Wednesday, December 01, 2010

Daearyddiaeth a hunaniaeth

Mae'r pwynt mae Vaughan yn ei wneud ynglyn a chanlyniadau'r pol piniwn ICM / BBC a gyhoeddwyd heddiw yn un diddorol. Yr hyn sydd ganddo ydi nad oes yna amrywiaeth mawr yn natur y bleidlais debygol ar hyd a lled Cymru, ac mai bach ydi'r gwahaniaeth rhwng yr ardaloedd a bleidleisiodd Ia a Na yn 97.

'Rwan 'dwi'n mawr obeithio bod y canfyddiad yma'n un cywir. 'Dwi'n argyhoeddiedig y byddai Cymru yn cael llawer mwy o ymreolaeth a hynny yn gynt petaem fel unigolion yn gallu gwahanu natur ein hunaniaeth a'n barn ynglyn a llywodraethiant Cymru. Ond mae gen i ofn nad ydw i mor siwr bod hynny wedi digwydd. Mae yna ddau reswm am hyn.

Yn gyntaf 'dwi wedi bod yn gwneud ychydig o ffonio yn holi am agweddau pobl at y refferendwm yn ddiweddar - a'r grwp mwyaf o ddigon yn fy mhrofiad i ydi'r un sy'n dweud dwi ddim yn siwr. Efallai bod ICM yn dda am wasgu ateb atebion allan o bobl - ond fy nheimlad i ydi bod pethau'n llai pendant na mae'r polau piniwn (calonogol iawn) diweddar yn awgrymu.

Yn ail 'dydw i ddim yn credu ein bod at ein gilydd yn gallu gwahanu'n hunaniaeth a'n barn am amrediad o faterion cymdeithasol a chyfansoddiadol. Ceir cysylltiad agos yng Nghymru rhwng hunaniaeth cenedlaethol a daearyddiaeth. Hen Gymru'r Tywysogion a'r maes glo ydi'r ardaloedd lle mae hunaniaeth Gymraeg gryfaf, a dyma'r ardaloedd a bleidleisiodd Ia yn 97. Mae'r cysylltiad yma rhwng hunaniaeth a lleoliad daearyddol yn hen, ac mae'n arwyddocaol.

Mae gen i ofn eich bod ar fin dod ar draws un o'r cymariaethau Gwyddelig sy'n nodwedd ecsentrig braidd o'r blog yma. Mae refferenda yn ddigwyddiadau mynych yng Ngweriniaeth Iwerddon, oherwydd bod rhaid i'r llywodraeth ofyn i'r bobl cyn gweithredu unrhyw ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar y cyfansoddiad. Mae'r refferenda cynhenus yn tueddu i fod yn rhai sy'n ymwneud a gwerthoedd cymdeithasol pobl, neu rai sy'n ymwneud a hygrededd cyfansoddiadol y Weriniaeth. Ceir patrwm daearyddol pendant ond paradocsaidd, ac mae'r patrwm hwnnw wedi goroesi trwy gydol bodolaeth y wladwriaeth.

Efallai mai'r ffordd orau o ddangos yr hyn sydd gen i ydi trwy gymharu dwy etholaeth tra gwahanol - Donegal North East, etholaeth wledig iawn ac arch geidwadol yng ngogledd pell yr ynys, a Dublin South West, etholaeth fyrlymus, broletaraidd sydd wedi ei chanoli ar stad dai cymdeithasol anferth Tallaght yn Ne Dulyn.

Mewn refferenda sy'n ymwneud a materion teuluol a chymdeithasol (erthyliad, ysgariad ac ati) bydd y ddwy etholaeth ar begynnau gwahanol yr amrediad pleidleisio. Er enghraifft yn refferendwm The Protection of Human Life in Pregnancy 2002 roedd y ganran o bobl Donegal North East oedd eisiau tynhau'r gyfraith erthyliad (oedd eisoes yn gaeth iawn wrth gwrs) yn uwch na 70%. Roedd y ganran yn hanner hynny yn Dublin South West.

