effeithiol na'r un gyhoeddus.
- Lle mae cyflogau athrawon yn gymharol uchel mae'r deilliannau yn well. Mae hyn yn llawer pwysicach na maint dosbarthiadau bach. Awgryma hyn bod ansawdd addysgwyr ymysg y ffactorau pwysicaf i lwyddiant cyfundrefn addysg.
- Mae disgyblaeth gadarn ynghyd a pherthynas gadarnhaol rhwng staff a phlant yn ffactorau pwysig.
- Mae disgwyliad o fethiant yn creu methiant, ac mae disgwyliad o lwyddiant yn creu llwyddiant. Mae felly'n dilyn bod ysgolion yn disgwyl llwyddiant gan pob grwp o ddisgyblion. Mae hefyd yn bwysig bod plant eu hunain a'u rhieni yn disgwyl llwyddo - ac i'r graddau yna mae angen dod o hyd i ffordd o addasu diwylliant llawer o gymunedau yng Nghymru. Ni all ysgolion ar eu pennau eu hunain wneud hyn - er bod ceisio sicrhau cynhwysiad oddi mewn i'r ysgol yn helpu.
- Mae ansawdd addysgwyr yn bwysicach na bron dim arall. Golyga hyn greu gweithdrefnau recriwtio (a strwythur cyflog) effeithiol a threfniadau hyfforddiant mewn swydd o safon uchel. Eto, mae'r darlun ar y gorau, yn dameidiog yng Nghymru.
- Mae'n bwysig cael cydbwysedd priodol rhwng atebolrwydd ac annibyniaeth ysgolion. Byddai'n llawer mwy effeithiol petai'r Cynulliad yn penderfynu ar ei flaenoriaethau a'i dargedau ac yn gwneud ysgolion yn atebol am eu gweithredu trwy gynnwys y blaenoriaethau hynny yn y fframwaith arolygu. Mae'r drefn bresenol lle ceir llu o wahanol flaengareddau yn cael eu cyflwyno oddi uchod mewn ffyrdd presgriptif ac anystwyth yn aneffeithiol. Byddai'n llawer gwell gosod blaenoriaethau a thargedau, rhoi'r rhyddid i ysgolion fynd i'r afael a nhw yn eu ffyrdd eu hunain, a'u harolygu oddi mewn i fframwaith ESTYN.
No comments:
Post a Comment