Sunday, December 19, 2010

Efallai bod pwynt gan Peter Black _ _ _

_ _ _ nid ei honiad bod Leighton Andrews yn gretin wrth gwrs - mae'r sylw yna'n hysteraidd a gwirion hyd yn oed o dan safonau Peter pan mae'n cael y myll. Son am ei ofid am natur ymgyrch Ia'r Blaid Lafur ydw i.

Mi fyddwch yn gwybod mae'n debyg bod Llafur yn rhedeg ymgyrch lled annibynnol o'r brif ymgyrch. Mae'r rhan fwyaf ohonom sydd eisiau canlyniad cadarnhaol i'r refferendwm wedi rhyw dderbyn bod hynny'n beth da - wedi'r cwbl go brin bod neb yn gwybod sut i gael y bleidlais lwythol Lafuraidd allan yn well na'r Blaid Lafur ei hun.

Ond - ac mae yna ond go fawr yma - mae cael y bleidlais Lafur allan yn un peth, ond mae pechu pleidleiswyr Ia potensial Lib Dem a Thoriaidd yn fater arall. 'Dwi ddim yn amau y byddai ymgyrch lwythol fyddai'n sicrhau bod, dyweder, 70% o bleidleiswyr Llafur yn rhoi eu croes yn y bocs cywir yn ddigon i sicrhau pleidlais Ia - o'i roi ynghyd a'r 90%+ o bleidleiswyr Plaid Cymru fydd yn siwr o fod yn yr un corlan. Ond mae er lles tymor hir i ddatganoli bod cymaint a phosibl o bleidleiswyr y Lib Dems a'r Toriaid hefyd yn pleidleisio Ia.

Mae cefnogaeth eang i ddatganoli yn well na chefnogaeth lwythol a chyfyng. Mae pwysleisio y byddai pleidlais Ia yn gic i'r glymblaid yn Llundain ac yn hwb i ymgyrch Llafur yn etholiadau'r Cynulliad yn cyfyngu ar amrediad y gefnogaeth bosibl. Gellir awgrymu'r neges honno heb wneud mor a mynydd o'r peth. Yn anffodus 'dydi Llafur ddim yn dewis mynd o gwmpas pethau felly - ac mae Peter yn gywir i dynnu sylw at y peth.

2 comments:

Anonymous said...

Roeddwn i'n meddwl rhoi cefnogaeh ariannol i IedrosGymru ond dwi'n ail-feddwl gan deimlo fod Llafur am redeg y sioe. Mae datganoli yn rhywbeth i'r genedl nid i un blaid.

Dyfed said...

Cytuno efo ti BM - tydi cael Llafur yn rhedeg y sioe ddim yn beth da, yn rhannol am y rhesymau awgrymaist ti ond hefyd am fod stoc gwleidyddion mor isel.

Dwi hefyd o'r farn nad yw'n beth da fod 'Na dros Gymru' (neu beth bynnag ydi eu henw) yn cael trafferthion i gofrestru eu hymgyrch ac nad oes ganddynt siradwyr Cymraeg digon cryf i ddadlau ar y cyfryngau. Mae angen dadl dda arnom yn ystod yr ymgyrch - achos daw y rhesymau cryf dros gael Ie yn llawer cliriach i bobl gyffredin. Byddai dadl dda hefyd yn sicrhaau bod mwy yn dod allan i fwrw pleidlais.