Yn 2008 cafwyd refferendwm o fath gwahanol - Treaty of Lisbon I oedd yn ymwneud ag ehangu pwerau'r Undeb Ewropeaidd. Roedd llawer o Wyddelod yn ystyried y cytundeb yn fygythiad i sofraniaeth y Weriniaeth. Donegal North East a Dublin South West oedd yr etholaethau gyda'r canrannau isaf i bleidleisio tros y cytundeb. 'Rwan mae yna batrwm yn hanes diweddar Iwerddon bod proletariaid trefol a cheidwadwyr gwledig yn ystyried mai eu busnes nhw ydi amddiffyn y Weriniaeth - hyd yn oed os nad ydynt yn cytuno ar lawer o bethau eraill. Mae hyn yn wir mewn adegau o ryfel - rhyfel annibyniaeth y 20au cynnar (pan mai yn nychymyg pobl yn unig oedd y Weriniaeth yn bodoli) ac yn y rhyfel hir diweddar yn y Gogledd; ac mae'n wir mewn amserau heddychlon hefyd. Mae'r glymblaid yma o bobl wahanol iawn yn dod at ei gilydd yn wyneb canfyddiad o fygythiadau i'r cysyniad o Weriniaeth yn nodwedd cyson o wleidyddiaeth Iwerddon.

Goroesodd y patrwm yma, ac ailadroddodd ei hun am genedlaethau - ac mae'n gwbl ragweladwy. Mae agweddau pobl, ac yn wir dealltwriaeth pobl o beth ydi o i fod yn Wyddel yn ddibynnol i raddau helaeth ar ble maent yn byw. 'Dwi'n credu bod hyn hefyd yn wir amdanon ni. Ceir cysylltiadau agos rhwng natur ein hunaniaeth, ein hagweddau a lle'r ydym yn byw. Mae'r pol ICM yn awgrymu bod y cysylltiad yna wedi ei dorri yng Nghymru - mewn un agwedd ar ein bywyd cenedlaethol o leiaf. Er y byddwn yn hoffi credu hynny, mi fyddai'n gryn syndod i mi pe gwireddir hynny ym mis Mawrth (er na fyddai'n syndod i mi petai newid sylweddol yn ninas Caerdydd.

Amser a ddengys am wn i.

2 comments:

Alwyn ap Huw said...

Mae'r ffaith bod ardaloedd yr hen dywysogaeth megis Ceredigion a Gwynedd yn parhau i fod ymysg yr ardaloedd cryfaf eu cefnogaeth yn rhoi rhywfaint o hygrededd i dy ddadansoddiad, ond rwy'n credu bod rhywbeth amgen yn digwydd hefyd.

Yr hyn yr oeddwn i'n cael yn niddorol yn sylwadau Vaughan am y pôl oedd y ffaith bod Wrecsam, Conwy a Chasnewydd ( a phleidleisiodd Na yn 97) ymysg rhai o'r ardaloedd mwyaf cefnogol i ddatganoli bellach, ond bod llefydd megis Caerfyrddin a Chaerffili wedi oeri yn eu cefnogaeth (er yn parhau a mwyafrif Ie yn y pôl).

Ym 1997 yr oedd yr ymgyrch o blaid datganoli yn addo nefoedd ar y ddaear pe bai Cymru yn ennill rhywfaint o hunan lywodraeth, atebion Cymreig i broblemau Cymreig; amddiffyniad rhag polisïau wrth Gymreig llywodraeth Sansteffan ac ati. Yr oedd yr ymgyrch Na yn ddarogan pob math o wae; pobl oedd yn methu siarad Cymraeg yn colli eu gwaith, ardaloedd "ymylol" fel Wrecsam a Chasnewydd yn cael eu hanwybyddu, pob dim yn mynd i Gaerdydd a'r Sowth a llefydd megis Llandudno yn y Gogledd pell yn cael eu gadael i fynd i'r cŵn a'r brain.

Onid oes posibilrwydd mae siom sydd yn gyfrifol am y symudiad daearyddol? Bod y sawl oedd o blaid datganoli ym 1997 wedi eu siomi'n arw, ond bod y sawl a oedd yn erbyn datganoli wedi eu siomi ar yr ochor orau.

menaiblog said...

Hwyrach bod gen ti bwynt - mae'r maes yn un diddorol. Er cofia mae holiaduron at ei gilydd yn awgrymu bodlonrwydd yn gyffredinol efo'r Cynulliad.